Holi Guto Bebb
Flwyddyn union ar ôl iddo adael San Steffan, mae’r gŵr a fu’n cynrychioli Aberconwy ar ran y Ceidwadwyr yn trafod ei ddeng mlynedd yn y Senedd ac yntau erbyn hyn yn Gyfarwyddwr Rheoli Gwasanaethau Yswiriant Undeb Amaethwyr Cymru. Ac mae ei farn am ei hen blaid yn ddamniol.
Y troeon diwethaf y gwelais i Guto Bebb cyn y cyfweliad hwn oedd ar derfyn haf y llynedd. Ar y teledu yr oedd hynny. Prin yr âi hanner diwrnod heibio bryd hynny heb iddo gael ei holi ar bob un o’r gwasanaethau newyddion, ynghyd â’r rebeliaid Torïaidd eraill a oedd yn bygwth gwneud teyrnasiad Boris Johnson fel Prif Weinidog yr un byrraf a fu erioed. Nid felly y bu ac o fewn dim o dro roedd Guto a 21 draenen Dorïaidd arall yn ystlys Boris – gan gynnwys ŵyr Winston Churchill, Syr Nicholas Soames, a Thad Tŷ’r Cyffredin, Ken Clarke – wedi cael eu diarddel gan y Prif Weinidog penfelyn a phenchwiban. Ymddiswyddodd dau Dori arall yr un pryd. Ac un o’r rheini oedd Jo Johnson, brawd y Prif Weinidog ei hun.
Afraid yw cofnodi sut yr aeth Boris ymlaen i ennill buddugoliaeth gyfforddus yn yr etholiad cyffredinol yn Rhagfyr y llynedd. Ac afraid dweud hefyd mai dyna pryd y rhoddodd Guto Bebb y gorau i fod yn aelod seneddol.
Mae hynny’n esbonio pam nad ar College Green yng nghysgod Palas Westminster y gwelais i Guto Bebb y tro hwn ond yng nghysgod castell Caernarfon. O bellter diogel, yn swyddfa Undeb Amaethwyr Cymru, fe ofynnais iddo i gychwyn y cwestiwn mwyaf amlwg o’r cyfan: oedd o’n colli San Steffan?
‘A bod yn gwbl onest, ychydig iawn, iawn. Ac mae ’na reswm am hynny. Dwi ddim yn credu bod neb yn San Steffan wedi cael blwyddyn arferol. Tydyn nhw chwaith ddim wedi cael mynd ar gyfyl y lle rhyw lawer oherwydd aflwydd Covid-19. Ac, wrth gwrs, fel roedd hwnnw’n cychwyn mi oeddwn innau’n cychwyn ar swydd newydd. Felly dydw i ddim wedi cael llawer o amser i feddwl ydw i’n gweld colli bod yn aelod seneddol.’
Diau ei fod yn dweud y gwir. Ond onid oes mwy iddi na hynny? Ymhell cyn inni erioed glywed am Covid, onid oedd dau ‘B’ wedi arwain at ei ymadawiad â’r Senedd? Brexit a Boris?
‘Dwi’n credu bod hynny’n dweud cyfrolau oherwydd mi oedd ’na adeg y byddwn i wedi ei gweld hi’n chwith iawn peidio cymryd rhan yn y broses wleidyddol. Ond doedd cael fy niarddel gan Boris yn poeni dim arna i. Roeddwn i wedi gweld sut roedd y gwynt yn chwythu wythnosau os nad misoedd ymlaen llaw. Ac roeddwn i wedi cyhoeddi ym mis Mehefin y llynedd nad oeddwn i’n bwriadu sefyll eto yn Aberconwy cyn i Boris ennill yr arweinyddiaeth. Mi oedd unrhyw un efo llygad i weld yn gwybod mai fo oedd yn mynd i ennill. A doeddwn i ddim eisiau gwasanaethu Boris Johnson a’r math o Brexit roedd o’n fodlon arno fo. Felly doeddwn i ddim yn gweld colli’r chwip yn drawmatig.
