Mawrth 2021 / Rhifyn 698

Blog link
Chwaraeon

Hepian fel Homer

Lled debyg mai dynwared Llywodraeth y Deyrnas Unedig a wnaeth Llywodraeth Cymru wrth roi Diwylliant a Chwaraeon yng ngofal un Gweinidog – nage, yng ngofal un Dirprwy-weinidog. Ers tair blynedd i fis Tachwedd diwethaf bu’r materion hyn yng ngofal yr Arglwydd Elis-Thomas, a fu ers tro braidd yn gyndyn ei ganmoliaeth i nifer o sefydliadau diwylliannol y Gymraeg (pryd ddiwethaf y clywsoch ganddo air da am y Brifwyl?), ac na fu erioed, am a wn i, yn flaenllaw fel cefnogwr brwd i’r campau ar lawr gwlad (er inni ei weld yn cymryd ei le, fel y dylsai, gyda swyddogion Undeb Rygbi Cymru yn un o eisteddleoedd Stadiwm y Principality ar brynhawniau rhyngwladol).

Ddiwedd Ionawr, i warchod dyfodol rhai campau rhag difethdod yn ystod y pandemig, cyhoeddodd y Dirprwy-weinidog ei fod yn neilltuo £17.7 miliwn i chwaraeon yng Nghymru. Roedd mwy na thri-chwarter yr arian i fynd i’r Undeb Rygbi. Cafodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru filiwn a hanner o bunnau, un rhan o ddeuddeg yr hyn a roddwyd i rygbi.

Derec Llwyd Morgan
Mwy

Porthladdoedd Iwerddon, Cymru a’r cyfandir

Fel pob Cymraes a Chymro sy’n byw yn Iwerddon, dwi’n gyfarwydd iawn â phorthladdoedd y ddwy wlad – yn enwedig Dulyn a Chaergybi – a’r siwrne fferi rhyngddynt. Pan oedd y plant yn fach, roeddwn yn adnabod cynllun mewnol pob un o’r llongau, ac yn gwybod ble yn union i eistedd, er mwyn parcio’r ddau yn ddiogel yn y gornel chwarae fel fy mod i’n gallu nôl paned o goffi a chadw llygad arnyn nhw ar yr un pryd.

Dwi’n gyfarwydd iawn â’r olygfa wrth gyrraedd Caergybi, a mynyddoedd Eryri yn codi yn y cefndir. Dwi’r un mor hoff o’r olygfa wrth gyrraedd harbwr Dulyn gyda’r ddwy simnai uchel goch a gwyn sy’n perthyn i hen bwerdy Poolbeg ac sydd, er nad ydyn nhw’n weithredol bellach, wedi cael eu cadw am eu bod yn symbol i bobl Dulyn o gyrraedd adre. Ac wrth reswm, dwi’n gyfarwydd â phasio’r dwsinau o lorïau wedi eu parcio yn y porthladdoedd – yn barod i gario nwyddau’n ôl a blaen rhwng y ddwy wlad.

Bethan Kilfoil
Mwy
Prif Erthygl

Brown a Gove – Unoliaethwyr Albanaidd a dyfodol y DU

Yn ôl rhifyn diweddar o’r Sunday Times, mae Gordon Brown a Michael Gove wedi bod yn trafod dyfodol y Deyrnas Unedig â’i gilydd, ac yn benodol sut i geisio troi’r llanw sydd bellach yn rhedeg mor gryf o blaid yr SNP ac annibyniaeth i’r Alban. Cadarnhawyd yr adroddiad yn ddiweddarach gan y BBC. Fe gawn ni gymryd, felly, ei fod yn gywir.

