Mehefin 2021 / Rhifyn 701

Blog link
Materion y mis

Ymladd dros yr ‘Hawl i Fyw Adra’

Mae cyfnod Covid-19 wedi amlygu anfoesoldeb cyfredol prisiau’r farchnad dai a chreu argyfwng cymunedol. Bellach mae tai yn cael eu prynu ar raddfa wallgo o fewn oriau o’u rhoi ar y farchnad a hynny am grocbris. Yn ôl ystadegau Principality ar gyfer 2020, fe gynyddodd pris cyfartalog tŷ ar ei ben ei hun £30,000 yng Ngwynedd – o £250,000 i £280,000 a hynny mewn un tymor. Ym Morfa Nefyn, y pentref lle cefais i fy magu, nid yw’n anarferol gweld bwlch o £100,000 rhwng prisiau tai’r gymuned a phrisiau’r un math o dai mewn cymuned arall o fewn y sir. Mae’r cyfle i mi fyw yn fy mhentref genedigol wedi ei gau yn glep yn fy wyneb a dyna’r realiti i sawl un arall, sef cael ein dadwreiddio dros nos. Wrth fynd am dro o amgylch Morfa Nefyn, mi welwch arwyddion ‘Gwerthwyd’ ar sawl tŷ ac enwau fel ‘Happy Daze’, ‘Dolphin’ a ‘Curly Tree Cottage’. Mewn cenhedlaeth ni fydd hoel nac unrhyw arwydd o Gymreictod yn y pentref.

Rhys Tudur
Mwy

Ceir – mwy na ‘lympiau o fetel’

Rŵan, tydi hon ddim ar fin troi’n golofn fodurol. Ond yn sgil prynu car newydd yn ddiweddar, mi drodd fy meddwl at rai o’r gwahanol geir yn fy mywyd dros y blynyddoedd.

Yn gynta, mae gen i gyfaddefiad i’w wneud, sef fy mod i rywsut wedi llwyddo i gyrraedd fy mhumdegau heb brynu car fy hun erioed, er nad ydw i’n un o’r bobl ddi-glem hynny sy’n gadael i eraill ddelio efo agweddau ariannol ac ymarferol fy mywyd.

Ar ôl i mi basio fy mhrawf gyrru yn 17, herwgipiais Talbot Samba bach melyn fy mam a chael blynyddoedd o fudd ohono. Petai’r cymar yn ymddiddori llai mewn ceir, mae’n debyg y baswn i wedi prynu car fy hun ryw ben, ond gan mai fo ydi’r pen petrol yn tŷ ni (anghofiwch am rolau ‘niwtral o ran rhywedd’), mae’n gwneud synnwyr mai ei faes cyfrifoldeb o ydi cerbydau’r aelwyd.

Elin Llwyd Morgan
Mwy
Cerdd

O’r paned i’r piano – ysbrydoliaeth y bag te

Dyma ddeffro mewn tŷ yn Acton Gate, Wrecsam. Roeddwn i tua deg oed, yn y 1970au cynnar. Sylwais ar fy nhad bedydd yn ei lusgo’i hun o’i stydi ben bore ac arogl mwg pibell yn llenwi’r tŷ. ‘Dwi’n mynd i ’ngwely,’ oedd geiriau Islwyn Ffowc Elis, oedd wedi bod wrthi drwy’r nos yn ymlafnio a dim byd wedi deillio o’i sgrifbin. Dyna un atgof sydd gen i o’r gŵr a’r llenor yr oeddwn i â’r fath feddwl ohono. Peth arswydus ydi’r ‘clo creadigol’ i unrhyw un sy’n sydyn iawn yn methu â chreu. ‘Stwmp sgwennu’ ydi’r term a ddefnyddiodd yr awdur Mared Lewis am y ‘writer’s block’. Mi ddaeth Islwyn drwyddi, er ei fod ar y pryd yn mynd trwy gyfnod mor anodd nes ei fod yn anobeithio am ysgrifennu unrhyw beth arall byth.

Cafodd y cerddor a’r cyfansoddwr Owain Llwyd brofiad nid annhebyg i hynny llynedd, ac eto i gyd y mae newydd ryddhau ei greadigaeth ddiweddaraf, sef albwm o’r enw Tea Bag Scores.

