Mawr obeithiaf fod pob un o’n darllenwyr wedi gwerthfawrogi’r modd synhwyrol ac aeddfed y trafodwyd Rheol Gymraeg yr Eisteddfod Genedlaethol gan Hywel Pitts mewn erthygl yn ein rhifyn diwethaf. Ymateb oedd o i’r helynt ‘diangen o hyll’ a ddeilliodd o benderfyniad Sage Todz i wrthod y gwahoddiad i berfformio ym Mhrifwyl Boduan yn hytrach nag ailwampio ei ddeunydd dwyieithog poblogaidd yn unol â gofynion y Brifwyl. Roedd y gwaith cyflwyno medrus a chynnes a wnaeth Sage ar y teledu drwy gydol yr wythnos yn profi yn y modd mwyaf cadarnhaol nad oedd ganddo unrhyw gweryl o fath yn y byd efo’r Eisteddfod. Nid oedd ganddo chwaith unrhyw ddymuniad i herio heb sôn am danseilio’r Rheol Gymraeg. Ond glynodd at ei hawl hollol resymol i beidio gwneud i ffwrdd â’r Saesneg o’i gyfansoddiadau rap ef ei hun.
Cofiwch mae gen i gof fod band roc, rai blynyddoedd yn ôl, wedi mynd ati’n fwriadol i dorri Rheol Gymraeg y Steddfod – neu’n hytrach i annog y gynulleidfa i’w thorri. A’r Super Furry Animals yn anterth eu poblogrwydd yn Lloegr a thu hwnt – a chyn iddyn nhw recordio’r albwm Cymraeg Mwng – fe ddaethon nhw o hyd i ffordd ddyfeisgar a chyfrwys i ymddangos yn y Steddfod. Chwibanu eu caneuon wnaethon nhw. Ond trefnwyd bod geiriau’r caneuon yn cael eu hargraffu ar daflenni a ddosbarthwyd ymhlith y gynulleidfa. Nid y Super Furries, felly, ddaru ganu yn Saesneg – y gynulleidfa wnaeth!
Ond tybed ydi hi’n deg, mewn gwirionedd, rhoi’r argraff mai dim ond cerddorion cyfoes sy’n herio rheol iaith yn y Brifwyl? Eleni yn fwy nag erioed fe sylwais i fod cymaint o Saesneg yn sgriptiau’r cystadleuwyr a gyrhaeddodd y llwyfan ar y dialogau fel eu bod nhw’n ymylu ar fod yn berfformiadau dwyieithog. Gewch chi sôn faint fynnoch chi am greu sefyllfaoedd a chymeriadau ‘credadwy’ a ‘real’, ond profiad arteithiol ydi gwrando ar fratiaith erchyll ar lwyfan y Genedlaethol. Ac os ydw i’n iawn wrth eu galw’n berfformiadau dwyieithog, pa degwch sydd mewn gwobrwyo dialogwyr anghyfiaith a gwahardd dwyieithrwydd Sage Todz?
Ac yn waeth na dim, dyna i chi S4C a fu mor mor ddideimlad – neu fwriadol a bwriadus bryfoclyd? – â chyhoeddi yn ystod ein Prifwyl na fyddai’n ymddiheuro i neb am y defnydd o Saesneg yn ei rhaglenni. Dim o’r fath beth. Y bwriad fydd darparu rhagor o Saesneg. Ac fe ddaeth y geiriau cywilyddus hynny o enau Sara Peacock sydd – goeliech chi! – yn Arweinydd Strategaeth Gymraeg y Sianel. (Am deitl! Teilwng o George Orwell ar ei fwyaf sinistr yn 1984.) Esboniodd Ms Peacock fod S4C eisiau adlewyrchu sut roedd ieithoedd yn cael eu siarad drwy’r wlad. Ieithoedd, sylwer. Ers pryd mae ymorol am unrhyw iaith ar wahân i’r Gymraeg wedi bod yn gyfrifoldeb S4C?
Mae Pobol y Cwm wedi dod dan y lach yn ddiweddar am gyflwyno cymeriad di-Gymraeg i’r gyfres. Fferyllydd ydi hi, sy’n golygu ei bod yn dod i gysylltiad fwy neu lai â phawb o bobol Cwmderi wrth ei gwaith beunyddiol. Gan ei bod yn frwd dros ddysgu Cymraeg, deallaf yn iawn sut y gall golygfeydd dwyieithog o’r fath fod o gymorth i ddysgwyr o blith y gynulleidfa deledu i fynd ati i gyd-ddysgu â hi. Mae synnwyr yn hynny er na fydd puryddion yn cymeradwyo. Ond yn yr un gyfres mae yna gymeriad sy’n siarad Cymraeg (o fath) uffernol o wael, yn llawn geiriau ac ymadroddion Saesneg. Cymeriad yn y ddrama ydi hon. Hynny yw, mae sgriptwyr galluog a phrofiadol wedi rhoi bratiaith o’r fath yn ei cheg. Fe wnaethon nhw hynny fe fyddwn i’n tybio nid ar fympwy ond dan gyfarwyddyd penodol oddi fry. Yn wahanol iawn i achos cymeriad y fferyllydd, dwi ddim yn gweld sut mae hynny’n mynd i fod o unrhyw fudd i unrhyw un.
Mae’r Gymraeg a’i hamddiffynwyr dan warchae. Oddi mewn. Ac fe ddisgwylir inni gau ein cegau. Rhag tramgwyddo.