Yn sgil y pandemig cafodd Prif Weinidog Cymru sylw mawr ar raglenni newyddion a materion cyfoes Prydain ac yn y wasg Lundeinig – mwy o lawer na’i ragflaenwyr. Ond yn hwyr neu’n hwyrach bydd yn ymddeol. Pwy tybed sydd fwyaf tebygol o’i olynu?
Rhaid cyfaddef nad oeddwn i wedi disgwyl mai o gyfeiriad Al Jazeera y byddai’r sgŵp yn dod. Eto, un o ohebwyr yr orsaf deledu honno a achubodd ar y cyfle a gododd yn sgil ei ymweliad â Doha i holi Mark Drakeford ynglŷn â’i fwriadau o ran ymddeol. Yn ei dro, fe sylwodd un o ohebwyr Nation.Cymru ar y cwestiwn a’r ymateb iddo, gan ddehongli geiriau’r Prif Weinidog fel cadarnhad ei fod yn bwriadu trosglwyddo’r awenau cyn diwedd 2023. A dyna godi sgwarnog yr olyniaeth – ac amseriad yr olyniaeth – mewn modd nas gwelwyd cyn hyn.
A bod yn gwbl onest rwyf ymhell o fod yn sicr fod Drakeford wedi dweud unrhyw beth newydd yn ei sgwrs efo Al Jazeera. Hyd y gwelaf, fyth ers iddo gynnig ei enw fel darpar olynydd i Carwyn Jones yn ôl yn 2018, mae’r Prif Weinidog wedi bod yn eglur am ddau beth, sef (1) y byddai’n dymuno aros yn y swydd am leiafswm o bum mlynedd, a (2) y byddai’n sicrhau bod digon o amser i’w olynydd yntau wneud argraff cyn yr etholiad nesaf ar gyfer Senedd Cymru sydd i’w gynnal ym mis Mai 2026. A ddywedodd unrhyw beth amgenach na hyn yn ei gyfweliad? Go brin.
Felly, er ei bod yn bendant yn bosibl fod Mark Drakeford â’i fryd ar gamu o’r neilltu ddiwedd 2023 (sef pum mlynedd yn union ers iddo gael ei ddyrchafu’n Brif Weinidog), mae hefyd yn bosibl y bydd yn ymadael yn 2024 neu hyd yn oed yn 2025. Serch hynny, ’taswn i’n ddyn betio – a chan wybod yn iawn fy mod yn awr mewn peryg o wneud i mi fy hun ymddangos yn dwpach nag arfer, hyd yn oed – byddwn yn rhoi fy swllt ar fis Rhagfyr 2024 fel yr amser mwyaf tebygol ar gyfer ei ymddeoliad o’r brifweinidogaeth. Hynny’n syml iawn oherwydd esiampl ei fentor a’i gyfaill mawr, Rhodri Morgan. Deunaw mis a roddodd Morgan i Carwyn Jones wneud ei farc cyn etholiad 2011. O ddilyn yr un patrwm, bydd Drakeford yn trosglwyddo’r awenau ymhen dwy flynedd i rŵan – sef, trwy gyd-ddigwyddiad, ychydig wythnosau’n unig wedi iddo ddathlu ei ben-blwydd yn 70. Amser a ddengys!
Un peth sy’n sicr, fodd bynnag, yw bod ymddangosiad stori’n awgrymu y gallem fod ar drothwy brwydr ar gyfer arweinyddiaeth y Blaid Lafur wedi bod yn destun dyfalu a thrafod brwd ymysg y sawl sy’n ymddiddori yng ngwleidyddiaeth Cymru. Yn naturiol, nid dyma’r tro cyntaf o bell ffordd i’r olyniaeth i Mark Drakeford gael ei hystyried. Mae enwau’r ymgeiswyr tebygol ar gyfer y ‘bwysig-arswydus’ yn hysbys ers tro byd, a hefyd y rheini sy’n debyg o fod yn cynorthwyo eu hymgyrchoedd. Ond heb os, mae ymddangosiad y stori yn Nation wedi ‘canolbwyntio meddyliau’, a chyfieithu’r ymadrodd Saesneg. Wedi’r cyfan, petai Mark Drakeford o ddifrif â’i fryd ar gamu o’r neilltu ymhen blwyddyn, byddwn yn disgwyl cyhoeddiad swyddogol rywdro yn y gwanwyn ac ymgyrch ac etholiad i ddilyn rywdro ddiwedd yr haf neu’r hydref. Hynny yw, mewn dim o amser...
