Biden yn ‘dod adref’

Micheál Martin yn arwain Joe Biden o gwmpas Carlingford Castle, Swydd Louth
Darllen am ddim

Gwnaeth Arlywydd yr Unol Daleithiau yn fawr o bob cyfle i ddathlu ei gysylltiadau teuluol yn ystod ei ymweliad â Gogledd a Gweriniaeth Iwerddon. Tybed fydd y croeso a gafodd yn rhoi hwb iddo sefyll am ail dymor yn y Tŷ Gwyn?

Roedd gan yr Arlywydd Joe Biden ddau reswm dros ei ymweliad ag Iwerddon ddechrau mis Mai. Gwleidyddol oedd y rheswm cyntaf gan ei bod hi’n hi’n 25 mlynedd ers arwyddo Cytundeb Dydd Gwener y Groglith, sydd wedi sicrhau heddwch ar yr ynys ar ôl blynyddoedd gwaedlyd yr Helyntion yng Ngogledd Iwerddon. Roedd Biden eisiau pwysleisio nid yn unig rôl allweddol yr Unol Daleithiau yn y broses o lunio’r Cytundeb (yn benodol Bill Clinton a’r Seneddwr George Mitchell, cadeirydd y trafodaethau), ond hefyd ei ymrwymiad yntau i’r broses heddwch, a’i gefnogaeth i Iwerddon yn sgil Brexit.

Roedd yr ail reswm yn un personol. Mae Joe Biden wastad wedi bod yn falch dros ben o’i wreiddiau Gwyddelig, ac er ei fod wedi bod yma sawl gwaith yn y gorffennol, roedd o’n benderfynol o wireddu ei addewid i ymweld ag Iwerddon fel Arlywydd i ddathlu ei gysylltiadau.

Ac o, mi roedd yna ddathlu! Biden ydi’r Arlywydd Americanaidd mwyaf Gwyddelig ers John F. Kennedy, gyda 10 o’i gyndeidiau a neiniau wedi ymfudo i’r Unol Daleithiau o Iwerddon. Fe dreuliodd Biden dri diwrnod yn y Weriniaeth: aeth yn gyntaf i Carlingford a Dundalk yn Louth i ailgyfarfod ei deulu estynedig ar ochr tad ei fam, y Finnegans. Yna ar ddiwedd ei ymweliad aeth draw i orllewin y wlad, i dref fach Ballina yn Swydd Mayo, i weld ei deulu ar ochr ei nain, y Blewitts.

Roedd Ballina wedi paratoi ar gyfer yr ymweliad ers wythnosau: roedd baneri ym mhobman, y strydoedd wedi eu glanhau, a phob adeilad bron wedi ei ailbaentio, yn barod ar gyfer uchafbwynt y noson olaf, sef cyngerdd awyr agored. Daeth miloedd o bobl ynghyd i wrando ar fandiau’n cynnwys y Coronas a’r Chieftains yn canu caneuon emosiynol am alltudiaeth a hiraeth, gyda chyn-Arlywydd Iwerddon Mary Robinson (sydd hefyd yn hanu o Ballina) yn darllen cerdd am ymfudwyr, a Biden ei hun yn annerch y dorf. Roedd y llwyfan wedi ei osod gerbron eglwys gadeiriol Sant Muredach: dywedodd Biden ei fod newydd gael ar ddeall mai un o’i gyndeidiau, Edward Blewitt, a werthodd y briciau a ddefnyddiwyd ar gyfer adeiladu’r eglwys. Aeth y dorf yn wallgof pan orffennodd Biden ei anerchiad drwy weiddi ‘Mayo for Sam!’ – cyfeiriad at obeithion cefnogwyr Mayo y bydd eu tîm pêl-droed Gwyddelig yn ennill cwpan Sam Maguire eleni yn y rownd derfynol ym Mharc Croke, rhywbeth nad ydi Mayo wedi llwyddo i’w wneud ers 1951. Ni allai Biden fod wedi plesio mwy ar y rhai oedd wedi ymgynnull yno: mae ‘Mayo for Sam!’ yn golygu llawer mwy i bobl Mayo na jyst cefnogaeth i’r tîm. Mae’n cynrychioli blynyddoedd o siom a phoen: mae pawb yn y wlad yn gwybod am y felltith sydd ar Mayo hyd nes y bydd yr aelod olaf o dîm buddugol 1951 wedi marw. Bob blwyddyn mae Mayo yn dod yn agos at ennill Sam, ond yn methu. Mae’r holl beth yn symbol o hanes gorllewin Iwerddon, hanes o galedi a cholled. Drwy floeddio ‘Mayo for Sam!’ fe brofodd Biden i bobl Mayo ei fod o’n gwirioneddol berthyn, yn Un Ohonyn Nhw.