Mae’n stori sy’n siarad cyfrolau am Brown a Gove eu hunain, wrth gwrs. Dyma ffigyrau sydd ar begynau gwahanol yn nhermau gwleidyddiaeth Brydeinig, gyda Gove yn cael ei ystyried yn brif feddyliwr y math o wleidyddiaeth sydd bellach wedi bwrw heibio’n llwyr y gwaddol a grëwyd gan Brown yn ystod ei gyfnod fel Canghellor ac yna fel Prif Weinidog. Eto i gyd, mae atgasedd y ddau tuag at yr SNP – a’u cariad tuag at Brydain Fawr, wrth reswm – yn fwy nag unrhyw wahaniaethau syniadaethol ac egwyddorol ymddangosiadol eraill sydd rhyngddynt.

Richard Wyn Jones
Mwy

Milgi, milgi!

Ar ôl treulio’r cyfnod clo cyntaf yn bod yn ddoeth ac aeddfed a hirben a pheidio ildio i’r dyhead i gael ci, mi ddaru’r ail glo chwalu hynny i gyd. Do’n i ddim isio bod yn ‘covidiot ci’ a dod â ffrind blewog i’r tŷ a fyddai, chwe mis a sawl esgid racs yn ddiweddarach, yn canfod ei hun mewn canolfan achub cŵn am fod y cyfnod clo drosodd a finnau’n gorfod gadael y tŷ ambell waith. Ond dwi wedi cael ci o’r blaen – am ddeuddeg mlynedd – felly does bosib ’mod i’n ddigon ’tebol i gymryd gofal cariadus a chall o un arall?

Dwi wastad wedi dweud, petawn i byth yn cael ci eto, mai milgi fyddwn i’n ei gael. Fues i’n ymweld am gyfnod â stiwdio Jonah Jones tra oedd o’n gweithio ar ddarn comisiwn imi, ac roedd ganddo gorfilgi hollol hyfryd mewn basged wrth ei draed bob amser. Welis i ’rioed mo’r ci yn effro, ond mae cysgadrwydd yn nodwedd gyffredin – er annisgwyl – o’r brîd yma.

Beca Brown
Mwy
Celf

Tir Cymru a thir y dychymyg

Oriel Ffin y Parc, Llanrwst, yw un o’r goreuon yng Nghymru. Yn ogystal â chelf, mae yno awyrgylch braf bob amser, heb sôn am fyrbrydau o fwyd ardderchog. Mae’r clo yn rhwystro’r fath bleserau y dyddiau hyn, ond mae Ffin y Parc yn un o’r orielau hynny sy’n dal ati orau y gallant yn rhithiol.

Er nad oes modd mynd draw i weld yr arddangosfa gyfredol, o waith Elfyn Lewis, Lisa Carter-Grist a Ceri Auckland Davies, mae’r cyfan ar y we – ffotograffau o’r gweithiau unigol a fideo o’r sioe. Mae modd prynu’r gwaith hefyd. Agorwyd y llifddorau y noson cyn yr agoriad swyddogol a’r cyntaf i’r felin oedd hi wrth i’r dotiau coch ymddangos yma ac acw. Syniad y cyd-berchennog, Ralph Sanders, yw’r drefn hon o werthu. Yn ôl pawb sy’n ei adnabod, mae o’n ‘gwybod be ’di be’, ac mae ganddo barch at yr artistiaid a’u gwaith.

‘Dwi wrth fy modd yn cael dangos fy ngwaith yno,’ meddai Elfyn Lewis. ‘Mae o fel dŵad adra.’

Llun: Bryn-Eryr-Uchaf gan Elfyn Lewis

Rhiannon Parry
Mwy
Materion y mis

Etholiad Catalwnia – llwyddiant i gefnogwyr annibyniaeth

Wrth y llinynnau mesur arferol, llwyddiant ysgubol i’r pleidiau sy’n cefnogi annibyniaeth oedd canlyniad etholiad seneddol Catalwnia ar 14 Chwefror. Dyma’r trydydd etholiad yn olynol iddynt ei ennill, a teg dadlau, felly, nad tân siafins oedd digwyddiadau 2017. Y tro hwn hefyd enillwyd mwy o seddi nag erioed o’r blaen. Yn bwysicaf oll, dyma’r tro cyntaf iddynt hawlio mwy na hanner y bleidlais boblogaidd – 51.14 y cant a bod yn fanwl. A dyna’r ffaith a bwysleisiwyd drannoeth yr etholiad gan Pere Aragonès, Arlywydd nesaf Catalwnia yn ôl pob tebyg, mewn neges wedi ei chyfeirio at sefydliadau Ewrop: nid oedd esgus bellach gan ddemocratiaid i beidio â chefnogi hawl pobl Catalwnia i ddewis eu dyfodol.