Sioned Webb
Mwy

Edwin Poots – y ffwndamentalydd pragmataidd

O fewn deuddydd i’r sibrydion cyntaf ddod i’r amlwg ynglŷn â’r bleidlais diffyg hyder ynddi, roedd Arlene Foster wedi cyhoeddi ei hymddiswyddiad fel arweinydd y DUP a Phrif Weinidog Gogledd Iwerddon.

Ar ôl cystadleuaeth fewnol (y tro cyntaf i’r DUP gynnal y fath beth, sydd ynddo’i hun yn arwyddocaol), dewiswyd Edwin Poots yn arweinydd newydd. O drwch blewyn yr enillodd Poots (sydd hefyd yn arwyddocaol). Mae’n amlwg fod y DUP wedi ei rhannu’n ddwy – rhwng yr adain ffwndamentalaidd a’r adain fwy cymedrol sy’n credu y bydd ffwndamentaliaeth yn costio mwy o bleidleisiau nag y byddai’n eu diogelu neu’n eu denu’n ôl.

Ffarmwr ydi Edwin Poots. Mae o’n aelod o’r garfan draddodiadol, efengylaidd, Paisley-aidd o’r DUP i’r carn. Mae o’n credu mai dim ond 4,000 o flynyddoedd oed ydi’r Ddaear, ac mae o wedi gwneud sawl datganiad yn erbyn priodas hoyw, a hawl pobl hoyw i fabwysiadu plant. Fe wrthwynebodd Gytundeb Heddwch Belffast, ac mae o’n groch ei wrthwynebiad i’r Protocol Brexit.

Bethan Kilfoil
Mwy
Darllen am ddim

Rhoi trefn ar Blaid Cymru

Etholiad arall, buddugoliaeth arall i’r Blaid Lafur Gymreig.

Mae’n syn meddwl bod rhyw sylwebydd gwleidyddol yn rhywle wedi bod yn ysgrifennu amrywiad ar y geiriau hyn ers bron iawn i ganrif. Yn wir, o ystyried yr ymateb gwerthfawrogol i raglen ganlyniadau’r sianel eleni, tybed oni ddylai S4C drefnu cyfres o raglenni arbennig ar gyfer 15 Tachwedd 2022, sef canfed pen-blwydd tra-arglwyddiaeth etholiadol Llafur yng Nghymru? Wedi’r cwbl, nid oes dim yn cymharu â’r fath hirhoedledd mewn unrhyw wlad ddemocrataidd arall yn y byd. Licio fo neu beidio, mae’n rhan o’r hyn sy’n ein diffinio fel cenedl.

Cawn ddychwelyd eto at Lafur Cymru a’i gafael rhyfeddol ar yr etholaeth Gymreig. Y tro hwn, fodd bynnag, yr wyf am droi fy ngolygon at blaid a gafodd etholiad llawer llai llwyddiannus. Wedi’r cwbl, onid yw hefyd yn wir dweud ein bod i gyd bellach yn hen gyfarwydd ag amrywiad ar y geiriau canlynol: etholiad arall, siom arall i Blaid Cymru? Y cwestiynau amlwg yw pam a beth sydd i’w wneud?

          +     +     +

Cyn bwrw iddi, mae’n deg cychwyn trwy nodi bod elfennau digon calonogol i’r etholiad o safbwynt yr achos cenedlaethol yng Nghymru yn ei ystyr ehangaf.

Fyth ers cyhoeddi canlyniadau refferendwm Brexit yn 2016, mae dealltwriaeth llawer iawn o bobl o natur ein gwleidyddiaeth wedi ei hystumio gan y ffaith fod canlyniadau’r refferendwm hwnnw yng Nghymru yn debycach i’r canlyniadau yn Lloegr nag yr oeddynt i’r canlyniadau yng Ngogledd Iwerddon a’r Alban. O’r herwydd, drosodd a thro yn ystod yr un cyfnod clywyd sylwebwyr yn trin ‘EnglandandWales’ fel uned gyfansawdd gan gadarnhau’r hen ragfarnau hynny sydd wedi gwreiddio mor ddwfn yn niwylliant gwleidyddol y wladwriaeth Brydeinig ac sydd wedi eu mewnoli gennym ni’r Cymry. Ar ôl etholiadau mis Mai mae hynny’n anos o lawer. Nid yr Alban mo Cymru, wrth gwrs. Eto fyth, nid Lloegr mo Cymru chwaith. Mae’n bwysig ein bod wedi’n hatgoffa ein hunain (ac eraill) o hynny.