Roedd cyfeiriad arall gan Biden at chwaraeon yn ystod ei ymweliad, fodd bynnag, a hwnnw’n un tipyn llai poblogaidd. Mae’r cyn-chwaraewr rygbi rhyngwladol Rob Kearney ymhlith aelodau teulu estynedig Biden, ac roedd Kearney a’i wraig yn rhan o’r gynulleidfa yn ystod ymweliad yr Arlywydd â thafarn yn Dundalk o’r enw The Windsor. (Dyma gyfeiriad Brexitaidd, yn ôl rhai sylwebyddion, at Fframwaith Windsor a ddyfeisiwyd gan Rishi Sunak.) Roedd Biden yn gwisgo tei arbennig – anrheg, meddai, gan Rob Kearney, ar ôl y gêm rygbi yn Chicago pan roddodd Iwerddon ‘gweir uffernol i’r black and tans’. O diar! Anffodus braidd – cymysgu’r All Blacks gyda’r heddlu milwrol atgas Prydeinig adeg Rhyfel Annibyniaeth Iwerddon. Ar y llaw arall, roedd rhai pobl yn hapus i ddehongli’r ‘camgymeriad’ yma fel llithriad Freudaidd clyfar.

Yn ôl Arlene Foster, cyn-arweinydd plaid unoliaethol y DUP, mae Biden yn ‘casáu’ Prydain. Iddi hi, a rhai o bapurau newydd adain-dde Llundain, roedd y ffaith bod Biden wedi neilltuo hanner awr yn unig dros baned o goffi i Rishi Sunak, ac wedi treulio noson a hanner diwrnod yng Ngogledd Iwerddon o’i gymharu â dwy noson a dau ddiwrnod a hanner yn y Weriniaeth, yn brawf ei fod o’n wrth-Brydeinig. Ac er bod y rhan fwyaf o’i wrandawyr – gan gynnwys arweinydd presennol y DUP Jeffrey Donaldson – wedi croesawu ei araith ym Mhrifysgol Ulster fel un ‘gytbwys’, fe ddywedodd Biden mewn araith arall, gerbron y Dáil yn Nulyn, y dylai Prydain weithio’n ‘agosach’ gyda’r Weriniaeth dros Ogledd Iwerddon.

Ond efallai mai’r gwir amdani yw bod yr ochr wleidyddol i’r ymweliad – sef yr angen i droedio’n ofalus drwy gymhlethdodau Gogledd Iwerddon, a thrafod effeithiau Brexit gyda Sunak – yn llai pleserus na chrwydro rownd y Weriniaeth yn cyfarfod teulu, a chael croeso brwd gan bawb. Fel arfer pan fydd Arlywydd yr Unol Daleithiau yn ymweld â gwlad arall, rhaid delio â phroblemau a chwestiynau anodd ynglŷn â hawliau dynol neu fasnach neu arfau. Does dim byd cas o’r fath yn amharu ar ymweliad â’r Weriniaeth: mae pawb yn gallu mwynhau’r sioe.

Yn sicr, o safbwynt Iwerddon, roedd ymweliad Biden yn llwyddiant ysgubol. Mae’r berthynas gynnes gyda’r Unol Daleithiau (a oedd wedi oeri dan Trump) yn bwysig i Iwerddon. Pa wlad fach arall sy’n cael croeso i’r Tŷ Gwyn am ddiwrnod bob blwyddyn, fel mae Iwerddon yn ei gael ar ddydd Sant Padrig? Mae’n enghraifft o ddylanwad ‘meddal’ Iwerddon.

O bosib, digwyddiad mwyaf nodedig yr ymweliad oedd ymweliad Biden â Knock, lle mae’r ffyddloniaid yn credu bod y Forwyn Fair wedi ymddangos. Mae Biden yn Gatholig, ac yn Gatholig ffyddlon. Treuliodd ychydig amser mewn gweddi breifat, ac yna digwyddodd rhywbeth cwbl annisgwyl. Yn 2015 bu farw mab Biden, Beau, o ganser, ac mae’r offeiriad a roddodd yr eneiniad olaf i Beau yn yr ysbyty yn Washington yr adeg honno erbyn hyn yn gwasanaethu yn Knock. Doedd Biden ddim yn gwybod hynny ymlaen llaw, ac fe gafodd gyfarfod emosiynol iawn gyda’r Tad Frank O’Grady.

Ar wahân i’r rhan breifat yma o’r ymweliad, roedd camerâu RTÉ a Fox News yn dilyn Biden bron pob cam o’i daith o amgylch Iwerddon, yn darlledu lluniau ohono’n cael ei groesawu gan y tyrfaoedd, yn edmygu’r olygfa ramantus o gastell Carlingford mewn niwl, yn siarad efo plant, ac yn annerch aelodau’r Dáil. Ym mhobman, roedd Biden yn sôn am deimlo ei fod wedi ‘dod adre’, yn sôn am obaith a heddwch a dyfalbarhad, yn sôn am bwysigrwydd teulu, ac am y gwerthoedd mae Iwerddon ac America yn eu rhannu – fel credu mewn ‘posibilrwydd’ a ‘heddwch’. Ac wrth gwrs, roedd y dyfyniadau hynny’n ymddangos ar sgriniau yn America yn ogystal ag yn Iwerddon.

Dydi Joe Biden ddim wedi cyhoeddi eto y bydd o’n ymgeisydd ar gyfer yr arlywyddiaeth yn yr etholiad nesaf, er ei fod wedi dweud ei fod yn bwriadu sefyll. Ond roedd y Joe Biden a welwyd yn Iwerddon yn edrych yn ddigon egnïol a brwdfrydig i sefyll eto, er ei fod yn 80 oed. Os oedd ei ymweliad yn llwyddiant yng ngolwg Iwerddon, wnaeth o ddim niwed chwaith i’w obeithion yntau am ail dymor fel Arlywydd.

Bethan Kilfoil
Mai 2023