Ond sylwer ar ystadegyn arall. Dim ond 53.5 y cant o’r etholwyr a fwriodd bleidlais y tro hwn, o’i gymharu â 79 y cant yn 2017. arall. Y pandemig yw’r esboniad amlwg ond annigonol.

Llun: Sergi Alcàzar

Ned Thomas
Mwy
Darllen am ddim

Cofio John Jenkins: ‘gwrol ryfelwr’

Oherwydd nad efelychodd Gwynfor Evans yn Nhryweryn wrthdystiad Saunders Lewis, D.J. Williams a Lewis Valentine ym Mhenyberth yn 1936, Pleidiwr llugoer fûm i gydol y 1960au. Ond ryw noswaith ym mis Medi 1967 ildiais i berswâd cyfaill a daerai fod ‘cangen Wrecsam wedi newid... Mae gynnon ni ysgrifennydd newydd effeithiol iawn. Di-Gymraeg, ond rhaid i ni gael y rheini.’

Aeth y cyfarfod rhagddo yn ddidramgwydd tan i ni gyrraedd Unrhyw Fater Arall a gyflwynwyd gan yr Ysgrifennydd – dyn canol oed ifanc a Hwntw huawdl, cymedrol o ran corffolaeth a thaldra: ‘I’m sure that you’re all appalled, as I was, by the explosion perpetrated at Llanrhaeadr-ym-Mochnant a couple of nights ago, by people claiming to be acting in the interests of the people of Wales. They are however undermining Plaid Cymru campaigns for a free, prosperous and democratic Wales, and I propose that we send a letter to the Daily Post and the Western Mail disassociating Plaid Cymru from these extremists.’

‘Pwy ydi hwn?’ holais fy ffrind, ‘be ydi o, Tori? Dyn busnes?’
     ‘Mae o yn r’Armi. Yng Nghaer,’ meddai.
‘Mae Plaid Cymru wedi dirywio fwy nag y meddylis i,’ meddwn wrtho. ‘Mi a’ i am sgwrs efo’r brawd.’
     Cawsom sgwrs y noson honno ac un arall ymhen y mis, a dyna sut y deuthum i a John Jenkins yn ffrindiau.
‘Isn’t being Branch Secretary of Plaid Cymru rather risky?’ holais.
     ‘It’s the perfect cover,’ atebodd.

Bob hyn a hyn, byddwn yn cwrdd â John mewn archfarchnad ar gyrion tref Wrecsam i drafod cwrs y byd a’r achos cenedlaethol. Ar un achlysur wedi’r Arwisgo, awgrymais y dylai gymryd hoe cyn cael ei ddal. Atebodd, ‘I can’t. It’s like a strong addictive drug.’

Gwyddai nifer o genedlaetholwyr Wrecsam am weithgareddau John – yn athrawon a phrifathrawon. Beth bynnag a ddywedir amdanom ni’r Cymry, rydym yn rhai da am gadw cyfrinachau.

Gareth Miles

Cip ar weddill rhifyn Mawrth

Diwedd y daith i ErasmusDafydd ab Iago
Y ferch ar y prom yn y MwmbwlsCatrin Evans
Piercefield: cartref Uchel Siryf du cyntaf PrydainAndrew Misell
Gwin hen diroedd y MaffiaShôn Williams
Cofio Dai DaviesNic Parry
Galwad ffôn ysgytwolElin Llwyd Morgan
Arwyr Angof: Silyn a Mary RobertsAngharad Tomos

Mwy