Ar hyn o bryd mae dau geffyl blaen amlwg yn y ras ar gyfer yr olyniaeth, un ymgeisydd credadwy arall a fyddai’n gorfod cael ei chymryd o ddifrif petai’n cynnig ei henw, ynghyd â rhai enwau eraill sy’n debygol o gael eu crybwyll (neu o grybwyll eu hunain!) pan ddaw’n awr o brysur bwyso.
Y ddau geffyl blaen yw Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, a’r Gweinidog Addysg, Jeremy Miles. Mae diddordeb y cyntaf yn y swydd yn ddigon amlwg a phan ddaw’r ymgyrch, fe fydd sawl ffactor o’i blaid. Mae’n wleidydd slic a rhugl. Fel cyn-lywydd TUC Cymru bydd ganddo gefnogaeth solet ymhlith yr undebau, ac yn enwedig o gyfeiriad y GMB. Yng nghyd-destun seico-drama fawr y Blaid Lafur, sef y frwydr oesol rhwng y ‘dde’ a’r ‘chwith’, bydd yn apelio at ystod o bleidleiswyr yn ymestyn o’r dde i’r chwith ‘meddal’.
Er na chaiff hyn ei ddweud yn gyhoeddus, debyg, rwy’n dyfalu’n hefyd mai ef fydd dewis arweinydd y Blaid Lafur yn Llundain, gyda Syr Keir Starmer a’i gynghorwyr yn gobeithio am Brif Weinidog sy’n fwy at eu dant. (Faint bynnag o weniaith a ddaw o enau Syr Keir, mae’r ffaith fod Drakeford yn fodlon torri ei gwys ei hun yn dân cyson ar groen Llafur Llundain.) Dichon y bydd trwch yr aelodau seneddol Cymreig yn Nhŷ’r Cyffredin hefyd yn cefnogi Vaughan Gething, a hynny am resymau digon tebyg. Wedi blynyddoedd o weld grŵp Llafur Senedd Cymru yn mwynhau proffil uwch, mae nifer ohonynt yn edrych ymlaen yn awchus at gael ailsefydlu eu blaenoriaeth yn sgil llywodraeth Lafur ar y lefel Brydeinig.
Os oes ganddo wendid, yna ei record yng nghyswllt polisi yw hwnnw. Er ei fod yn weinidog profiadol iawn, mae’n anodd meddwl am unrhyw ddatblygiad neu ddiwygiad o bwys sydd wedi tarddu o’i ymdrechion. A bod yn deg, digwyddodd i’w gyfnod fel gweinidog iechyd gyd-daro â’r pandemig pan oedd dal ati’n gamp ynddi ei hun. Ond mae ei deyrnasiad fel Gweinidog yr Economi wedi profi’n siomedig, gydag ymadawiad y Deyrnas Gyfunol o’r Undeb Ewropeaidd – sydd heb os yn drychineb i economi Cymru – yn cael ei ddefnyddio fel esgus ganddo i wneud dim o bwys. Dyma adran farwaidd sydd wedi cael rhwydd hynt i barhau yn yr un hen rigol.
Sut lywodraeth, felly, fyddai llywodraeth yn cael ei harwain gan Vaughan Gething? A bod yn onest, nid oes gennyf lawer o syniad. O ystyried ei fod ugain mlynedd yn iau na Mark Drakeford, ac felly mewn sefyllfa lle gallai fod mewn grym am amser maith, mae hynny’n broblem.
Mae Jeremy Miles yn wleidydd slic a rhugl arall, ac efallai’n fwy agos-atoch ei gymeriad. Er mai dim ond ers 2016 y bu’n aelod o’r Senedd mae wedi magu profiad helaeth yn y cyfamser gan fagu proffil cymharol uchel yn y broses.
Bydd gan Miles fantais sylweddol mewn unrhyw ras. Yn gyntaf, mae’n deg dweud nad yw Vaughan Gething at ddant pawb yn ei blaid ei hun, a hynny un ai oherwydd gwahaniaethau ideolegol neu oherwydd bod rhai yn ei ystyried yn gymeriad braidd yn groendenau. Bydd y person a ystyrir yn brif wrthwynebydd iddo yn elwa ar hynny. O ran y sylwedd, mae llawer o’r rheini sy’n credu bod llwyddiant y Blaid Lafur Gymreig ers cyflafan etholiad 1999 wedi deillio o barodrwydd Rhodri Morgan, Carwyn Jones a Mark Drakeford i dorri eu cwys Gymreig eu hunain yn ystyried hefyd mai Miles sydd fwyaf tebygol o barhau yn yr un traddodiad. Yn eu tyb hwy, mae ffawd Plaid Lafur yr Alban yn rhybudd o’r hyn allai ddigwydd pe bai’r Blaid Lafur Gymreig yn glynu’n rhy agos at Lundain.
