Beth aeth o’i le ar Yes Cymru?

Darllen am ddim

Yma rhoddir y rhaniadau a’r ymgecru a oddiweddodd y mudiad ymgyrchu mwyaf grymus a welodd Cymru yn y ganrif hon yn eu cyd-destun Ewropeaidd hanesyddol.

Wrth yrru ar y lôn i Lŷn heibio’r Eifl a chyn cyrraedd y Ffôr, trowch i’r chwith yng Nglasfryn ac ar ôl pasio drwy Bencaenewydd a mynd heibio ysgol Llangybi a Thai’r Tlodion fe ddewch at ben uchaf y Lôn Goed. Ar y groesffordd mae arwydd wedi’i osod ar ffens. Arwydd syml wedi ei wneud â llaw, o natur naïf hyd yn oed. Paent coch a geiriau gwyn: YES CYMRU.

O’r llefydd mwyaf diarffordd i’r canolfannau poblog, profodd y mudiad dwf aruthrol yn 2020. Yes Cymru oedd y mudiad gwleidyddol a dyfodd gyflymaf ym Mhrydain. Llwyddodd hefyd i bontio rhwng y Cymry Cymraeg a’r di-Gymraeg. Mae sawl esboniad. Adwaith i Brexit a chenedlaetholdeb Seisnig yw’r un mwyaf cyffredin. Ond byddwn i’n dadlau bod Yes Cymru wedi deffro awydd ymysg y Cymry a fu ynghwsg ers cyfnod cynnar datganoli.

Dadleuai athronwyr fod y fath beth â meta-naratifau sy’n rhoi ystyr i’n dealltwriaeth o dueddiadau hir dymor. Math o stori ydi meta-naratif sy’n cyfiawnhau gweithredu gwleidyddol. Pen draw naturiol y meta-naratif ydi gwireddu proffwydoliaeth wedi ei seilio ar ryw gred drosgynnol. O Moses i’r Mab Darogan, yr un ydi’r patrwm.

Ers y 1960au o leiaf roedd y dehongliad hwnnw o wleidyddiaeth Cymru yn cyfiawnhau ac yn annog ymgyrchu dros Gymru a’r iaith. Ac fe weithiodd. A hynny’n syndod o dda. Oherwydd bod cenedlaethau o ymgyrchwyr wedi gweithredu ac aberthu, enillwyd deddfau iaith, sianel deledu, addysg Gymraeg, awdurdod datblygu, ac yn goron ar y cyfan, Senedd. ‘Myn Duw, mi a wn y daw’ canodd Dafydd Iwan. A myn Duw, fe ddaeth!

Manna o’r nefoedd i ymgyrchwyr ydi meta-naratif cryf. Ond mae tro yn y gynffon. Wrth i dechnoleg cyfathrebu ddatblygu, mae’r naratifau mawr yn ildio’u lle i nifer o rai llai. Os mai adwaith i foderniaeth y chwyldro diwydiannol ydi cenedlaetholdeb, yna adwaith i ôl-foderniaeth y chwyldro digidol fydd yn caniatáu twf y straeon ‘bychain’ am hunaniaeth yr unigolyn.

Byddwn yn dadlau ein bod wedi mynd drwy gyfnod yn dilyn datganoli pan fu gwagle syniadol a strategol yn y mudiad cenedlaethol. O’r helynt am fewnfudo i’r broydd Cymraeg i goelcerth y cwangos, roedd yr hen fyd-olwg wedi gwanhau a dim oll wedi cael ei gynnig yn ei le. Wrth gwrs mae gobaith yn y cytundeb cydweithio diweddar rhwng Plaid Cymru a Llafur ond ychydig iawn sydd yna i danio’r dychymyg. Mae’n deg honni mai dim ond y cytundeb newydd sydd wedi caniatáu i Blaid Cymru osgoi argyfwng dilysrwydd ymysg ei chefnogwyr craidd.

I’r gwagle yma camodd ymchwilwyr ac ymgynghorwyr, arbenigwyr polisi, seffolegwyr praff, cwnselwyr deddfwriaethol, sylwebwyr doeth, a rhesi o siwdiau siwtiedig eraill. Ond aeth rhywbeth ar goll. Collwyd dealltwriaeth ac ymdeimlad o strategaeth y ‘frwydr’ genedlaethol a oedd yn clymu’r cenedlaetholwr a’r sosialydd cyffredin wrth yr ymgyrch. Mae’r elfen o bwrpas a chyfeiriad yn allweddol i gadarnhau ymrwymiad a ffydd. Ond pa angen sydd i feddwl a strategaeth pan fo gwlad newydd o laeth a mêl yn y Bae?

Tair blynedd yn ôl bu imi gwrdd â’r newyddiadurwr Duncan Campbell. Roedd Duncan yn un o sylfaenwyr Stonewall ym Mhrydain. Yn y 1980au cynnar roedd criw o bobl hoyw blaengar yn edrych am enghreifftiau o fudiadau y gellid seilio Stonewall Prydain arno. Y mudiad wnaeth yr argraff fwyaf arnynt oedd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.