Richard Wyn Jones

Cip ar weddill rhifyn Mehefin

Newid arwyddocaol sy’n dwysáu pryder – PEDR JONES ar y rhyfela diweddaraf rhwng Israel a Gaza

Hoffi coffi – ond am ba hyd? – IOLO AP DAFYDD ar fygythiad newid hinsawdd i ddiwydiant anferth

Canu drwy’r pandemig – NIA DAVIES WILLIAMS yn trafod ei blwyddyn fel cerddor preswyl mewn cartref gofal dementia

Cricedwr hyderus o fardd – LLION JONES sy’n croesawu cyfrol ddiweddaraf Derec Llwyd Morgan

Colli un o bregethwyr mwyaf Cymru – D. BEN REES yn coffáu Cynwil Williams

Bywyd dan reolaeth cyfrifiaduron – DERI TOMOS a pheryglon yr algorithm

Enw’r fam ar dystysgrif briodas – o’r diwedd, medd BECA BROWN

Mwy
Gwin ac ati

Beth ddigwyddodd i ’nghariad cyntaf?

Mae’n fis Hydref llwm, a gwynt ffyrnig y Mistral bron â’m chwythu oddi ar y ffordd. Rydw i ar droed, a phentref enwog gyda’i adfail o balas i’w weld yn y pellter. Mae’r coed olewydd bron â gwyro, a lliwiau’r rhesi o winwydd yn fendigedig o seicedelig. Mae fy sach gefn yn drymlwythog o boteli wedi eu casglu o ymweliadau’r diwrnod hwnnw. Rydw i ar fy nhrip gwin cyntaf. Rydw i yn Châteaneuf-du-Pape. Dyna ichi faint oeddwn i mewn cariad efo’r gwin o’r pentref hwnnw, i fynd i’r drafferth o ddal yr Eurostar i Avignon, a’r bws (ysgol!) i Châteauneuf. Gwesty digon sylfaenol yng nghanol y pentref (roedd hyn cyn dyddiau cyfleus Airbnb) ac, oherwydd prinder arian i logi car, ar droed wedyn i’r stadau cyfagos efo cymorth map cywrain a Ffrangeg bratiog.

Mae’n teimlo fel oes yn ôl, ac mae hefyd gryn dipyn o amser ers imi werthfawrogi a mwynhau potel o Châteauneuf. Beth aeth o’i le?

Shôn Williams
Mwy

ABC dyn busnes – Annibyniaeth, Brexit a ‘Cymr-entri’

Nid adar unlliw mo pobl fusnes. Cwmnïau anferth fel yr hen wasanaethau dŵr a thrydan monopolistig, banciau, cynhyrchwyr, cynghorwyr ariannol, manwerthwyr, ffermwyr, adeiladwyr ac ati – mae’n anodd ar y naw cyffredinoli. Ond mae un peth yn sicr. Mae penderfyniad i ymadael â bloc masnach neu ddod yn annibynnol yn effeithio ar fusnes llawr gwlad a’r economi. Mae ‘hyder’ – neu ddiffyg hyder – yn effeithio ar bawb. Wedi dweud hynny, mae gwahaniaeth mawr rhwng y Wall Street a Main Street yr Americanwr. Un peth yw cwmnïau sy’n allforio a pheth arall yw chwmnïau sy’n gwerthu’n lleol neu’n genedlaethol. Yn yr erthygl hon canolbwyntiaf ar gwmnïau rhyngwladol fel fy nghwmni i, a’m profiad yn wyneb yr Ewro a Brexit. Ond fel Cymro alltud yn Sbaen rwyf am sôn hefyd am y cyfleoedd a’r bygythiadau yn sgil annibyniaeth gan gyfeirio at hynt a helynt y mudiadau annibyniaeth yng Nghatalwnia a Gwlad y Basg.

William Dolben
Mwy