Brechlyn at COVID19 – cam ymlaen ond mae diwedd y daith eto’n bell

Blog link

Cafodd manylion treialon cynnar dau frechlyn yn erbyn COVID19 eu cyhoeddi yng nghyfnodolyn The Lancet yn ddiweddar – un o Rydychen ac un o Tsieina. Efallai ei fod yn naturiol iddyn nhw derbyn y fath sylw, ond fel arfer fyddai canlyniadau cynnar o’r math yma prin yn codi ael yn y byd meddygol.

Dengys y gwaith hyd yma fod brechlyn Rhydychen, a roddwyd i 1077 o wirfoddolwyr, yn ymddangos yn ddiogel - profodd nifer symptomau megis cur pen, blinder neu wres, ond dim byd difrifol. Ar ben hynny mae’r canlyniadau’n galonogol oherwydd gwelwyd dau fath pwysig o ymateb imiwnyddol, sef cynhyrchu gwrthgyrff ac ymateb gan y celloedd T. Math o gelloedd gwynion y gwaed ydi'r rheini, sy’n bwysig gan mai nhw sy’n galluogi’r system imiwnedd i ‘gofio’r’ firws. Mae’r canlyniadau’n golygu ei bod hi’n ddiogel ac yn briodol i symud ymlaen at astudiaethau pellach. Ond mae’n bwysig pwysleisio nad ydi hynny’n golygu o reidrwydd bod y brechiad yn rhwystro pobl rhag dal COVID19.

Mae’n bwysig cofio hefyd mai pobl iach yn yr ystod oedran 18-55 oedd yn y treialon yma, felly wyddom ni ddim eto am yr ymateb mewn pobl hŷn. Dyma’r union grŵp wrth gwrs sydd fwyaf o angen brechlyn. Fel rheol mae ymateb imiwnyddol pobl hŷn yn wannach (mae hynny'n broblem yn achos brechlynnau eraill hefyd.) Efallai y gellid goresgyn hyn efo ail frechiad (‘booster’) ond wyddom ni ddim eto. Mae’n ddigon posib na fydd unrhyw frechlyn a ddaw yn gant-y-cant effeithiol i rwystro haint, ond yn hytrach yn gwneud yr haint yn llai difrifol. Byddai hynny hyd yn oed yn cael ei ystyried yn llwyddiant aruthrol.

Sut mae’r brechlynnau’n gweithio?

Y ffordd ‘henffasiwn’ o greu brechlyn ydi lladd y firws, neu ei newid i’w wneud yn llai peryglus, a defnyddio hwnnw i greu ymateb imiwnyddol. Mae rhai timau yn gwneud hyn i COVID19, ond mae’n broses anodd ei chyflawni’n gyflym.

Mae brechlyn Rhydychen yn defnyddio technoleg wahanol a newydd. Defnyddir firws diniwed o’r enw adenofirws a rhoi darn o ddeunydd geneteg SARS CoV2 (y firws sy’n achosi COVID19) i mewn iddo. Mae’r adenofirws wedi ei addasu fel nad yw’n gallu ei atgynhyrchu ei hun yn y corff. Mae’r system imiwnedd yn darganfod yr adenofirws ac yn gallu ymateb i’r deunydd COVID19 sydd ynddo. ‘Vector vaccine’ ydi’r enw ar y math yma o frechlyn. Roedd y grŵp yn Rhydychen eisoes yn gweithio ar frechlyn tebyg at MERS, haint coronafirws arall tebyg i COVID19, felly dim ond addasu yr hyn oedd ganddyn nhw’n barod oedd angen. Defnyddia eu brechlyn nhw adenofirws o simpansî. Mae’r brechlyn Tsieinaidd yn debyg, ond yn hwnnw defnyddid adenofirws pobl, sydd ậ’r anfantais posib y gallai’r corff ei adnabod a’i ddinistrio cyn i’r system imiwnedd allu ymateb yn llawn iddo.

Beth nesaf?

I brofi bod y brechlyn yn effeithiol, mae’n rhaid cael treialon llawer mwy i weld a ydi'r bobl sydd wedi ei dderbyn yn llai tebyg o ddal COVID19 na phobl sydd ddim. Mae’r astudiaethau mawr yma eisoes ar droed, ac yn cynnwys tua 450 o wirfoddolwyr yng Nghymru yn ardal Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan. Y broblem ydi, po leiaf o COVID19 sydd ar led yn y gymuned, mwyaf anodd ydi hi i ddangos bod y brechlyn yn effeithiol, gan na fydd digon o bobl yn dal yr haint i alluogi cymariaethau. Yn ôl grŵp Rhydychen mae hyn wedi arafu pethau iddyn nhw ac maen nhw wedi gorfod trefnu astudiaethau ychwanegol ym Mrasil a De Affrica, ac o fis Awst maen nhw’n anelu am yr Unol Daleithiau hefyd - llefydd lle mae digonedd o COVID19 yn dal ar led.

Yma yng Nghymru mae tim Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru wedi bod yn paratoi at recriwtio i sawl treial brechlyn arall, gan gynnwys un y cwmni Americanaidd Moderna. Ond wrth i mi sgrifennu daeth datganiad gan Moderna eu bod yn symud y gwaith o Brydain oherwydd prinder achosion o COVID19. Cawn weld ai’r un stori fydd hi efo’r lleill.

Ffordd gyflymach?

Ffordd lawer cynt o gael ateb fyddai’r hyn a elwir yn 'challenge trial', lle mae ymchwilwyr yn fwriadol yn ceisio rhoi’r haint i bobl i weld a ydi'r brechiad yn gweithio. Mae hyn wedi'i wneud o’r blaen efo rhai brechiadau megis y frech wen a malaria, ac wrth gwrs wedyn does dim angen aros i bobl gael eu heintio’n naturiol yn y gymuned. Hyd yma does neb wedi ceisio gwneud hyn efo COVID19. Er bod digon o wirfoddolwyr parod, mae pryderon moesol tra nad oes triniaethau dibynadwy ar gael. Ond mae yna grŵp mawr o wyddonwyr blaenllaw iawn wedi ysgrifennu llythyr agored yn galw am ‘challenge trials’ i COVID19 ar wirfoddolwyr iach, ifanc. Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn cefnogi’r trywydd hwn hefyd. Eu dadl yw bod y risg i’r math yma o wirfoddolwyr yn fach iawn iawn ac y gallai arwain at achub degau o filoedd o fywydau yn llawer mwy buan – ac felly ei bod yn anfoesol peidio â gwneud hynny.

Mae tîm Rhydychen yn dweud eu bod yn obeithiol o orffen eu treialon yn yr hydref, ac mae ganddyn nhw gytundeb efo cwmni Astra Zeneca i gynhyrchu dau biliwn o frechlynnau os bydd y gwaith yn llwyddiannus. Dywedant y gallai'r rhain fod ar gael erbyn y gaeaf. Byddai hynny’n anhygoel o gyflym a bydd raid i ni aros i weld a ydi hynny‘n wir yn realistig. Mae angen nid yn unig gorffen y treialon, ond hefyd cynhyrchu niferoedd enfawr o frechlynnau, heb son am fynd trwy brosesau caniatậd dyrys y rheoleiddwyr. Ac wedi hynny, efallai mai’r her fwyaf i gyd fydd sicrhau bod brechlyn yn cael ei rannu’n deg ymhlith holl wledydd y byd.

Mae Dr Angharad Puw Davies yn Athro Cysylltiol Clinigol mewn Microbioleg ym Mhrifysgol Abertawe