Newyddion da i Blaid Cymru?

Nicola Sturgeon yn datgan ei bwriad i ymddeol fel arweinydd yr SNP ac fel Prif Weinidog Yr Alban
Darllen am ddim

Mae’r sbloets o sylw sydd wedi dilyn cyhoeddiad annisgwyl Nicola Sturgeon ym mis Chwefror ei bod hi am ildio ei lle fel Prif Weinidog yr Alban wedi tanlinellu unwaith yn rhagor y gagendor sydd wedi agor rhwng pleidiau cenedlaethol yr Alban a Chymru ers datganoli. Ond a oes pethau gwell ar y gorwel i Blaid Cymru?

Adeg yr etholiadau cyntaf i’r seneddau datganoledig, yn 1999, fe welwyd yr SNP a Phlaid Cymru, dwy chwaer-blaid, yn sicrhau canlyniadau syndod o debyg. Yn wir, roedd canran Plaid Cymru o’r bleidlais ranbarthol yng Nghymru (30.5%) ychydig yn uwch na chanran yr SNP o’r bleidlais ranbarthol yn yr Alban (27.3%), gyda Chymru, ac ymchwydd rhyfeddol cenedlaetholdeb Cymreig, yn darparu stori fwya’r dydd.

Ond er nad oedd modd gwybod hynny ar y pryd, gwyddom bellach mai penllanw oedd etholiad 1999 i’r Blaid. Yn yr etholiad dilynol (yn 2003) gostyngodd ei chefnogaeth yn ôl i tuag 20% o’r etholwyr, a dyna’n fras y ganran sydd wedi pleidleisio drosti ym mhob un o’r pedwar etholiad ar gyfer ein deddfwrfa genedlaethol a gynhaliwyd ers hynny.

Nid yw hyn yn golygu bod Plaid Cymru’n amherthnasol, wrth gwrs. Mae’r system bleidleisio rannol-gyfrannol a ddefnyddir mewn etholiadau datganoledig yn cynnig cyfleoedd iddi gael dylanwad, ac fe ellid dadlau ei bod wedi gwneud y mwyaf o’r cyfleoedd hynny. Serch hynny, Plaid Cymru yw’r drydedd blaid yn y Senedd ac mae breuddwyd 1999 o ddiorseddu’r Blaid Lafur Cymreig wedi hen chwalu.

Afraid dweud bod gwleidyddiaeth yr Alban wedi dilyn trywydd go wahanol yn y cyfamser. Do, fe syrthiodd yr SNP yn ôl ryw ychydig yn 2003. Hwn oedd etholiad y Baghdad bounce – etholiad a gynhaliwyd yn ystod y cyfnod byr iawn hwnnw pan oedd modd i bobl a ddylai wybod yn well eu darbwyllo eu hunain y gallai fod rhyw fath o rinwedd yn perthyn i’r penderfyniad i ymosod ar Irac. Ond ers hynny mae’r SNP wedi cymryd camau breision yn ei blaen.

Hi oedd y blaid fwyaf ar ôl etholiad 2007, gan lwyddo i ffurfio llywodraeth leiafrifol. Llamodd ymlaen ymhellach bedair blynedd yn ddiweddarach, gan ennill mwyafrif o’r seddau yn Senedd yr Alban a sicrhau mandad ar gyfer galw refferendwm ar annibyniaeth yn 2014. Er bod y refferendwm wedi ei golli, rhoddodd yr ymgyrch hwb enfawr i’r cenedlaetholwyr. Fyth ers hynny – gyda Nicola Sturgeon wrth y llyw – mae’r SNP wedi dominyddu gwleidyddiaeth yr Alban gan lywodraethu yng Nghaeredin ac ennill bron y cyfan o’r seddau Albanaidd yn San Steffan.

A dyna, wrth gwrs, pam y mae ymadawiad Sturgeon yn ymddangos mor arwyddocaol. Ydi mae hi’n fedrus; ydi mae hi’n ddeallus (yn emosiynol yn ogystal ag yn ymenyddol). Ond yn bennaf oll, bu’n arweinydd gwleidyddol rhyfeddol o lwyddiannus o safbwynt ennill etholiadau. Ac yn y pen draw, dyna pam y mae ei phenderfyniad i gamu o’r neilltu yn hawlio’r penawdau rhyngwladol mewn modd na welwyd pan benderfynodd Ieuan Wyn Jones ac wedyn Leanne Wood ildio arweinyddiaeth Plaid Cymru. O’u gosod yn erbyn unrhyw ffon fesur wrthrychol, mae’r SNP yn rym pwysicach na Phlaid Cymru.

