Roedd yn hanner tymor a’r mwyafrif o newyddiadurwyr gwleidyddol Llundain a Chaeredin ar eu gwyliau. Ond ar fore Mercher 15 Chwefror fe gawson nhw eu galw yn ôl at eu gwaith ar fyrder. Roedd Nicola Sturgeon, Prif Weinidog yr Alban, wedi galw cynhadledd frys i’r wasg, nid yn St Andrew’s House, pencadlys y llywodraeth fel sy’n arferol, ond yn Bute House, ei chartref swyddogol. Yn yr awr fer rhwng yr alwad a’r gynhadledd ei hun dyfalwyd – yn gywir – bod Rhywbeth Mawr yn ein haros: roedd y Prif Weinidog mwyaf hirhoedlog yn hanes yr Alban ar fin ymddiswyddo.
Mae Sturgeon gyda’r olaf o Ddosbarth ’99, sef y rhai a fu’n aelodau o Senedd yr Alban o’r cychwyn cyntaf. Etholwyd hi i gychwyn fel un o aelodau rhanbarth Glasgow cyn iddi ennill sedd Glasgow Govan (Glasgow Southside erbyn hyn) yn 2007. Daeth yn Ddirprwy Arweinydd yr SNP yn 2004 ac yn Ddirprwy Brif Weinidog yn 2007. Wedi methiant refferendwm annibyniaeth 2014, ildiodd Alex Salmond ei le fel Prif Weinidog ac arweinydd y blaid. Nicola Sturgeon oedd ei olynydd. Byth ers hynny mae’r SNP wedi dod i’r brig ym mhob etholiad a gynhaliwyd ar draws yr Alban gyfan.
Gwadodd Sturgeon mai’r ‘pwysau cyfredol’ barodd iddi ymddiswyddo. Ysgogwyd ei phenderfyniad yn hytrach gan y sylweddoliad bod ei phen a’i chalon yn dweud wrthi mai dyma’r adeg i gamu o’r neilltu. Dadleuodd hefyd mai ffolineb fyddai gofyn i’r blaid gefnogi ei strategaeth (troi’r etholiad cyffredinol nesaf yn refferendwm de facto ar annibyniaeth) os nad oedd hi’n argyhoeddedig mai hi fyddai’n parhau i fod wrth y llyw.
Beth nesaf felly? Gorchmynnodd Sturgeon y blaid i ddechrau trefnu ar unwaith etholiad i ddewis arweinydd yn ei lle. Cyhoeddir enw’r enillydd ar 27 Mawrth. Fydd Sturgeon ddim yn ymddiswyddo fel Prif Weinidog hyd nes y cyhoeddir enw hwnnw neu honno. Ac fe fydd hi’n parhau i fod yn Aelod o Senedd yr Alban dan y Prif Weinidog newydd.
Does dim ceffyl blaen amlwg yn y ras a’r darogan yw mai hon fydd yr ornest fwyaf agos yn hanes y blaid. Diau y bydd arolygon barn wedi ymddangos erbyn i chi ddarllen y geiriau hyn. Ymddangosodd un yn Chwefror, ychydig cyn cyhoeddiad ysgytwol Sturgeon. Pan ofynnwyd pwy ddylai ei holynu, yr enillydd gyda 69% oedd ‘Ddim yn gwybod’! Kate Forbes, yr Ysgrifennydd Cyllid, ddaeth yn ail, gyda dim ond 7% o gefnogaeth.
Tybiai pawb y byddai’r Ysgrifennydd Materion Cyfansoddiadol Angus Robertson yn ymgiprys am yr arweinyddiaeth ond gwadu hynny wnaeth o. A dyw’r person a fyddai’n fwyaf tebygol o ennill, yn ôl ffynonellau o fewn y blaid, John Swinney, y dirprwy Brif Weinidog, ddim am roi ei enw gerbron ychwaith.Yn wir, wrth i BARN fynd i’r wasg roedd nifer o’r enwau blaenllaw yn mynnu na fyddan nhw’n sefyll, yn eu plith Keith Brown a Joanna Cherry. Nid felly Humza Yousaf, yr Ysgrifennydd Iechyd. Yn y ras hefyd, ac yn ymgeisyddion difrif, mae Kate Forbes, yr Ysgrifennydd Cyllid (er gwaethaf arolwg barn Chwefror), ac Ash Regan, a ymddiswyddodd o lywodraeth Sturgeon oherwydd ei gwrthwynebiad i’r Bil Diwygio Cydnabod Rhywedd.
Y tu allan i’r SNP ei hun, bydd y pleidiau unoliaethol yn gobeithio gweld achos y cenedlaetholwyr ac achos annibyniaeth yn dioddef wedi cyhoeddiad Sturgeon. Efallai fod y bwlch presennol rhwng yr SNP a Llafur yn ymddangos yn amhosib o fawr ond bydd Keir Starmer yn disgwyl gweld mwy o aelodau Llafur o’r Alban yn cael eu hethol, a bydd Anas Sarwar, arweinydd y blaid yn Holyrood, yn gobeithio na fydd hi mor hawdd y tro nesaf i’r SNP ffurfio llywodraeth arall yno.
Bum mlynedd ar hugain yn ôl go brin y byddai neb wedi dychmygu gweld y ‘nippy sweetie’ y cyfeiriai’r pleidiau eraill ati’n nawddoglyd yn cael y fath ddylanwad ar yr Alban. Ac ar Brydain a Phrydeindod.
A wyddom ninnau heddiw ddim i sicrwydd beth fydd dylanwad ei hymddiswyddiad.