Anaml y mae pethau’n syml mewn gwleidyddiaeth. Os am esiampl, ystyrier y ddau ddatganiad canlynol. Hyd y gwelaf, mae’r naill mor gywir â’r llall, a hynny er gwaetha’r ffaith eu bod yn ymddangos yn gwbl wrthgyferbyniol o ran eu hoblygiadau.
Yn gyntaf, mae tîm negodi Plaid Cymru, o dan gyfarwyddyd manwl yr arweinydd Adam Price, wedi llwyddo i gyrraedd cytundeb hefo Llywodraeth Cymru sy’n wirioneddol werth chweil. Trwy eu gwaith dygn mae’r blaid genedlaethol wedi llwyddo i sicrhau enillion mwy o beth myrdd na’r hyn y gellid fyth fod wedi ei ddychmygu gwta chwe mis yn ôl. Does dim rhyfedd fod y mwyafrif llethol o’u haelodau wedi ei gymeradwyo’n frwd.
Yn ail, oherwydd diffygion Adam Price fel arweinydd, roedd Plaid Cymru mewn sefyllfa wannach nag yr oedd angen iddi fod wrth gychwyn y trafodaethau hefo’r Blaid Lafur. Trwy or-heipio gobeithion etholiadol y blaid y tu hwnt i bob rheswm a chanolbwyntio llawer gormod ar rôl bersonol yr arweinydd mewn unrhyw drefn ôl-etholiadol, llwyddwyd i danseilio hygrededd Plaid Cymru fel darpar bartner. Yn hyn o beth, mae gan Adam Price le i ddiolch nid yn unig fod gan Mark Drakeford ei resymau ei hun dros ffafrio cytundeb pellgyrhaeddol hefo’r cenedlaetholwyr, ond hefyd fod aelodau’r Blaid yn tueddu i fod yn griw trugarog.
Y gwir amdani yw bod Plaid Cymru a phobl Cymru’n gyffredinol wedi gweld y gorau a’r gwaethaf o Adam Price dros y misoedd diwethaf. Serch hynny, yn sgil cyfuniad o amgylchiadau ffafriol ac, ie, rhai o’r doniau arbennig a feddir gan Price, mae Cymru wrthi’n cychwyn ar gyfnod newydd yn ein hanes gwleidyddol. Amser a ddengys beth yn union a ddaw o’r rhaglen lywodraethol newydd ac o’r trefniant unigryw a sefydlwyd i’w goruchwylio. Ond, wrth ddarllen y cytundeb, mae’n anodd osgoi’r casgliad fod y rhaglen ar lawer ystyr yn fwy at ddant y mudiad cenedlaethol na hyd yn oed gytundeb Cymru’n Un o’r cyfnod rhwng 2007 a 2011. Mae hefyd yn anodd peidio credu bod y ffaith fod y Blaid Lafur yn Senedd Cymru wedi cymeradwyo’r cytundeb yn ddidrafferth yn arwyddo symudiad arwyddocaol o ran ei hosgo a’i hagwedd hithau.
O safbwynt Plaid Cymru, mae’r cytundeb yn cadarnhau unwaith yn rhagor yr wireb ynglŷn â’i natur fel plaid a drafodwyd droeon yn y golofn hon dros y ddau ddegawd diwethaf, sef hyn: dyma blaid sy’n blaenoriaethu polisïau yn anad dim arall.
Nid felly y mae pethau yn achos pob plaid wleidyddol. Bydd rhai darllenwyr efallai’n cofio cyfeiriadau blaenorol at waith dau ysgolhaig, y Norwyad Kaare Strøm a’r Almaenwr Wolfgang Müller. Yn un o’u cyfraniadau pwysicaf maent yn gwahaniaethu rhwng pleidiau sy’n blaenoriaethu polisïau, pleidiau sy’n blaenoriaethu ennill swyddi mewn llywodraeth, a phleidiau sy’n blaenoriaethu ennill pleidleisiau. Fel y dengys y ddau, mae’r gwahanol flaenoriaethu hyn yn arwain yn eu tro at wahanol negeseuon, gwahanol ymddygiad a hyd yn oed gwahanol strwythurau mewnol.
Ers gwawrddydd datganoli, polisi fu blaenoriaeth Plaid Cymru.
Ddiwedd 1999 fe chwaraeodd ran ganolog yn yr ymdrech lwyddiannus i ddiorseddu Alun Michael, a hynny er gwaetha’r ffaith fod ei bresenoldeb amhoblogaidd yntau fel Prif Ysgrifennydd (fel y gelwid y swydd bryd hynny) yn newyddion rhagorol i Blaid Cymru o safbwynt medi pleidleisiau. Yn gam neu’n gymwys, canfyddiad arweinwyr y blaid genedlaethol oedd bod presenoldeb Michael yn bygwth dwyn anfri ar yr holl ymdrech i greu Senedd i Gymru. Felly cael ’madael arno oedd raid, a hynny beth bynnag fyddai’r canlyniadau i boblogrwydd etholiadol Plaid Cymru.
Yn 2007 drachefn, roedd sicrhau cytundeb a oedd yn rhwymo Llafur i ymgyrchu mewn refferendwm o blaid creu senedd ddeddfwriaethol lawn i Gymru (a gynhaliwyd yn y diwedd yn 2011) yn fwy o wobr na dyrchafu Ieuan Wyn Jones yn Brif Weinidog Cymru heb obaith o sicrhau datblygiad cyfansoddiadol o’r fath.
