Pennod newydd i fam Martha, Jac a Sianco

Caryl Lewis a'i chyhoeddiadau diweddar
Darllen am ddim

A hithau eisoes yn enw cyfarwydd iawn i ddarllenwyr Cymraeg, mae’r awdur o Geredigion newydd gyhoeddi ei llyfrau cyntaf gyda gweisg Saesneg sy’n gwerthu’n rhyngwladol. Bu’n sôn wrth BARN am sut y digwyddodd hynny ac am rai o’r gwahaniaethau wrth weithio yn y ddwy iaith.

Anghytuno yr oedd Caryl Lewis a’i gŵr Aled pan gyrhaeddais i eu cartref yng Ngoginan, ger Aberystwyth. Roedd Caryl eisiau gosod y ‘tŷ glass’ newydd mewn un rhan o’r ardd ac Aled yn ffafrio rhan arall, felly roedd o’n brysur gyda’i ddigar Doosan oren yn clirio’r man hwnnw tra bu Caryl a minnau’n sgwrsio yn y gegin.

‘Paid edrych ar y mess,’ meddai wrth fy arwain i mewn i gegin fawr, liwgar sydd ddim yn llanast o gwbl, dim ond yn gegin fferm arferol gydag ôl tri o blant sydd â llond gwlad o ddiddordebau. O ddeall bod Caryl wedi bod yn teithio dros y wlad yn gyson ers pythefnos mae’n rhyfeddol o drefnus, ond dros ginio, dwi’n gweld bod Aled yn un o’r ffermwyr prin hynny sy’n amlwg wedi hen arfer golchi llestri. Mae’r ddau yn gwneud tîm da.

Mae Caryl wedi bod yn awdur prysur ers sbel, ond eleni, gyda tswnami o dri llyfr cwbl wahanol yn cael eu cyhoeddi gan weisg mawr, rhyngwladol, mae ei bywyd yn mynd i brysuro eto. Mae Drift, ar gyfer oedolion, eisoes yn y siopau gan wasg Penguin, Doubleday, felly hefyd Seed (Macmillan Children’s Books) a’r cyfieithiad Cymraeg, Hedyn (Lolfa), a fis Medi, bydd Puffin yn cyhoeddi ei llyfr lluniau i blant iau, The Boy Who Dreamed Dragons. Ond dyw hi ddim yn cael sôn llawer am hwnnw eto.

Mae’n amlwg fod mwy o reolau a chyfrinachedd yn y byd cyhoeddi mawr Saesneg. Cyfaddefa Caryl fod hynny’n gallu bod yn rhwystredig, a hithau ar dân eisiau rhannu ei newyddion gyda phawb yn syth. Roedd hi’n gyfnod clo pan gafodd yr alwad ffôn fythgofiadwy a chwbl swreal yn dweud bod Macmillan yn cynnig swm anferthol, chwe ffigwr iddi am yr hawliau Prydeinig am Seed. Roedd hi eisoes wedi cael cytundeb gwych gyda Puffin am y llyfr i blant iau, ond mae dros ddwy flynedd wedi mynd heibio tra oedd yr arlunydd, Carmen Saldana, yn creu’r gwaith celf a’r wasg yn perffeithio popeth, a dyw hi’n dal ddim yn cael dweud bob dim – er ei bod yn dangos copi proflen clawr caled i mi. ‘Sneb wedi gweld hwn ’to!’ Mentraf ddweud ei fod o’n hyfryd a hynod o hardd.

Mae llawer mwy i’w ddweud am hanes Drift hefyd, ond bydd raid aros sbel eto cyn cael cyhoeddi hynny’n swyddogol.

Ydi, mae’n gyfnod llawn cynnwrf i Caryl, ac fe ddechreuodd y cyfan wedi iddi fynd i Ffair Lyfrau Llundain a digwydd cael manylion cyswllt Cymraes o’r Wyddgrug gan ddarganfod cyfaill newydd a agorodd fyd newydd iddi.

‘Y peth gydag asiant yw, ti’m yn gweld isie un nes bod un gyda ti,’ meddai. ‘Yn aml, ni awduron yng Nghymru yn gorfod wynebu problemau ar ein pennau ein hunain. Neu os wyt ti’n cael dy drin yn wael – ac mae hynny wedi digwydd unwaith neu ddwy i mi –mae’r diffyg proffesiynoldeb yn amlwg ac mae’r asiant yna i dy warchod di rhag hynny.’

