Blogiau

Blog link

Brechlyn at COVID19 – cam ymlaen ond mae diwedd y daith eto’n bell

Cafodd manylion treialon cynnar dau frechlyn yn erbyn COVID19 eu cyhoeddi yng nghyfnodolyn The Lancet yn ddiweddar – un o Rydychen ac un o Tsieina. Efallai ei fod yn naturiol iddyn nhw derbyn y fath sylw, ond fel arfer fyddai canlyniadau cynnar o’r math yma prin yn codi ael yn y byd meddygol.

A ddylem fod yn profi staff y GIG yn rheolaidd am COVID-19?

Mae nifer achosion COVID-19 wedi disgyn yn sylweddol yn ein hysbytai, am ryw hyd o
leiaf. Yn awr rhaid mynd ati o ddifrif i ailgydio yng ngwaith arferol y GIG tra’n parhau i
ymdopi ậ phresenoldeb yr haint yn y gymuned. Dyma argyfwng iechyd ynddo’i hun,
oherwydd mae bywydau yn y fantol yn sgil gohirio triniaethau tyngedfennol.

Er mwyn symud ymlaen yn ddiogel rhaid gosod systemau yn eu lle i atal lledaeniad y firws
mewn ysbytai. Mae hyn yn her enfawr a’r cwestiwn yw: sut y mae modd gwneud hyn?

Gwirfoddoli i achub y boblogaeth: risg angenrheidiol?

Pa bris ar frechlyn i amddiffyn poblogaeth y byd rhag COVID-19? Rydym ni fel cymdeithas bellach wedi dygymod â’r ffaith nad oes brechlyn rownd y gornel ac y bydd yn rhaid aros blwyddyn a mwy, os byddwn ni’n ffodus, cyn brysio i’r feddygfa neu’r fferyllfa am bigiad nodwydd a gobeithio wedyn am warchodaeth hirdymor neu oes. Yn fy mlog diwethaf (gw. Blog 08/05/20 Brechlyn ar gyfer y COVID) bûm yn trafod y broses creu brechlyn, o ymchwil yn y labordy i ddefnydd mewn lleoliad gofal iechyd, a’r profion (cymalau) cyntaf sy’n angenrheidiol i’w brofi ar fodau dynol.

Amlwg llaid ar farch gwyn

Mae gofyn i blant ‘ydach chi’n meddwl bod hi’n bryd i chi fynd yn ôl i’r ysgol?’ fymryn bach fel gofyn i dwrci ydio’n edrych ymlaen at y Nadolig, dydi? Er bod plant o gartrefi difreintiedig yn dioddef yn enbyd o ddiffyg strwythur, cefnogaeth ac efallai hyd yn oed diogelwch a lles sylfaenol yn ystod y cyfnod hwn, ymateb llawer iawn o blant darllenwyr Barn i’r cwestiwn uchod fyddai ‘Na, mae hi’n lot rhy gynnar’, decin-i.

Y Profion - Ble mae'r Cynllun?

Ddoe, clywsom fod Iechyd Cyhoeddus Lloegr wedi cymeradwyo prawf gwrthgyrff (antibody) gan gwmni Roche sydd yn ddigon dibynadwy i’w ddefnyddio i ganfod a yw unigolyn wedi dal haint y coronafirws yn y gorffennol ai peidio. Mae hyn yn gam mawr ymlaen, oherwydd bydd yn galluogi gwyddonwyr i ddarganfod nid yn unig faint o’r boblogaeth sydd eisoes wedi eu heintio, ond ym mha rannau o’r wlad, ym mha ystod oedran ac ym mha fathau o swyddi. O’i ddefnyddio’n strategol, bydd hyn o gymorth mawr i ddatblygu ffyrdd i symud ymlaen.

Brechlyn ar gyfer y COVID

Ble’r oeddech chi ar 22 Tachwedd 1963? Embryo oeddwn i, ond bydd rhai ohonoch chi yn siŵr o fod yn cofio clywed y newyddion am lofruddiaeth J.F. Kennedy.

Beth am 8 Mai 1980? Diwrnod hanesyddol arall, ond am reswm gwahanol iawn. Hwn oedd diwrnod datganiad Sefydliad Iechyd y Byd fod firws y frech wen wedi ei drechu, ac wedi ei ddifa dros y byd i gyd am fod brechlyn effeithiol wedi ei ddarganfod, a’i ddefnyddio.

Amser i alaru, ac amser i ddawnsio

Alla’i ddweud â’m llaw ar fy nghalon mai heddiw ydi’r diwrnod distawaf erioed imi yn fy ngwaith. Tair galwad ffôn mewn pedair awr a dipyn o waith papur – dwi’n teimlo’n ddiog.
Mae’r gwaith paratoi ar gyfer ymdrin â’r haint i gyd wedi ei wneud, a dwi ddim yn meddwl alla’i ddarllen mwy am agweddau meddygol Covid-19, wir. Amser perffaith i greu blog felly!

Y llythyren R

Gwta bythefnos sydd yna ers i mi ysgrifennu'r blog cyntaf, ac erbyn hyn mae'r byd meddygol a nyrsio yn fyd gwahanol iawn. Clywn bob dydd am niferoedd y cleifion sy'n profi'n bositif ac am y niferoedd sy'n marw. Medrwn hefyd droi at Doctor Google, at ganllawiau Ffion ar Facebook a Twm ar Twitter sydd i gyd â rhyw fath o sylwebaeth neu farn i ni i gyd ei ddilyn.

Tudalennau

Subscribe to RSS - blogiau