Y coronafirws: i ble nesaf?

Blog link

Wrth geisio gwneud synnwyr o ymatebion gwahanol wledydd ar draws y byd i argyfwng y coronafirws, mae’n werth ystyried y gwahanol ffyrdd y gallai llywodraeth ymateb i bandemig.

Gwneud dim

Gellid penderfynu gadael i’r epidemig fynd rhagddo heb ymyrraeth (‘take it on the chin’ chwedl Boris Johnson). Byddai popeth drosodd o fewn wythnosau, ond ar gost enbyd mewn bywydau – hyd at hanner miliwn yn y DU. Mae’n gwbl amlwg nad yw hwn yn opsiwn derbyniol.

Atal (‘Suppression’)

Ymateb greddfol yn wyneb y fath her yw cau popeth, rhwystro pobl rhag cymdeithasu ac atal digwyddiadau cyhoeddus. Ond nid yw hyn yn datrys y broblem yn y tymor hir. Ydi, mae’n effeithiol i atal lledaeniad cyflym y firws ond y cwestiwn wedyn yw, pryd y gallwn ni ailafael yn ein bywydau bob dydd?

Mae’n annhebyg iawn y bydd y firws yma yn diflannu bellach. Bob tro byddwn yn llacio’r mesurau, mi fydd yn codi ei ben eto, fel gwreichionyn yn ailgynnau tan. Mae llawer wedi canmol ymateb De Corea, ond clywir eisoes adroddiadau bod achosion yn ailymddangos ymhlith y boblogaeth, sydd yn dal bron yn gyfangwbl naïf i’r firws. Ymateb dros dro yw atal, nid cynllun.

Lliniaru (‘Mitigation’)

Sail y polisi hwn yw derbyn ei bod yn anorfod bydd canran go uchel o’r boblogaeth yn dal y feirws yn hwyr neu’n hwyrach, ac mai achub bywydau sy’n bwysig yn hytrach nag atal pob haint, sy’n amhosib. Felly, mae bwriad y strategaeth yn wahanol.

Er mwyn achub bywydau rhaid gwneud dau beth: yn gyntaf, sicrhau bod adnoddau i bawb sydd angen triniaeth ddwys, ac yn ail, amddiffyn grwpiau bregus megis yr henoed. Yn wahanol i honiadau ar gyfryngau cymdeithasol, nid creu imiwnedd eang yw’r prif fwriad. Mae imiwnedd eang yn ganlyniad anochel i’r strategaeth, yn hytrach na bwriad – er ei fod yn digwydd bod yn ganlyniad manteisiol.

Mantais fwyaf lliniaru ydy ei bod yn bosib, ar ôl rhai misoedd, i bawb fynd yn ôl at eu bywydau bob dydd, gan gynnwys pobl fregus. Felly mae’n gynllun tymor hir da.

Tan wythnos yn ôl, roedd Prydain yn un o’r ychydig wledydd oedd ậ chynllun i ymdrin ậ’r coronafirws trwy liniaru, yn hytrach na dim ond ymateb trwy atal y firws.

Beth ddigwyddodd?

Ddydd Llun diwethaf, 16 Mawrth, daeth adroddiad a newidiodd bopeth gan dîm o Goleg Imperial, Llundain. Roedd yn cymeryd i ystyriaeth ddata newydd sbon o’r Eidal, oedd yn dra gwahanol i’r wybodaeth o Tsieina. Amcangyfrifai’r ffigyrau newydd chwarter miliwn o farwolaethau yn y DU trwy ddilyn strategaeth lliniaru, ond hyd at ddeg gwaith yn llai efo polisi atal.
Felly, atal amdani.

Ble nesaf?

Mae’r adroddiad - sy’n werth ei ddarllen - yn awgrymu efallai y bydd yn rhaid mynd trwy gylchdroeon niferus o atal ac yna llacio mesurau bob yn ail. Byddai hyn yn gorfod parhau nes bod brechiad effeithiol a diogel ar gael – a hwnnw’n gallu cael ei gynhyrchu ar raddfa ddigonol i bawb. Mae hynny’n gyfnod, yn ôl yr awduron, o hyd at ddwy flynedd – ond gallai fod yn hwy. Does dim sicrwydd cael brechiad diogel yn yr amser hynny; roedd problemau diogelwch dybryd yn achos y darpar-frechiadau yn erbyn coronafirws SARS 2003.

Nid yw’r adroddiad chwaith yn mynd i’r afael ậ’r niwed economaidd enfawr a ddaw o’r fath sefyllfa. Dros flynyddoedd, gallai’r dirywiad economaidd, a’r golled o ran addysg rhai pobl ifainc yn hawdd arwain at fwy o farwolaethau cyn-amserol na COVID-19, yn enwedig ymhlith y difreintiedig. Ond byddai rhain yn farwolaethau llai gweledol a niweidiol yn wleidyddol - ac yn anoddach eu cyfrif.

Nid yw pob gwyddonydd yn cytuno ậ dadl Coleg Imperial. Mae rhai wedi ymateb trwy honni y byddai posib dileu y firws dros amser, trwy ddefnyddio ffiniau daearyddol a chyfyngu ar deithio. Ond gyda Neil Ferguson, pennaeth tîm Imperial, yn awr yn sâl efo’r coronafirws ei hun, daeth saib yn y drafodaeth.
Yn sicr, yn wahanol i’r cynllun lliniaru gwreiddiol, nid yw’r polisi newydd yn cynnig datrysiad – dim ond cyfle i oedi tra’n meddwl am gynllun arall – os oes un.

Mae Dr Angharad Puw Davies yn Athro Cysylltiol Clinigol mewn Microbioleg ym Mhrifysgol Abertawe