Mae’r werin Gymreig yn fyw o hyd!

Darllen am ddim

Er gwaethaf pob tystiolaeth i’r gwrthwyneb rydym ni’n parhau i lynu’n gyndyn wrth y gred gyfeiliornus mai ethos gwerinol neu ddosbarth gweithiol sy’n nodweddu’r Cymry hyd y dydd heddiw.

Dyma i chi gwestiwn: pwy oedd y gwleidydd diwethaf i gyfeirio at ‘Werin Cymru’ mewn cyd-destun gwleidyddol cyfoes?

Efallai fy mod yn cyfeiliorni, ond rwy’n tybio mai’r ateb yw Paul Murphy a hynny yng nghynhadledd y Blaid Lafur Gymreig yn ôl yn y flwyddyn 2000.

Y cyd-destun ar gyfer ei sylwadau oedd yr ymdrech (lwyddiannus) i ailfrandio’r Blaid Lafur yng Nghymru fel ‘Llafur Cymru’ neu Welsh Labour ar ôl yr etholiad cyntaf i’r Cynulliad Cenedlaethol a chyfnod trychinebus Alun Michael fel arweinydd y blaid yng Nghymru. Wrth geisio darbwyllo etholwyr Cymru fod Llafur – gyda Rhodri Morgan bellach wrth yr awenau – yn deall eu dyheadau, honiad Murphy oedd bod ei blaid ef yn parhau i fod yn ‘Blaid Gwerin Cymru’. Roedd y ffaith ei fod wedi defnyddio’r union eiriad (Cymraeg) yma’n gwneud ei ddatganiad hyd yn oed yn fwy trawiadol. Wedi’r cyfan, roedd Murphy nid yn unig yn Ysgrifennydd Gwladol ar y pryd. Fo hefyd oedd trysorydd yr Ymgyrch Na adeg refferendwm 1979.

Ond ar wahân i ambell enghraifft o’r fath, go brin y clywyd unrhyw wleidydd yn cyfeirio at Werin Cymru nid yn unig ers dau ddegawd, ond ers hanner canrif a mwy. Tra mae’r term yn parhau’n ddefnyddiol i’r haneswyr a’r beirniaid llenyddol hynny sydd am geisio deall ac egluro teithi meddwl Cymry Oes Fictoria, mae unrhyw sôn am y Werin yn y cyd-destun gwleidyddol cyfoes yn ymddangos fel anacronistiaeth lwyr. Mae’r un peth yn wir, i raddau helaeth iawn, am y cysyniad o ddosbarth gweithiol Cymreig.

Dichon fod yna ambell i wleidydd Cymreig sy’n dal i gyfeirio o bryd i’w gilydd at fodolaeth dosbarth gweithiol. Ond hyd yn oed ar y chwith, mae’n fwy arferol o lawer erbyn hyn clywed termau ychydig yn fwy amwys yn cael eu defnyddio, megis ‘working people’ neu – ym myd Corbyn – y lliaws (‘the many’). Bydd unrhyw un sy’n cofio neu sydd wedi astudio ymgyrch refferendwm 1979 yn gwybod yn dda nad felly y bu hi erioed. Bryd hynny, roedd cyfeirio at ddosbarth gweithiol a ‘gwleidyddiaeth ddosbarth’ yn rhan gwbl arferol o ddisgwrs cyhoeddus, boed hynny yng nghyd-destun gwleidyddiaeth plaid neu ddadleuon ynglŷn â dyfodol cyfansoddiadol Cymru.

Wrth reswm, mae yna lenyddiaeth enfawr yn trafod y modd y mae’r Cymry wedi synio am ddosbarth cymdeithasol ers tua chanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg hyd y dwthwn hwn. A chyfyngu ein hunain yn unig at awduron sydd wedi ysgrifennu yn y Gymraeg, meddylier am gyfraniadau llachar Prys Morgan, Hywel Teifi Edwards a Tedi Millward i enwi dim ond tri.