Nid felly y bu erioed, dalltwch chi. Yn ôl cyfaill sydd bellach yn ysgolhaig amlwg yn yr Alban ac a arferai fynychu cynadleddau blynyddol yr SNP yn ei laslencyndod, roedd areithiau Gwynfor Evans (ymwelydd cyson arall) yn arfer cael eu hystyried yn un o’r uchafbwyntiau. I radicaliaid ifanc y mudiad cenedlaethol Albanaidd fel fo, roedd y mudiad Cymreig yn destun edmygedd ac yn wir peth eiddigedd. Onid oedd y Cymry’n fwy anturus yn eu syniadau a’u dulliau?

Gallaf dystio o brofiad personol yn annerch cyfarfodydd ymylol yng nghynadleddau’r SNP fod y croeso i acen Gymreig yn parhau’n hynod dwymgalon. Serch hynny, mae yna dinc – be ddywedwn ni? – nawddoglyd yn yr agwedd at wleidyddiaeth Cymru pan ddaw cyfle am sgwrs. Os mai dwy chwaer-blaid oedd Plaid Cymru a’r SNP yn 1999, erbyn hyn mae’r berthynas rhyngddynt lawer iawn yn llai cyfartal. Y brawd mawr a bach y nyth? Gor-ddweud, mae’n siŵr. Ond ’dach chi’n gweld beth sydd gen i.

Eto i gyd, wrth i mi a’m cyd-weithwyr yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru dwrio trwy ddata cymharol ar y farn gyhoeddus yng Nghymru a’r Alban, rwy’n cael fy nharo gan gymaint o botensial sy’n parhau heb ei wireddu yn achos Plaid Cymru. Mae hefyd yn hawdd iawn rhagweld amgylchiadau’n codi yn y dyfodol agos pan fydd gwireddu o leiaf peth o’r potential hwnnw’n bosibiliad real.

Nid yw hyn yn golygu y gall Plaid Cymru fforddio parhau i anwybyddu’r holl broblemau o ran trefniadaeth fewnol a negesu allanol yr wyf wedi cyfeirio atynt droeon yn y colofnau hyn. Ond mae’n tanlinellu beth allai fod o fewn cyrraedd iddi os ydi’r blaid yn fodlon siapio...

* * *

Gadewch i ni ddechrau trwy gymharu agweddau at y pleidiau gwleidyddol yng Nghymru, ac yn benodol canfyddiadau’r etholwyr o’u parodrwydd i gynrychioli buddiannau Cymreig. Mae’r ymatebion wedi eu rhannu yn ôl synnwyr yr ymatebwyr o’u hunaniaeth genedlaethol – sydd, fel y gwyddom, yn cysylltu’n agos ag agweddau gwleidyddol. Er mwyn osgoi llethu darllenwyr amyneddgar BARN, rwy’n arddangos y ffigyrau o 1999 a 2021 yn unig. Nid wyf, ychwaith, am wneud mwy na nodi’r ffaith fod union eiriad y cwestiynau wedi newid rhwng y blynyddoedd hyn. Mae hynny’n hen dro. Ond fel’na mae hi, gwaetha’r modd!

Mae dau beth yn taro dyn. Yn gyntaf, sylwer cyn lleied sydd wedi newid rhwng penllanw cefnogaeth Plaid Cymru yn 1991 a 2021. Mae etholwyr Cymru drwyddi draw yn parhau i ymddiried ym Mhlaid Cymru i gynrychioli buddiannau Cymru. Yr ail bwynt i’w nodi – ac efallai i synnu ato – yw bod hyn yn ganfyddiad sydd fel petai’n trosgynnu hunaniaeth genedlaethol yr etholwyr. Mae’r un mor wir (mwy neu lai) am y Cymry hynny nad ydynt yn teimlo’r un gronyn o Brydeindod ag ydyw am y Saeson o Brydeinwyr sy’n trigo yn ein plith.

Daw arwyddocâd y pwyntiau hyn yn fwy amlwg o ystyried y data cyfatebol o’r Alban. Mae’r sawl sy’n pwysleisio eu hunaniaeth Albanaidd yn tueddu i ymddiried yn yr SNP, ond unwaith y daw hunaniaeth Brydeinig yn rhan sylweddol o’r darlun mae’r canfyddiadau ohoni yn negyddol – llawer iawn, iawn yn fwy negyddol na chanfyddiad y grŵp cyfatebol yng Nghymru o’n plaid genedlaethol ni.

