Treialu Triniaethau: Cymru ar y blaen

Blog link

Clywsom lawer yn ddiweddar am brofion at COVID19, ac am frechiadau, ond bu llawer llai o sôn am driniaethau posib – a thrueni hynny, gan bod Cymru ar flaen y gad yn y maes yma.
Ar hyn o bryd, pan mae rhywun yn dioddef o COVID19, dim ond gofalu am y claf a chynnal ei ysgyfaint ac organau eraill sy’n bosib, nes bod y corff yn gwella. Ond, er bod yna lai o gyffuriau gwrthfirws yn bodoli nag a geir o gyffuriau gwrthfiotig (sy’n trin bacteria), mae yna driniaethau effeithiol ar gyfer rhai heintiau a achosir gan firws. Enghreifftiau amlwg yw’r triniaethau penodol ar gyfer HIV ac ar gyfer y ffliw cyffredin.
Yn gefndir i’r holl weithgarwch clinigol amlwg ar hyn o bryd, mae yna ras fawr i ddarganfod pa driniaethau allai fod yn effeithiol yn erbyn SARS-CoV2. Tri o’r ceffylau blaen yw hydroxychloroquine, sy’n arfer cael ei ddefnyddio yn erbyn malaria; rhai o’r cyffuriau ar gyfer HIV; a chyffuriau sy’n effeithio ar y system imiwnedd. Mae diddordeb mawr yn y trydydd o'r rhain, gan fod gwyddonwyr yn tybio ai gorymateb ar ran y system imiwnedd sy’n achosi llawer o’r difrod i’r ysgyfaint. Felly, pe gellid tawelu neu atal yr ymateb imiwnyddol, gallai hynny fod yn fanteisiol. Yn anffodus mae cymhlethdod y system`imiwnedd yn ddrwgenwog.
Mae yna un fantais fawr i’r holl driniaethau posib yma – yn wahanol i frechiad, maen nhw i gyd yn bodoli eisioes, wedi eu hawdurdodi ac ar gael i’w defnyddio mewn cleifion, o leiaf mewn egwyddor. Hyd yma, fodd bynnag, does dim tystiolaeth ddigonol fod yr un ohonynt yn effeithiol i drin COVID19. Mae yna rai adroddiadau yn y cyfnodolion meddygol am niferoedd cymharol fychain o gleifion sydd wedi derbyn rhai ohonynt – ond nid dyma’r ffordd i gael atebion dibynadwy am driniaethau. Mae hynny’n gofyn am dreialon clinigol mawr wedi eu cynllunio’n ofalus i allu dangos a oes gwahaniaeth ystadegol rhwng grŵp mawr sy’n derbyn un driniaeth a grŵp mawr sydd ddim, neu sy’n derbyn triniaeth wahanol. Mae Prydain yn un o’r gwledydd sy’n arwain yn byd yn y math yma o waith, diolch i’r Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol a rhwydwaith o ganolfannau ymchwil clinigol cysylltiedig , gan gynnwys rhai ar draws Cymru.
Fel arfer mae’n cymeryd blynyddoedd i sefydlu treialon clinigol o’r fath ond ar hyn o bryd mae’r llywodraeth, y gymuned wyddonol a meddygon yn cydweithio ar frys i gael atebion cyn gynted ậ phosib. Mae yna banel Prydeinig cenedlaethol yn cyfarfod o leiaf bedair gwaith yr wythnos gan gynnwys ar y Suliau i asesu pob cais ymchwil ar gyflymdra anhygoel, i benderfynu pa rai fydd yn cael eu blaenoriaethu’n swyddogol gyda’r statws ‘Urgent Public Health Study’ gan y Prif Swyddog Meddygol. Yr wyf yn aelod o’r panel hwn, a welais i erioed banel ymchwil yn mynd trwy ei waith mor chwim. Hyd yma cyflwynwyd dros 200 cais i’r panel. Mae yna dri threial clinigol mawr ar droed eisoes, yn ymwneud ậ thriniaeth yn y gymuned, mewn ysbytai ac mewn gofal dwys.
Fel gyda’r profion, un broblem fawr sy’n wynebu’r treialon yma yw’r gallu i gael gafael ar y meddyginiaethau, hyd yn oed o fewn treial swyddogol. Dim ond hyn a hyn sy’n gallu cael eu cynhyrchu, ac mae ar bob gwlad eu heisiau. Darllenais yr wythnos yma am Donald Trump yn mynnu bod India yn trosglwyddo stoc o hydroxychloroquine i’r UDA. Mae Trump wedi bod yn canu clodydd y cyffur yma, er bod arbenigwyr ar hyn o bryd yn credu mai cymharol fach fydd unrhyw effaith fuddiol a ddaw ohono. Clywn adroddiadau am broblemau recriwtio cleifion i dreialon yn yr Unol Daleithiau gan fod cymaint yn dweud eu bod eisiau ‘Trump’s drug’ yn unig, a ddim yn fodlon cymeryd rhan mewn treialon a allai gynnwys unrhyw driniaeth arall.
Mae Cymru wedi bod ar y blaen yn recriwtio i’r treialon yma. Mae pob un o’n Byrddau Iechyd yn cymeryd rhan, a’r wythnos ddiwethaf Cymru oedd wedi recriwtio’r nifer fwyaf o gleifion ar draws y DU i un o’r prif dreialon, RECOVERY, sy’n cymharu triniaeth imiwnyddol, cyffuriau HIV a hydroxychloroquine yn erbyn ei gilydd. Gallwn ymfalchïo y bydd cyfraniad Cymru at y gwaith pwysig hwn yn sylweddol.

Mae Dr Angharad Puw Davies yn Athro Cysylltiol Clinigol mewn Microbioleg ym Mhrifysgol Abertawe