Gogledd Iwerddon a’r Undeb – pa ddyfodol?

Stormont segur - adeilad Cynulliad Gogledd Iwerddon
Darllen am ddim

Mae sefyllfa Unoliaethwyr y chwe sir yn anobeithiol a thrasig. Dyna ddengys gwybodaeth y bu’r awdur yn gyd-gyfrifol am ei chanfod. Nid yw teyrngarwch y rhai yn y Gogledd sy’n uniaethu â Phrydain yn cyfateb i’r farn yng ngweddill y Deyrnas am bwysigrwydd y dalaith o fewn yr Undeb na lleoliad y ffin.

Byddwch yn onest! Beth yw eich ymateb cyntaf i’r frawddeg ganlynol? Mae yna argyfwng gwleidyddol yng Ngogledd Iwerddon. Ydych chi’n awchu am gael gwybod mwy, tybed? Ynteu ydych chi’n rowlio’ch llygaid gan ebychu o dan eich gwynt rywbeth i’r perwyl ‘wrth gwrs bod ’na!’

Wrth reswm, mae darllenwyr BARN yn griw chwilfrydig ac effro, felly mae’n siŵr y bydd rhai ohonoch eisoes yn hyddysg yn yr holl hanes. Mae yna hyd yn oed bosibilrwydd bychan y bydd yr argyfwng presennol wedi troi’n stori fawr yn y cyfryngau torfol erbyn i’r rhifyn presennol o’r cylchgrawn eich cyrraedd ac y bydd pawb wedi dysgu mwy, hyd yn oed o’u hanfodd.

Serch hynny, petawn i’n gorfod darogan, ac o geisio mesur lefel diddordeb yn y digwyddiadau diweddaraf yng ngwleidyddiaeth Gogledd Iwerddon ar ystod yn ymestyn o ‘Awchus i wybod mwy’ ar un pegwn at ‘Cwbl ddi-hid’ ar y pegwn arall, rwy’n tybio y bydd y rhan fwyaf ohonom yng Nghymru yn gogwyddo mwy at yr ail. Ychydig iawn sydd â diddordeb yn hynt y chwe sir yng ngogledd-ddwyrain ynys Iwerddon. Ac nid dim ond yng Nghymru, chwaith. Mae’n wir ar draws gweddill ynys Prydain hefyd.

Nid oes dim byd newydd yn hyn. Cyn i’r broses heddwch ddod i fwcl, roedd y mwyafrif llethol o drigolion yr ynys hon yn llwyddo i anwybyddu’r trais oedd yn rhan o fywyd beunyddiol cymunedau Gogledd Iwerddon. Byddai angen digwyddiad arbennig o erchyll – neu, wrth gwrs, bom ar y ‘tir mawr’ Prydeinig – cyn ein bod yn cymryd sylw.

Yr hyn sy’n wahanol ac yn arwyddocaol am yr argyfwng presennol yw ei fod yn deillio’n uniongyrchol o ddihidrwydd gweddill y wladwriaeth. Yn fwy na hynny – ac yn chwerw eironig – mae’n codi o agwedd ddi-hid yr union bobl hynny sy’n honni poeni fwyaf am ffawd yr undeb fondigrybwyll yr ydym yn rhan ohoni.

Fel arfer yn achos Gogledd Iwerddon, mae yna haen ar ben haen o gymhlethdod ynghlwm wrth yr helynt. Ond ar ei symlaf, mae’n ffrae ynglŷn â goblygiadau Brexit i wladwriaeth sydd â pheth ohoni’n rhannu ynys â gwladwriaeth arall, Gweriniaeth Iwerddon, sy’n benderfynol o barhau’n rhan o’r Undeb Ewropeaidd.

