GWOBR: GEMWAITH UNIGRYW MARI ELUNED
Cyfle Nadoligaidd i ennill gwobr gain, sef cadwyn hardd rhoddedig gan y cynllunydd gemwaith llechen Gymreig Mari Eluned.
O’i gweithdy ym Mallwyd, Meirionnydd, mae Mari Eluned yn creu gemwaith unigryw gan drawsnewid llechen yn ddarnau cywrain.
Daw ei hysbrydoliaeth o’r tirlun amaethyddol, natur a’i Chymreictod. Mae’n llunio pob darn â llaw i safon uchel, ac mae’r gemwaith yn apelio at y llygad a’r cyffyrddiad sy’n gwneud ei chynlluniau yn bleser i’w gwisgo.
Gellir gweld detholiad eang o’i gwaith ar www.marieluned.co.uk
ATEBION RHWNG Y CLORIAU
Unwaith eto mae’r atebion i gyd i’w cael rhwng cloriau’r rhifyn hwn o BARN, dim ond i chi ddarllen yn ofalus. Nid yw’r erthyglau o angenrheidrwydd yn ymddangos yn yr un drefn â’r cwestiynau.
Anfonwch eich atebion at Swyddfa Barn, Y Llwyfan, Caerfyrddin, SA31 3EQ gyda’ch enw a’ch manylion cyswllt, neu at swyddfa@barn.cymru erbyn dydd Mercher, 5 Chwefror 2019.
Bydd yr atebion ac enw’r enillydd yn rhifyn Mawrth.
- Lle mae siocled Nefolaidd (cyfieithwch) i’w gael?
- Beth yw hoff ddihareb Lyn Ebenezer a John Gower?
- Sawl gwaith y llygrwyd afon Tywi dros y blynyddoedd diwethaf?
- Pa bêl-droedwyr sy’n gwrthod gwisgo pabi?
- Pwy oedd y brodyr ddaeth ag ysbryd Beca i fyd celf?
- Yn lle a phryd y perfformiwyd War Requiem Britten am y tro cyntaf?
- Pa anrhegion fydd Sinterklaas yn eu dosbarthu?
- Pan oedd Rhodri Morgan yn Brif Weinidog pwy oedd ar ei ddeheulaw?
- Cerddi pa ddau fardd rhyfel oedd fel ‘shrapnel geiriol’?
- Pwy gyfarwyddodd Nyrsys?
- Beth oedd yn dalp o lên-ladrad?
- Pa gyfreithiwr o Lundain a garcharwyd yng Nghastell Caernarfon?
- Beth yw rhaglen deledu fwyaf poblogaidd Iwerddon?
- Ym mha wlad y mae’r ‘cyffro gwinyddol’ mwyaf?
- Faint o garcharorion fu farw ar Res Angau Califfornia rhwng 1978 a 2018?
- Pa ddinas sydd wedi adennill ei safle fel un o brif atyniadau’r byd?
- Pwy oedd y pregethwr dall?
- Beth oedd gan yr Alban ymhell cyn datganoli?
- Lle gwelwyd yr Hypnotydd a’r Tad?
- Pwy yw’r Monwysyn diedifar?