Aiff ymlaen i bwysleisio bod asiant yn gofalu bod ganddi gynllun hir dymor. ‘Mae awduron, o’u natur, yn cwmpo mewn cariad â’r prosiect hwn, yna’r prosiect ’na, ac yn sydyn mae deng mlynedd wedi diflannu. A ti’n gofyn: Beth o’n i isie neud? Mae asiant yn gallu cadw dy ffocws di ar beth wyt ti isie’i gyflawni.’

Felly beth oedd ateb Caryl pan gafodd hi’r alwad ffôn am gynnig Macmillan? ‘Mae’n rhyfedd on’d yw e? Ro’n i’n hollol stympd! Mae clywed dy hunan yn dweud “dwi isie” mor wrth-Gymreig. Ond cadw i sgwennu dwi isie, a cadw dysgu – a dysgu mwy am y farchnad. Marathon yw hi. Ti’n cael cyfnod o gael sylw a chyfnodau tawelach. Sai’n gwybod am faint fydda i’n gallu sgwennu gyda’r rhain, ond dwi wedi cael profiad da.’

Un o’r pethau cyntaf a awgrymwyd i Caryl eu gwneud oedd mynd ar y cyfryngau cymdeithasol – rhywbeth sy’n wrthun iddi. Ond mae hi wedi bod yn brysur ar Instagram ers tro bellach, a’r bore hwnnw roedd yr asiant wedi gyrru llun iddi o siop lyfrau’r orsaf drenau yn Euston. Yng nghanol llyfrau David Walliams a Diary of a Wimpy Kid a’u tebyg, roedd Seed, Caryl Lewis. ‘Ond ’sda fi ddim base o bobol sy’n nabod fi – fel Lenny Henry er enghraifft. Mae hi’n dipyn o gystadleuaeth. Y gwerthiant fydd yn dangos...’

‘Mae llawer mwy o bwyslais ar werthiant yn y byd Saesneg: pa mor gystadleuol a “swnllyd” yw’r llyfr, faint o themâu allen nhw dynnu allan ohono fe fyddai’n taro’r cwricwlwm, er enghraifft. Mae’n bwysig bod stori tu ôl i’r llyfr hefyd: pwy wyt ti, a beth yw’r stori tu ôl i’r llyfrau.’

Y drefn yw bod yr asiant yn targedu rhyw ddeg o olygyddion. ‘Ac os bydd golygydd yn cwmpo mewn cariad â’r llyfr, maen nhw wedyn yn gorfod perswadio tîm o falle ugain o bobol y dylen nhw brynu’r llyfr i’r wasg. A hyn sy’n anodd: mae’n rhaid i bawb gytuno – y bobol marchnata, y bois hawliau tramor, pawb – y gallan nhw werthu hwn. Mae’r peiriant yn anferthol.’

Yn wahanol i Drift, dyw Seed ddim wedi ei leoli yng Nghymru, a hynny’n bennaf am fod Caryl eisiau arbrofi i weld os allai hi ysgrifennu rhywbeth y tu allan i’w phrofiad Cymreig hi. Yn amlwg, fe weithiodd yr arbrawf, gan fod Seed wedi ei werthu i chwe gwasg dramor hyd yma.

Yn aml, tua 20,000 yw hyd nofel Gymraeg i blant 8–12 oed, ond mae’r farchnad Saesneg eisiau o leiaf 50,000, felly bu’n rhaid i Caryl ychwanegu at y fersiwn wreiddiol. A chan fod y gynulleidfa gymaint lletach, bu’n rhaid mynd drwyddi gyda chrib fân yn osgoi pethau fel ‘She was on the warpath’ ar gyfer marchnad Gogledd America, ac os bydd plentyn yn cael cwtsh gan oedolyn, rhaid gofalu mai’r plentyn sy’n dechrau’r peth.

Oherwydd bod un o’r cymeriadau yn fyddar a’r fam â phroblemau gwaredu llanast o’r tŷ, aeth y gyfrol drwy sawl ‘sensitivity read’. Felly dyma ofyn barn Caryl am gynrychiolaeth, sef a oes hawl gan awdur i ysgrifennu am bobl o gefndir cwbl wahanol iddo.