Gan fod pawb call – ond yn bwysicach fyth, Brwsel a Washington – yn bendant na ddylid ailgodi ffin galed ar draws ynys Iwerddon, dim ond dau opsiwn oedd ar gael wrth negodi Brexit. Un ai cadw’n ddigon agos at yr Undeb Ewropeaidd fel nad oedd angen creu ffin o gwbl, neu osod y ffin effeithiol rhwng y Deyrnas Gyfunol a’r Undeb Ewropeaidd yn y môr rhwng Gogledd Iwerddon a gweddill y Deyrnas.

Rhyw lun o’r opsiwn cyntaf oedd hanfod cytundeb arfaethethig Theresa May â’r Undeb Ewropeaidd. Fodd bynnag, yn sgil ei phenderfyniad i gynnal etholiad cyffredinol yn 2017, nid oedd ganddi ddigon o gefnogaeth wleidyddol i sicrhau cydsyniad Tŷ’r Cyffredin i’w chynllun. Yr ail opsiwn oedd dewis Boris Johnson. Dim ond, wrth gwrs, ei fod yn taeru’n ddu las na fyddai’r cytundeb yr oedd wedi ei negodi yn rhwym o arwain at sefydlu ffin economaidd rhwng gwahanol rannau o’r wladwriaeth yr oedd yn Brif Weinidog arni. Nid oedd rhithyn o bwys gan y cyn-Brif Weinidog na’r cynffonwyr hynny oedd yn ffoli ar ei gampau honedig fel negodwyr am ganlyniadau ei gelwydd. Ond fel yr oedd yn rhagweladwy ac yn wir yn ddealladwy, roedd creu ffin o’r fath yn siŵr o gael ei ddehongli gan boblogaeth unoliaethol Gogledd Iwerddon fel brad. Oherwydd – gadewch i ni fod yn gwbl onest – o ystyried holl rethreg Johnson am yr undeb, brad yw’r term priodol.

A dyna ddod â ni at galon y tensiynau presennol. Ar y naill law, mae’r Undeb Ewropeaidd bellach yn disgwyl i’r Deyrnas Gyfunol greu a chynnal ffin y mae wedi addo ei sefydlu. Ydi, mae wedi bod yn hyblyg ynglŷn â’r mater: wele Fframwaith Windsor. Serch hynny, mae ffin yn ganlyniad anorfod Brexit. Rhaid ei chael. Ond ar y llaw arall, mae’r DUP – prif blaid y gymuned unoliaethol – yn benderfynol o geisio gwrthsefyll creu ffin rhyngddi a gweddill y wladwriaeth ac am ddefnyddio’r unig arf gwleidyddol yn ei meddiant i greu pwysau, sef ei gallu i danseilio sefydliadau gwleidyddol datganoledig Gogledd Iwerddon.

Nid wyf yn ddigon o arbenigwr i wybod a oes ffordd ymlaen. Yr hyn sy’n sicr, fodd bynnag, yw bod Boris Johnson wedi ymuno â’r olyniaeth o wleidyddion Prydeinig sydd wedi gwenwyno gwleidyddiaeth Iwerddon. O ystyried rôl drychinebus y wladwriaeth hon yn hanes Iwerddon, dyma ond odid isafbwynt gyrfa un a fu’n plymio’r dyfnderoedd. Ond tra mae Johnson yn haeddu pob beirniadaeth a ddaw i’w ran, mae hefyd yn werth cofio ei fod yn adlewyrchu rhagfarnau ei gefnogwyr ef ei hun pan benderfynodd fod gadael yr Undeb Ewropeaidd yn bwysicach na chynnal undod y Deyrnas Gyfunol.

Mae Ffig. 1 yn dangos data a gasglwyd gan Ailsa Henderson o Brifysgol Caeredin a minnau ddiwedd 2021 ac a gyhoeddwyd gennym mewn adroddiad diweddar.* Gofynnwyd i samplau cynrychioladol o etholwyr pedair rhan gyfansoddol y Deyrnas Gyfunol a oeddynt yn ystyried fod creu ffin ym môr Iwerddon yn ‘bris gwerth ei dalu’ er mwyn sicrhau Brexit gan gynnig yr opsiynau canlynol fel ateb: Ydi, pris gwerth ei dalu; Na, ddim yn bris sy’n werth ei dalu; ac Yn cefnogi creu ffin ym Môr Iwerddon beth bynnag.