Diddorol iawn, meddech chi. Ond onid oedd canlyniad Plaid Cymru yn 2021 yn un symol? Ac os felly, ar ba sail y gellir credu y gallai pethau newid yn y dyfodol?

* * *

Fe fydd yr etholiad cyffredinol Prydeinig nesaf yn un anodd iawn i Blaid Cymru. A bwrw na chaiff ei gynnal cyn hydref 2024, bydd ffiniau etholaethol newydd ac anghyfarwydd yn ogystal â’r diffygion trefniadaethol cyfarwydd yn ei llesteirio. Ar ben hynny, mae’r rhwygiadau mewnol ymysg Pleidwyr Sir Gâr yn bygwth tanseilio ei gallu i redeg unrhyw fath o ymgyrch gall yno. Ond yn bennaf oll, fel yr oedd hi adeg etholiad cyffredinol 1997, gellir tybio y bydd yr awydd i’n gwaredu rhag y Torïaid yn ysgubo pob ystyriaeth arall o’r neilltu ym meddyliau trwch etholwyr Cymru. Wrth reswm, Llafur a fydd yn elwa o hynny.

Ond os bydd Syr Keir Starmer yn llwyddo i ffurfio llywodraeth, yna, mewn gwrthgyferbyniad llwyr, yn sydyn ddigon mae’r rhagolygon ar gyfer etholiad Senedd Cymru ym mis Mai 2026 yn ymddangos yn addawol dros ben.

Ers degawd a mwy, mae’r Blaid Lafur Gymreig wedi llwyddo i feio’n problemau fel cenedl ar lywodraeth Geidwadol yn Llundain. Fe fydd hynny’n anos o’r hanner gyda Llafur yn dal yr awenau yno. Mae’r amgylchiadau economaidd sydd ohoni hefyd yn golygu y bydd llywodraeth Syr Keir yn gwneud pethau anodd ac amhoblogaidd. Ac os oes unrhyw un yn meddwl o ddifrif y bydd y llywodraeth honno, er enghraifft, yn darparu’r arian cyfatebol ar gyfer rheilffordd HS2 i Gymru, wel, mae gen i ffa hud i’w gwerthu i chi...

Yn y gorffennol, strategaeth y Blaid Lafur Gymreig fu ei gwahaniaethu ei hun oddi wrth y Blaid Lafur Brydeinig. Dyna bwynt ‘dŵr coch croyw’ Rhodri Morgan: hyd yn oed os mai’r un ydi lliw’r rosette, ’dan ni yma yng Nghymru ddim fel y nhw draw yn Llundain ’cw. Ond digon o waith y bydd hynny’n bosibl yn 2026.

Roedd Rhodri Morgan yn lladmerydd credadwy ar gyfer neges o’r fath gan ein bod i gyd yn gwybod i sicrwydd nad oedd llawer o Gymraeg rhyngddo ef a Tony Blair. Ar ben hynny, roedd y canlyniad siomedig iawn a gafodd dewisddyn Blair, Alun Michael, yn 1999 yn golygu nad oedd Downing Street yn meiddio ymyrryd yn ormodol wrth i Morgan geisio agor ei gŵys ei hun.

Ydych chi o ddifrif yn rhagweld amgylchiadau pan fyddai Vaughan Gethin neu Jeremy Miles neu Eluned Morgan yn ceisio troi tu min ar Starmer a llywodraeth Lafur yn Llundain? A hyd yn oed petai naid ddychmygol o’r fath yn bosibl, a ydych yn credu wedyn y byddai Starmer ei hun – heb sôn am yr Aelodau Seneddol Llafur o Gymru sydd wedi treulio blynyddoedd yn cenfigennu wrth y flaenoriaeth a roddir i’w cyd-bleidwyr yn Senedd Cymru – yn fodlon â hynny? Os felly, oes, mae mwy fyth o ffa hud yn aros ar eich cyfer.

Fel y gwelsom, mae etholwyr Cymru trwy’r trwch yn ymddiried ym Mhlaid Cymru i geisio cynrychioli buddiannau Cymreig. Dyma ei chryfder a’i chyfle mawr. Hynny’n enwedig gan ei bod yn debygol y bydd hi lawer iawn yn anos i’r Blaid Lafur Gymreig honni yn y dyfodol mai hi sy’n ‘sefyll cornel Cymru’. Oes gan Blaid Cymru, yn aelodaeth ac yn arweinyddiaeth, ddigon o benderfyniad a disgyblaeth i achub ar y cyfle? Dwn i ddim. Ond o wneud, yna fe allai gwobr fawr fod yn ei haros.

Richard Wyn Jones
Mawrth 2023