Yn y 1980au a’r 90au roedd gan y Gymdeithas le canolog ym mywydau miloedd o Gymry ifanc drwy ddiwylliant y sîn roc a oedd yn eu clymu wrth frwydr wleidyddol yr iaith. Prin fod mudiad protest yn y byd na fyddai’n ystyried perthynas mor agos rhwng diwylliant yr ifanc ac ymgyrchu yn ddim llai na rhodd o ddeheulaw Duw. Ond erbyn degawd cyntaf y ganrif newydd roedd hyn i gyd wedi mynd. Pwy fyddai’n seilio mudiad ar y Gymdeithas heddiw?

Llwyddiant Yes Cymru oedd cynnig parhad a datblygiad i don a gychwynnodd yn gynnar yn yr 20g. Llanwodd y gwagle a adawyd gan y ddau brif ymgorfforiad o’r mudiad cenedlaethol, Plaid Cymru a Chymdeithas yr Iaith. Roedd y ddau hynny yn euog o fethu â meithrin naratif wedi ei seilio ar ddehongliad cenedlaetholgar o’r Gymru ôl-ddatganoledig ar draul ymgorffori a chyfaddawdu gydag elfennau o wleidyddiaeth y chwith galed.

Beth felly aeth o’i le i Yes Cymru yn 2021?

Athronydd Ffrengig oedd Raymond Aron. Cyhoeddodd The Opium of The Intellectuals yn 1955. Roedd teitl y llyfr yn seiliedig, wrth gwrs, ar ddywediad Marx ‘religion is the opium of the people’ ac ar ymestyniad Simone Weil, ‘Marxism is undoubtedly a religion, in the lowest sense of the word... it has been continually used ... as an opiate for the people.’ Pryder Aron oedd bod anonestrwydd ar waith. Wrth faddau popeth i Farcsiaeth fe aed ati i ymwrthod â rhinweddau fel rheswm, tystiolaeth a’r gallu i feddwl yn feirniadol. Maddeuwch fy hyfdra yn awgrymu ei fod, yng Ngwlad y Gân hefyd, yn opium of the nationalists.

Yn 1969 roedd un o ffigyrau canolog ‘Ysgol Frankfurt’ a’r chwith Ewropeaidd dan lach ei fyfyrwyr. Pechod Theodor Adorno, yn ôl y myfyrwyr, oedd ei ddiffyg radicaliaeth weithredol. Malwyd dodrefn yr ystafell ddarlithio a bygythiwyd ysgolheigion. Gwelodd Adorno a’i gyd-aelod o Ysgol Frankfurt, Jurgen Habermas, fod elfen o’r chwith radical a oedd yn mabwysiadu natur authoritarian a disgrifiodd Habermas hyn fel ‘left fascism’. Yr hyn yr oedd Aron, Adorno a Habermas wedi ei weld oedd effaith ymadael â rheswm ar y chwith – hynny yw, bod modd i syniadaeth ddyngarol a chymdeithasol fabwysiadu’r un tueddiadau â’r dde eithaf wrth ymwrthod â gwerthoedd elfennol.

Mae dwy brif garfan o fewn Yes Cymru. Mae’r gyntaf am flaenoriaethu annibyniaeth fel nod naturiol ynddo’i hun ond hefyd er mwyn gwella safon byw pobl Cymru a gwarchod yr iaith a’r dreftadaeth Gymreig. Mae’r ail garfan yn pwysleisio cynnal ‘trafodaeth’ gyda phobl Cymru ar natur y Gymru annibynnol, yn arbennig felly elfennau radical eu gweledigaeth. Mae’r ddwy garfan yn legit ac ar wahân i wahaniaeth pwyslais, prin y byddai modd cael papur Rizla rhyngddynt ar werthoedd sylfaenol. Mae’r cyfansoddiad newydd yn ffafrio’r garfan gyntaf ond bydd synnwyr strategol yn golygu y bydd rhaid cymodi a chydweithio.

Ond roedd trydedd garfan.

Cymysgedd ydi’r rheini. Aelodau mudiadau megis Momemtum sydd, yn dilyn cwymp Corbyn, yn chwilio am gartref a grym tan y bydd yr Achubwr Nesaf yn ymddangos mewn pum mlynedd, neu ddeg, neu ugain. Roedd rhai am ddefnyddio Yes Cymru, y 18,000 o aelodau a’r cyfri banc sylweddol iawn, i’w pwrpas eu hunain. Ynghyd â’r rhain roedd olynwyr y myfyrwyr hynny a gododd gymaint o ofn ar Adorno a Habermas. A bwrw eu bod yn cael eu gyrru gan achosion teg, roedden nhw’n meddu ar elfen gref o’r hyn a elwid gan sylwebwyr Americanaidd yn performative activism. Y tueddiad yw uniaethu mewn modd amlwg ag achosion poblogaidd.

Gwinllan sydd eto i fwrw ei ffrwyth ydi Yes Cymru. Roedd nodweddion mwyaf dinistriol y chwith galed, y cecru, yr ymrannu, a’r bwlio, yn bygwth dinistrio’r mudiad a throi’r winllan yn gors. Dyna pam roedd rhaid gweithredu yn haf 2021 i’w gwarchod yn enw pawb sydd wedi mynychu rali a rhoi sticar ar eu ceir.

Gwion Owain
Chwefror 2022