Y tir cyffredin rhwng y gwahanol drafodaethau hyn yw bod yna ddilyniant sylweddol rhwng y modd yr ystyrid y Werin cyn (yn fras) y Rhyfel Mawr a’r modd yr ystyrid y dosbarth gweithiol Cymreig wedi hynny. Hyd yn oed os newidiodd lliwiau gwleidyddol ei chynrychiolwyr yn San Steffan (yn derfynol yn 1922), aros yn gyson wnaeth yr ymrwymiad at werthoedd democrataidd, at addysg, at egalitariaeth, at y gymuned, ac at fyw’n ddarbodus a chywir. Ar ben hynny, derbynnir yn gyffredinol fod y syniad o Werin/dosbarth gweithiol wedi cydymdreiddio â’r ddealltwriaeth o hanfod Cymreictod – o’n natur fel cenedl – fel na cheid unrhyw fodd syml o’u gwahanu. Roedd hyn i’r fath raddau fel y tueddid i synio am Gymru fel cenedl un dosbarth. Gwerin neu ddosbarth gweithiol Cymru oedd y Cymry, gyda chefnu ar y naill hunaniaeth yn gyfystyr â chefnu ar y llall.

Ond beth yn union, meddech chi, yw perthnasedd hyn oll i golofn sy’n honni trafod gwleidyddiaeth Cymru yn 2022? Wedi’r cwbl, mae’n ffaith ddiymwad fod seiliau economaidd y Gymru a oedd yn gartref i Werin a dosbarth gweithiol fel ei gilydd wedi hen ddiflannu. Os yw’r termau eu hunain yn prysur ddiflannu o’n geirfa wleidyddol, pam cyboli sôn amdanynt? Yn syml, oherwydd bod y dystiolaeth yn awgrymu bod y syniad ein bod ni’r Cymry’n genedl un dosbarth yn parhau’n styfnig o berthnasol.

Gellir gweld hynny’n glir yn y ddau dabl yma sy’n dangos y berthynas rhwng hunaniaeth genedlaethol a dosbarth cymdeithasol yng Nghymru’r dwthwn hwn a hynny ar sail data a gasglwyd trwy Astudiaeth Etholiad Cymru 2021. Yn y naill, mae dosbarth wedi ei fesur ar sail gwrthrychol – hynny yw, mae’n adlewyrchu lleoliad unigolion yn y broses gynhyrchu. Mae’r llall yn defnyddio mesur goddrychol o ddosbarth. Yn syml, mae’n gofyn i ymatebwyr nodi pa ddosbarth (os unrhyw un) y maent yn teimlo’n rhan ohono. Mae hunaniaeth genedlaethol wedi ei mesur ar ystod sy’n ymestyn o’r rhai sy’n teimlo eu bod yn Brydeinwyr ond nid yn Gymry, trwy’r rheini sy’n eu hystyried eu hunain yn Brydeinwyr ac yn Gymry, i’r rheini sy’n teimlo’n Gymry ond nid yn Brydeinwyr. Dull o fesur fydd yn gyfarwydd i ddarllenwyr cyson y golofn hon.

Mae’r gwahaniaethau rhwng y ddau dabl yn drawiadol.

Ar y gwastad gwrthrychol nid oes unrhyw berthynas ystadegol-arwyddocaol rhwng lleoliad unigolyn yn y broses gynhyrchu a’i ymdeimlad o hunaniaeth genedlaethol. Beth bynnag oedd y sefyllfa yn y gorffennol, mae’r rheini sy’n gwneud swyddi ‘statws uchel’ yr un mor debygol o deimlo’n Gymreig ag ydynt o deimlo’n Brydeinig. Mae’r un peth yn wir am swyddi ‘statws isel’.

Ond o droi at y gwastad goddrychol, mae’r sefyllfa’n wahanol iawn. Mae’r rheini sy’n meddu hunaniaeth genedlaethol Gymreig – boed honno’n hunaniaeth Brydeinig-Gymreig neu’n hunaniaeth Gymreig yn unig – yn parhau yn llawer iawn mwy tebygol o’u hystyried eu hunain yn aelodau o’r dosbarth gweithiol yn hytrach nag aelodau o’r dosbarth canol o’i gymharu â’r rheini sy’n Brydeinwyr yn unig. Mae hynny er gwaetha’r ffaith (fel y gwelsom) nad oes unrhyw wahaniaethau arwyddocaol yn eu sefyllfaoedd dosbarth gwrthrychol.

Er gwaethaf dad-ddiwydiannu, globaleiddio a’r holl newid cymdeithasol syfrdanol a welwyd dros y degawdau diwethaf, ymddengys ein bod yn glynu’n dynn wrth wirebau dyddiedig – ystrydebau, efallai – ynglŷn â natur gwir Gymreictod. Mae mythos y Werin a’r dosbarth gweithiol Cymreig yn parhau’n fyw ac yn iach!

Richard Wyn Jones
Ebrill 2022