Ond yn fwy diweddar, bu i rai o ddatganiadau cyhoeddus Adam Price awgrymu bod Plaid Cymru am ddechrau blaenoriaethu swyddi mewn llywodraeth a hynny doed a ddelo. Dim ond petai ef yn cael ei ddyrchafu’n Brif Weinidog, meddai, y byddai Plaid Cymru yn fodlon ymuno mewn llywodraeth glymblaid hefo Llafur. Mewn byr eiriau, roedd sicrhau’r barchus arswydus swydd i Adam Price ei hun yn flaenoriaeth bwysicach nag unrhyw enillion polisi posibl a ddeuai yn sgil bod yn aelod llai blaenllaw o glymblaid.
Hyd yn oed ar y pryd, roedd hi’n aneglur a oedd aelodau Plaid Cymru yn cytuno â barn Adam Price ar y mater, a hynny er gwaetha’r mandad mawr a enillodd wrth gael ei ethol i olynu Leanne Wood. Yr oedd hyn, wedi’r cyfan, yn cynrychioli tro pedol ar agweddau blaenorol y Blaid. Ond fel y gwyddom erbyn hyn, mae’n amlwg nad oedd Price ei hun o ddifrif wrth geisio blaenoriaethu swyddi mewn llywodraeth ar draul polisi. Wedi cyfan, ar ei anogaeth ef, mae ei blaid bellach yn cefnogi llywodraeth sy’n gweithredu rhai o bolisïau Plaid Cymru a hynny heb i unrhyw un o’i gwleidyddion etholedig gael bod yn bresennol o gylch bwrdd y cabinet!
Mae’n werth craffu ar hyn oll, nid er mwyn gwatwar Adam Price, ond er mwyn holi beth y gall Plaid Cymru ei ddysgu o’r holl brofiad. Hyd y gwelaf, mae yna ddau beth. A chan danlinellu cymhlethdod y pethau hyn, ar yr olwg gyntaf beth bynnag, mae’r ddau’n bwyntiau cyferbyniol.
Y wers gyntaf, fe dybiaf, ydi pwysigrwydd cydnabod natur Plaid Cymru fel plaid sy’n blaenoriaethu polisïau. Wedi’r cyfan, nid oes dim o gwbl i gywilyddio yn ei gylch yn hyn o beth. Drosodd a throsodd dros gyfnod o bron ganrif mae aelodau’r Blaid a’r mudiad cenedlaethol ehangach wedi arloesi gyda syniadau newydd, a’r rheini yn y pen draw wedi eu mabwysiadu a’u gweithredu gan bleidiau eraill. Siawns nad yw’r rhain yn gyfraniadau i’w dathlu? O ganolbwyntio ar y cyfnod diweddaraf yn unig, meddyliwch mewn difrif beth fyddai’n hanes pe bai Alun Michael wedi parhau mewn grym neu pe bai Cymru heb ennill senedd ddeddfwriaethol?
Yn wir, gellir gofyn o ddifrif a yw’r Blaid Cymru gyfoes yn gwneud digon i lunio a hybu syniadau newydd beiddgar yn ein gwleidyddiaeth, yn enwedig o ystyried cymaint mwy o adnoddau sy’n perthyn iddi bellach o’i gymharu â chyfnodau blaenorol?
Er mwyn egluro’r ail wers, gadewch imi ddychwelyd at fframwaith Strøm a Müller. Wrth nodi bod pleidiau’n blaenoriaethu un ai polisi, swyddi llywodraethol neu fedi pleidleisiau, mae’n bwysig pwysleisio nad ydynt yn honni mai dim ond un o’r rhain sy’n bwysig i unrhyw blaid aeddfed. Yn hytrach, mae pob plaid yn canfod ei chydbwysedd ei hun rhyngddynt gan ddibynnu nid yn unig ar ei hanian ond hefyd ar amgylchiadau penodol. I’m tyb i, gwers fawr arall y misoedd diwethaf yw’r angen i’r blaid ddyfod yn beiriant etholiadol mwy effeithiol a hynny yn anad dim trwy broffesiynoleiddio a moderneiddio o ran defnydd o ddata mewnol ac o ran deall yr etholaeth Gymreig. Hyn oherwydd bod perfformiadau etholiadol cryfach yn cryfhau braich y Blaid wrth geisio gweithredu polisïau.
Efallai ei bod yn rhy syml cyferbynnu’r hyn y mae Plaid Cymru wedi ei sicrhau yn y cytundeb presennol hefo’r hyn a allasai fod wedi ei ennill petai canlyniad mis Mai wedi bod yn well. Ond wrth feddwl am olynwyr tebygol Mark Drakeford – Vaughan Gething? Eluned Morgan? – siawns ei bod yn amlwg y bydd llaw Plaid Cymru lawer iawn yn gryfach mewn unrhyw drafodaeth a ddaw os yw’n llwyddo i ehangu ei chefnogaeth etholiadol drachefn.
Y perygl, wrth gwrs, yw y bydd cyffro’r cytundeb newydd, ynghyd â’r gwaith caib a rhaw a fydd yn angenrheidiol i wireddu rhai o’r dyheadau mwyaf uchelgeisiol a gynhwysir ynddo, yn golygu y bydd arweinyddiaeth Plaid Cymru unwaith yn rhagor yn anwybyddu’r gwaith o adeiladu’r blaid fel peiriant medi pleidleisiau. Ond hyd yn oed os mai gweithredu’r cytundeb fydd yn ddi-os yn hawlio diddordeb a sylw Adam Price ei hun, mae yna arweinwyr eraill a ddylai fod yn camu i’r bwlch, yn Brif Weithredwr newydd a Chadeirydd. O safbwynt iechyd hir dymor Plaid Cymru a’r mudiad cenedlaethol, bydd eu hymdrechion hwy y tu ôl i’r llenni i ddiwygio’r blaid yr un mor bwysig â’r ymdrechion mwy cyhoeddus fydd yn cael eu gwneud yng nghyd-destun y cytundeb ei hun.