Mae’r golofn ar y chwith eithaf yn dangos yr ymatebion o Loegr i’r cwestiwn, gyda’r darn du yn cynrychioli’r sawl oedd am weld ffin ym Môr Iwerddon beth bynnag, y darn llwyd tywyll yn cynrychioli’r sawl oedd yn ei ystyried yn bris gwerth ei dalu, a’r darn llwyd golau’n cynrychioli’r sawl a gredai nad oedd yn bris gwerth ei dalu (rwyf wedi hepgor y rheini nad oedd â barn). Mae’r tair gwlad arall yn dilyn: yr Alban â bonyn glas, Cymru’n wyrdd a Gogledd Iwerddon yn goch. Fel y gwelwch, o gyfuno’r rheini oedd am weld ffin beth bynnag â’r rheini sy’n ystyried ffin yn bris gwerth ei dalu, roedd dros hanner etholwyr Lloegr a Chymru’n fodlon gweld ffin ym Môr Iwerddon.

Mae hynny’n ddigon trawiadol ynddo’i hun, ond yr hyn sy’n wirioneddol ddadlennol yw dadansoddi’r ymatebion trwy wahaniaethu rhwng y rheini a bleidleisiodd dros Adael yr Undeb Ewropeaidd â’r sawl a bleidleisiodd i Aros. Roedd cymaint â 69% o bleidleiswyr Gadael yng Nghymru yn ystyried sefydlu ffin rhwng Prydain a Gogledd Iwerddon yn bris gwerth ei dalu er mwyn sicrhau Brexit. Y ffigyrau cyfatebol yn Lloegr oedd 62%, 55% yn yr Alban, a 45% yng Ngogledd Iwerddon. O gyfuno’r niferoedd hyn hefo’r rheini oedd o blaid ffin beth bynnag, dyna fwyafrif o’r pleidleiswyr Gadael ar draws y wladwriaeth, gyda mwyafrifoedd anferthol ar draws ynys Prydain.

Mewn amgylchiadau eraill byddwn yn ystyried cefnogwyr Gadael yr Undeb Ewropeaidd fel cefnogwyr mwyaf pybyr Undeb Teyrnas Gyfunol Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon, a galw’r wladwriaeth hon wrth ei henw cywir. Ond fel y gwelwn, pan ddaeth hi’n awr o brysur bwyso, pan ddaeth hi’n fater o ddewis, fel yn achos Johnson ac aelodau seneddol y Blaid Geidwadol, nid oedd lle Gogledd Iwerddon oddi mewn i’r undeb yn cyfrif fawr ddim.

A dyna, yn y pen draw, pam mae sefyllfa unoliaethwyr Gogledd Iwerddon nid yn unig yn anobeithiol ond yn drasig yng ngwir ystyr y gair. Nid yw gweddill y wladwriaeth y maent mor daer eu teyrngarwch iddi’n ategu’r teyrngarwch hwnnw. Wrth iddyn nhw fytheirio am frad y ffin ym Môr Iwerddon, nid yw’r rhan fwyaf ohonom yn clywed nac yn malio dim. A bydd y ffin yn ei thro yn siŵr o lacio’r cysylltiadau rhwng y chwe sir yn Iwerddon a thair gwlad Prydain Fawr hyd yn oed ymhellach. Tybed ar ba bwynt y bydd rhai o arweinwyr y gymuned honno’n derbyn nad oes dyfodol hirdymor i berthynas o’r fath?

*Ailsa Henderson a Richard Wyn Jones, The Ambivalent Union: Findings from the State of the Union Survey (IPPR, 2023) (http://www.ippr.org/research/publications/the-ambivalent-union)

Richard Wyn Jones
Hydref 2023