‘Doedd gen i ddim diddordeb mewn cyfaddawdu. Dwi’n credu’n sicr fod Brexit blêr efo cytundeb gwael – sef y gorau y gallwn ni obeithio amdano fo bellach – yn mynd i wneud drwg i Gymru a Phrydain yn economaidd.’
Ym myd busnes y bu’n gweithio cyn cael ei ethol i’r Senedd. Ei waith oedd cynghori busnesau mawr a mân. Yr un oedd ei ymroddiad wrth gynorthwyo criw o wirfoddolwyr i ailagor siop mewn pentref gwledig â’i sêl dros fentrau mawrion fel yr un i agor sinema a chanolfan siopa sylweddol ar lannau’r Fenai, cynllun a wrthodwyd yn lleol. Ei gred ddiysgog fod iaith a gwaith yn anwahanadwy, a bod economi gref yn gwbl allweddol i ddatblygiad gwlad a chymdeithas, a barodd iddo newid plaid yn y lle cyntaf.
Mae’r siom – a’r rhwystredigaeth – yn amlwg yng ngoslef ei lais wrtho iddo esbonio sut a pham y penderfynodd adael y Senedd. Wrth weld y Torïaid yn cofleidio a hyrwyddo Brexit daeth gadael yn anochel iddo. ‘Doedd dim diben cael unrhyw beth i’w wneud â phroses oedd yn gwneud drwg i ni ein hunain, a hynny’n hollol fwriadol.’
Arllwysodd ei holl ddigofaint i erthygl a ysgrifennodd i’r Guardian lle cyhuddodd y Blaid Geidwadol o fod wedi troi’n English Nationalist Party. Dywedais wrtho ei bod hi’n eironig tu hwnt gweld un a fu’n aelod gweithgar o Blaid Cymru yn cyhuddo’r Torïaid o fod yn blaid genedlaetholgar Seisnig. Gwadu bod hynny’n eironig wnaeth Guto Bebb, a’i wadu ag angerdd a difrifoldeb anghyffredin.
‘Mae’r hyn rydan ni’n ei weld yng Ngogledd Iwerddon a’r hyn rydan ni’n ei weld yn yr Alban yn adlewyrchiad o’r un peth. Mae ’na lawer o bobl sy’n gallu dygymod â gweithredu yn realistig ac yn gall o fewn cyd-destun Prydeinig gan wybod bod ’na gyd-destun ehangach. Hynny ydi, mae rhywun yn gallu dehongli ei hun fel person sy’n gweld y budd economaidd o fod yn rhan o Farchnad Sengl Brydeinig. Ond yn yr un modd roedd ’na Farchnad Sengl ehangach. Creadigaeth fawr Margaret Thatcher, a’r peth mwyaf cadarnhaol wnaeth hi, oedd creu Marchnad Sengl Ewropeaidd yn ymestyn am filoedd o filltiroedd o’r Iwerydd i’r ffin â Rwsia. Ac felly dwi’n credu ei bod hi’n hollol deg i ddweud rŵan fod y Blaid Geidwadol wedi troi’n blaid genedlaetholgar Seisnig.
Fydd Guto Bebb byth braidd yn codi ei lais. Fydd o chwaith ddim yn mynd i hwyl yn null yr hen bregethwyr. Ond roedd ei lygaid yn melltennu wrth iddo ymhelaethu ar y mater hwn.
‘Tydi ymrwymiad i’r syniad o Brydeindod ddim yn gallu cael ei amddiffyn gan agwedd y Torïaid hynny sy’n dweud bod colli’r Alban yn bris gwerth ei dalu er mwyn cael Brexit; neu fod colli Gogledd Iwerddon yn bris gwerth ei dalu; neu fod diffyg heddwch yng Ngogledd Iwerddon yn bris gwerth ei dalu am gael Brexit.
