Diwedd y daith i Truss

Liz Truss ar Stryd Downing
Darllen am ddim

Beth bynnag oedd ei amheuon am y posibilrwydd o weld Syr Keir Starmer yn Brif Weinidog a Llafur yn llywodraethu, erbyn hyn mae’r awdur yn fwy na pharod i lyncu ei eiriau wrth i hygrededd y Ceidwadwyr ddiflannu’n llwyr.

Pwy welodd ffasiwn beth erioed? Roedd rhywun yn tybio nad oedd dyfnderoedd hyd yn oed oerach a mwy digroeso i’w plymio. Nad oedd selerydd mwy rhynllyd a thywyll islaw’r rheini y buom yn gaeth ynddynt dros y blynyddoedd diwethaf. Ond na. Erbyn hyn rydym yn gwybod yn well. Wedi parlys diffaith cyfnod May a chelwyddau a llygredd cyfnod Johnson, wele, lywodraeth Liz Truss. Heb os, y llywodraeth fwyaf di-glem a brofodd y wladwriaeth hon yn ei hanes modern.

Ysgrifennaf hyn o eiriau drannoeth cyhoeddiad Truss ei bod yn ymadael â’r Brif Weinidogaeth. Gwnaeth hynny mewn araith a oedd yn gwbl nodweddiadol ohoni: prennaidd, mulaidd o hunangyfiawn, a chwbl ddiurddas. Doedd dim gair o ymddiheuriad. Yn wir, ni chafwyd y mymryn lleiaf o gydnabyddiaeth ganddi o ba mor drychinebus y bu ei chyfnod yn Downing Street a’i chyfrifoldeb personol hi am hynny. Cawn glywed eto am yr union broses a arweiniodd at ei hymadawiad – pwy’n union a lwyddodd i’w hargyhoeddi i wynebu realiti. Ond roedd unrhyw rym ymarferol heb sôn am statws wedi hen ddiflannu, a hynny er mai dim ond ar 5 Medi y’i hetholwyd yn arweinydd y Blaid Geidwadol.

Nid oes gwadu’r ffaith fod dyddiau olaf ei theyrnasiad yn egr. Profodd Truss yr artaith o eistedd yn siambr Tŷ’r Cyffredin yn gwrando ar ei Changhellor newydd, Jeremy Hunt, yn rhacsio’r holl raglen y cafodd ei hethol gan aelodau ei phlaid i’w rhoi ar waith. Er ei bod, fe ymddengys, yn berson sy’n brin iawn o hunanadnabyddiaeth, mae’n rhaid ei bod yn sylweddoli ei bod eisoes yn destun dirmyg cyffredinol – yn gyff gwawd. Ei ffawd bellach fydd cael ei chofio fel y Prif Weinidog mwyaf byrhoedlog yn hanes y wladwriaeth ac fel punchline i jôcs cenhedlaeth o gomedïwyr. Efallai y bydd y rhai mwy trugarog yn eich plith yn teimlo drosti o’r herwydd. Ond o gofio’r dinistr diangen a greodd o fewn ychydig o wythnosau – dinistr y bydd ei effeithiau’n parhau am flynyddoedd lawer – mae’n anodd i mi wneud dim ond dymuno gwynt teg ar ei hôl.

Er ei bod wedi mynd, mae’n annhebygol iawn, iawn y bydd aberthu Truss yn ddigon i achub ei phlaid. Mae’n hysbys erbyn hyn fod yr arolygon barn yn dangos fod Llafur bellach ymhell bell ar y blaen yn Lloegr yn ogystal â Chymru. Mor bell ar y blaen fel nad yw’n amhosibl rhagweld chwalfa arall o faintioli 1997 (neu fwy, hyd yn oed.) Go brin fod ‘na unrhyw beth y gall y Torïaid ei wneud i osgoi ffawd o’r fath. Dim ots pwy fydd wrth y llyw, Rishi, Penny neu – a’n helpo – Boris (bydd yn rhaid disgwyl ychydig o ddyddiau cyn gwybod hynny), mae’r llong Geidwadol wedi ei dryllio. Cyrraedd porthladd yr etholiad cyffredinol heb suddo’n llwyr yw unig obaith y blaid bellach. Dim ond sgandal neu afiechyd a all rwystro Syr Keir Starmer rhag dyfod yn Brif Weinidog y Deyrnas Gyfunol.

Pe digwydd hynny – pan ddigwydd hynny! – fe fydd yn rhaid i lawer llyncu eu geiriau, a minnau’n bendant iawn yn eu plith. Pan enillodd Boris Johnson ei fuddugoliaeth ysgubol yn etholiad cyffredinol 2019, y gred gyffredinol oedd y byddai hynny’n esgor ar ddegawd a mwy o oruchafiaeth Geidwadol. Roedd y mwyafrif mor sylweddol a’r gynghrair etholiadol oedd yn sail iddo mor ymddangosiadol gadarn, fel ei bod yn amhosibl i’r rhan fwyaf ohonom ddychmygu unrhyw ganlyniad arall. Achub ei blaid yn sgil llongddrylliad Corbyniaeth fyddai priod waith Starmer. Ni fyddai raid iddo ef na’i deulu boeni am fesur y llenni yn rhif 10.

Yn ddiau, bydd cyfrolau lawer yn cael eu hysgrifennu yn ceisio olrhain a dadansoddi tranc y llywodraeth bresennol – o uchelfannau gaeaf 2019 i nadir hydref 2022. Gellir bod yn sicr y bydd rhai o’r dramatis personae wrthi ar hyn o bryd yn cyfansoddi yn y gobaith o allu eu hesgusodi eu hunain rhag unrhyw gyfrifoldeb am y gachfa.

Ac yn naturiol ddigon, buan iawn, iawn y bydd ein sylw yn troi at yr holl gwestiynau sy’n codi wrth ystyried y tebygolrwydd o lywodraeth Lafur. Sut y bydd y llywodraeth honno’n ceisio mynd i’r afael â’r heriau lu sy’n wynebu’r wladwriaeth? Rhai ohonynt yn ganlyniad i gamlywodraethu ei rhagflaenwyr, wrth gwrs, ond eraill yn deillio o’r niwed parhaol a grëwyd gan Brexit (mater nad yw Llafur yn fodlon ei wyntyllu, hyd yn oed.)

O safbwynt Cymreig, sut y byddai llywodraeth Lafur yn Llundain yn ymwneud â llywodraeth Lafur Caerdydd? A fyddai Aelodau Seneddol Llafur yn San Steffan yn gweld eu cyfle i ddangos i grŵp Llafur yn Senedd Cymru mai nhw ydi’r ceffylau blaen wedi’r cyfan? (Peidied byth â diystyru’r tensiynau oddi mewn i’r Blaid Lafur Gymreig!) A sut, yn wir, y byddai Plaid Cymru yn ceisio manteisio ar y posibiliadau gwleidyddol newydd a allai godi o gael Llafur mewn grym ar lannau Tafwys ac ar lannau’r Bae ar yr un pryd?

Ond cwestiynau i’r dyfodol yw’r rhain i gyd. Cyn dechrau ystyried a chnoi cil mae’n briodol ein bod yn oedi i gofnodi diwedd cyfnod yn ein hanes gwleidyddol. Mae’r cyfnod diweddaraf o ddominyddiaeth y Torïaid dros wleidyddiaeth Lloegr – ac felly dros y gweddill ohonom – ar ben. Mae methiant alaethus Liz Truss a’i llywodraeth wedi rhoi’r farwol iddo.

Richard Wyn Jones
Tachwedd 2022