Yr her fawr i Miles yw bod yna – unwaith yn rhagor – ychydig o ddirgelwch ynglŷn â’r math o lywodraeth y byddai’n ceisio’i harwain. Byddai, fe fyddai ei hosgo’n Gymreig – ond y tu hwnt i hynny?
Os yw’n wir mai Vaughan Gething fydd ymgeisydd y sefydliad Llafuraidd, bydd yn rhaid i Aelod Castell-nedd geisio ysbrydoli’r aelodaeth ar lawr gwlad trwy gyflwyno gweledigaeth amgen o’r math o genedl y dylai Llafur Cymru fod yn ceisio’i hadeiladu. Yn hynny o beth, mae’n bosibl y bydd gan Aelod Llanelli, Lee Waters, rôl allweddol i’w chwarae. Caiff Waters ei gyfrif fel y meddyliwr polisi mwyaf radical a beiddgar ar y meinciau Llafur. Mae hefyd yn gynghreiriad clos i Jeremy Miles. Tybed i ba raddau y bydd Miles yn fodlon mabwysiadu rhai o syniadau Waters a’u gwneud yn ganolbwynt i’r ymgyrch? Fy nhybiaeth i, o leiaf, yw y bydd gwneud rhywbeth o’r fath yn angenrheidiol os yw Miles am lwyddo yn y ras i olynu Mark Drakeford.
Fe soniais fod yna un ymgeisydd posibl arall y byddai’n rhaid ei chymryd o ddifrif petai’n cynnig ei henw. Eluned Morgan yw honno. Ac yn wir, roedd hi’n un o’r tri a fu’n brwydro i olynu Carwyn Jones yn ôl yn 2018. Petai’n dewis sefyll y tro hwn ac yn ennill, hi fyddai Prif Weinidog benywaidd cyntaf Cymru – posibiliad a fyddai’n ddigon ynddo’i hun i ysbrydoli cefnogaeth a chydymdeimlad ar draws rhengoedd y Blaid Lafur Gymreig. Afraid dweud ei bod hefyd yn wleidydd profiadol iawn sy’n cyfathrebu’n hyderus ac eofn.
Serch hyn i gyd, rwy’n synhwyro fod cryn amheuaeth ymysg ei chyd-bleidwyr a yw Eluned Morgan yn dal mor awyddus ag yr oedd hi i gael ei dyrchafu’n Brif Weinidog. Nid oes gennyf unrhyw fewnwelediad i’w gynnig ynglŷn â’r mater, y naill ffordd na’r llall. Ond mae hefyd yn wir i ddweud fod yr argraff (cywir neu beidio) nad oes ganddi’r un diddordeb yn arwyddocaol ynddo’i hun. Os yw Morgan yn bwriadu sefyll yna bydd yn rhaid iddi ddechrau taro post i’r pared glywed, a hynny ar fyrder.
Y tu hwnt i’r tri yma, disgwylir i Hannah Blythyn – Aelod Delyn – gynnig ei henw. Ond heb ddymuno bod yn amharchus, nid oes llawer o olwg y bydd yn cael ei chyfri’n ddarpar Brif Weinidog credadwy gan aelodau ei phlaid ei hun. Yna mae’r posibiliad o ymgeisydd o chwith y blaid. Dyma garfan sy’n ymhyfrydu yn arweinyddiaeth Mark Drakeford – eu dyn nhw – gan waredu at y cyfeiriad y mae Syr Keir Starmer wedi ei ddilyn ers dyfod yn arweinydd yr wrthblaid yn San Steffan. Eto i gyd, problem y chwith yw diffyg ymgeisydd credadwy a allai uno a lledu apêl y blaid fel y llwyddodd Drakeford i’w wneud yn 2018.
Yn fyr felly, wrth inni droi ein golygon at wleidyddiaeth Cymru y tu hwnt i gyfnod y Prif Weinidog presennol, mae dau neu dri enw yn dod i’r brig fel olynwyr posibl: Vaughan Gething, Jeremy Miles ac – efallai – Eluned Morgan. Er mor gyfarwydd yw’r tri ar sawl ystyr, yr hyn sy’n taro dyn yw cyn lleied a wyddom ynglŷn â’r math o lywodraeth y byddent yn ceisio’i harwain a’r math o Gymru y byddent yn dymuno’i gweld. Os mai dim ond blwyddyn neu ddwy sy’n weddill cyn bod un ohonynt yn cydio yn yr awenau, mae’n hwyr glas ein bod yn dysgu mwy am y weledigaeth sydd ganddynt ar ein cyfer.