‘Nid agweddau Prydeinig ydi’r rhain ond agweddau cenedlaetholdeb Seisnig. A dwi o ddifri’n meddwl mai trasiedi yn y cyd-destun Cymreig ydi bod y Blaid Geidwadol yng Nghymru wedi troi i fod yn lladmerydd dros genedlaetholdeb Seisnig er gwaetha holl ymdrechion pobol fel Nick Bourne i newid y ffordd roedd y Blaid Geidwadol yng Nghymru yn cael ei gweld. A dwi’n meddwl bod perfformiad rhai o arweinwyr y Ceidwadwyr yng Nghymru wedi bod yn hynod siomedig.
‘Yr hyn rydan ni wedi’i weld ydi’r hyn mae Richard Wyn Jones yng ngholofnau BARN wedi’i ddisgrifio fel Plaid-Popeth-yn-Well-yn-Lloegr yn hytrach nag ymgais i greu’r math o Geidwadaeth Gymreig roeddwn i’n dymuno ei weld. Ond, wrth gwrs, yr hyn sy’n drist ydi bod llwyddiant etholiadol Plaid-Popeth-yn-Well-yn-Lloegr wedi bod yn fwy syfrdanol nag unrhyw lwyddiant gafodd Nick Bourne a’r Ceidwadwyr Cymreig. Felly efallai mai nhw sy’n iawn.
‘Ond mae’r hyn mae’r polau piniwn yn yr Alban yn ei ddangos, a’r hyn sydd o reidrwydd yn mynd i ddigwydd maes o law yng Ngogledd Iwerddon, yn dangos yn glir bod cenedlaetholdeb Seisnig y Blaid Geidwadol wedi gwneud drwg mawr i’r syniad o Brydeindod.’
Yn achos Cymru a Senedd Cymru’n benodol, ofn mawr Guto Bebb yw y bydd Marchnad Sengl San Steffan yn rhoi mwy o bwerau i Swyddfa Cymru yn Llundain gan danseilio datganoli.
‘Fe wnes i ymuno â’r Blaid Geidwadol ar ôl i William Hague ddweud bod y ddadl dros ddatganoli wedi dod i ben. Mae o felly’n beth trist iawn fod yr union lywodraeth sy’n datgan ei bod hi eisiau cael rheolaeth yn agosach at adra yn hytrach na rheolaeth o Frwsel yn gweld datganoli’n fygythiad i’w gallu i dra-arglwyddiaethu ym Mhrydain. Fyddai Prydain sy’n cynnwys Cymru a Lloegr yn unig ddim yn beth braf i’w ystyried. Mi fyddai’n bartneriaeth unochrog iawn.’
Er bod gwleidyddiaeth yng ngwaed Guto Bebb mae o yn ei elfen yn ei swydd newydd ac yn falch o’r ffydd a ddangoswyd ynddo gan ei gyflogwyr. (Mae o’n sylweddoli’n iawn fod llawer o ffermwyr yn frwd dros Brexit.)
‘Nid yn aml ydach chi’n cael cyfle i redeg busnes mawr yng nghyd-destun y Gymru wledig. Mae ochr yswiriant Undeb Amaethwyr Cymru yn cyflogi 83 mewn 13 o swyddfeydd a’r trosiant yn £20 miliwn y flwyddyn. Ni yw’r broceri amaethyddol mwya yng Nghymru a’r ail fwya ym Mhrydain.’
Ac am ei fod yn argyhoeddedig mai dim ond economi gref sy’n mynd i alluogi pobl ifanc i brynu tai yng nghefn gwlad Cymru, mae Guto Bebb, sy’n 52 oed, yn hapus i fod yn ôl ym myd busnes a masnach. Ond fel y dywedodd yn gellweirus ar ddiwedd ein sgwrs, ‘Yn America mae Joe Biden yn 78. Mae arweinydd y Senedd yn 78. Mae arweinydd y Gyngres yn 80. Mae gobaith, felly, i bob gwleidydd sy’n 52…’