‘Mae’r sefyllfa’n wahanol yn y Gymraeg,’ meddai. ‘Achos eith amser heibio cyn bod rhywun yn y grwpiau ’na yn barod i greu gwaith eu hunain. Dwi’n meddwl bod hi’n hanfodol i awdur wneud ei waith cartref, a dwi o blaid “sensitivity reads”, ond dwi ddim yn meddwl y dylai awdur dim ond sgwennu o’i bersbectif ei hun. Mae hynna’n dy gyfyngu di – a sut fyddai hi’n bosib cael gyrfa fel awdur wedyn?’

Roedd hi wedi bod yn dilyn dawnswyr byddar ers sbel ar YouTube – ‘cyn bod Rosie ar Strictly!’ – a chan fod ei merch, Gwenno, yn dawnsio (roedd hi’n un o’r Charlie Chaplins ddaeth yn gyntaf ar y Ddawns Amlgyfrwng Blwyddyn 6 ac iau yn yr Urdd yn Ninbych) a bod Caryl am wneud i’w chymeriadau wynebu eu sialensiau eu hunain, mae cymeriad Gracie yn ddawnswraig fyddar.

‘Ond dwi’n byw efo Crohn’s, ac mae pobol yn dweud: “ti’n g’neud yn dda serch bod Crohn’s arnot ti.” Ond weithie dwi’n meddwl falle bo’ fi’n g’neud yn dda oherwydd bod Crohn’s gen i! Mae cyflyrau o’r fath yn dy yrru di, yn gwneud i ti edrych ar y byd yn wahanol. Felly falle taw’r ffaith ei bod hi’n fyddar sy’n ei g’neud hi’n ddawnswraig?’

Mae’r ymateb iddi fel Cymraes yn y byd cyhoeddi Saesneg wedi bod yn gynnes iawn, ac mae gan bobl ddiddordeb mawr yn y ffordd y mae’n defnyddio iaith. Er enghraifft, doedd y golygydd ddim yn siŵr am ‘a sudden flash of heat that plucked through his hand...’ ‘Ni’n ei ddweud e’n Gymraeg on’d y’n ni? Ond maen nhw wedi ei gadw am fod y ddelwedd yn ddigon cryf ac mae’n swnio’n dda!’

Roedd yn rhaid i mi ofyn y cwestiwn oedd yn pwyso arna i: ro’n i’n gwybod ei bod hi wedi ysgrifennu ei nofelau Cymraeg i gyd yn hurt o gyflym. Mae hi’n gallu gweithio’r cyfan allan yn ei phen, yna chwydu’r cyfan allan mewn ychydig wythnosau (fi sy’n dewis defnyddio’r gair ‘chwydu’ oherwydd ei bod hi’n cymryd blynyddoedd i mi orffen nofel). A oedd hyn yn parhau i fod yn wir efo’r nofelau Saesneg? Oedd. Rhyw chwech i saith wythnos gymerodd Caryl i ysgrifennu Drift. Bu bron i mi dagu ar fy nghawl. ‘Paid gofyn am hwn ’te,’ ychwanegodd gan bwyntio at Seed. Felly wnes i ddim.

Ond mae hi’n cario’r straeon (i gyd) yn ei phen am flynyddoedd, felly mae’n gwneud llawer o bethau tu allan gyda’r plant a’r anifeiliaid, yn garddio ac yn rhedeg dair gwaith yr wythnos, er mwyn cadw ei meddwl yn iach.

Un cwestiwn i orffen. ‘Gall breuddwydion ddod yn wir’ yw’r geiriau sydd ar glawr Hedyn, felly ydyn nhw wedi dod yn wir i ti?’ ‘Arglwydd, ’na gwd cwestiwn, yffach dân... Dwi ddim yn gwbod!’ Wedi hir bendroni: ‘Fi wir yn mwynhau sgwennu – dyna’r freuddwyd – a mwynhau’r ddwy iaith.’

Mae’n siŵr y byddai’n hoffi ennill y gystadleuaeth deuluol i dyfu pwmpen hefyd. Gan mai pwmpen yw seren y sioe yn y nofel, penderfynwyd rhoi her i’w gilydd, ‘ac mae £50 ynddi!’ Ond bu’n rhaid gosod rheolau newydd yn ddiweddar gan fod un aelod o’r teulu (Doreen Lewis, mam Caryl) wedi bod braidd yn rhy gystadleuol.

O, ac Aled enillodd y ddadl am y tŷ gwydr yn y diwedd.

Bethan Gwanas
Gorffennaf 2022 i Awst 2022