Roedd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig yn arfer cyfrif...

Darllen am ddim

Fel y gwŷr unrhyw addysgwr, nid oes dim byd tebyg i gyfarfod a dod i adnabod dosbarth newydd. Hynny sy’n ein hatgoffa ein bod i gyd yn heneiddio’n gynt nag yr ydym yn ei feddwl – heb sôn am ei obeithio. Gyda phob blwyddyn newydd, mae’r bwlch rhwng yr hyn sy’n amlwg-gyfarwydd i ni – yn ddigwyddiadau, profiadau cyffredin a chyfeiriadau diwylliannol – a’r hyn sy’n ail natur iddyn nhw yn lledu. Mae pob set o wynebau newydd yn yr ystafell o’n blaenau yn tanlinellu gymaint y mae treigl amser yn altro golygon a dealltwriaeth.

Mae’n siŵr gen i fod hyn yn arbennig o wir am y rhai ohonom sy’n trafod materion cyfoes fel gwleidyddiaeth. Ystyriwch ein glasfyfyrwyr newydd yma yn adran wleidyddiaeth Prifysgol Caerdydd. Mae’r rhan fwyaf ohonynt yn ddeunaw oed, sy’n golygu eu bod yn dair ar ddeg pan gynhaliwyd refferendwm Brexit ac yn un ar ddeg adeg refferendwm annibyniaeth yr Alban. Pedair oed oeddynt pan ildiodd Tony Blair yr awenau yn Downing Street. Yn wir, roedd yr ail etholiad ar gyfer Cynulliad Cenedlaethol Cymru (fel yr oedd) wedi ei gynnal cyn geni llawer ohonynt... Nefoedd yr adar!

Pa syndod fod cymaint o waith teilwra’r gwahanol drafodaethau yn yr ystafell seminar i sicrhau nad yw fy nghyfeiriadau ffwrdd-â-hi at wleidyddion neu ddigwyddiadau’r gorffennol yn peri dryswch? Enghraifft: dwi’n gwybod ei bod yn anodd credu, ond wir i chi, yr oedd Tony Blair yn anhygoel o boblogaidd ar un adeg! Her arall yw ceisio sicrhau nad yw’r to sy’n codi yn cymryd yn ganiataol mai fel hyn y bu hi erioed. Hyd yn oed os ydynt bellach wedi colli eu rhin a’u perthnasedd, yr oedd dadleuon ac actorion gwleidyddol eraill yr oedd yn rhaid eu cymryd o ddifrif.

Yn y cyd-destun yma, mae darllen y wasg Gymreig dros yr wythnosau diwethaf wedi fy atgoffa o un o’r pethau y mae’n rhaid i mi gofio’u pwysleisio wrth drafod gwleidyddiaeth Cymru hefo glasfyfyrwyr 2021. Sef hyn: unwaith eto dwi’n gwybod ei bod yn anodd credu, ond wir i chi, roedd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig yn arfer cyfrif! Yn cyfrif nid yn unig yn ôl yn oes yr arth a’r blaidd pan oedd Lloyd George yn arwr a Tom Ellis yn eilun, ond yn ystod blynyddoedd ffurfiannol datganoli.

Y dyfalu ynglŷn â’r posibilrwydd y gwelwn ryw fath o fargen yn cael ei tharo rhwng llywodraeth Mark Drakeford ac unig aelod etholedig y blaid yn y Senedd, sef Jane Dodds, sydd wedi fy mhrocio ynglŷn â’r mater. Gyda Llafur yn dal 30 sedd mewn deddfwrfa 60 aelod, mae’n hawdd gweld apêl cytundeb o’r fath. Wedi dweud hynny, mae’r newyddion am y trafodaethau rhwng Llafur a Phlaid Cymru yn awgrymu bod golygon y Prif Weinidog ar drefniant mwy uchelgeisiol. Cawn weld.

Ond â phob dyledus barch i Dodds, yr hyn y mae’r trafod yn ei danlinellu i mi yw pa mor bell y mae’r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig wedi cwympo. Wedi’r cwbl, yn ôl yn 2000 roedd ffurfio clymblaid ffurfiol rhwng Llafur a’r blaid honno yn gam allweddol wrth sefydlogi cyw-Senedd a gafodd gyfnod cychwynnol digon tymhestlog. Ac nid dim ond mwyafrif a ddarparwyd gan y Democratiaid Rhyddfrydol: nhw oedd awduron y rhan fwyaf o’r polisïau a gynhwyswyd yn rhaglen waith y llywodraeth honno.

Yn sgil etholiad 2007, roedd y Democratiaid Rhyddfrydol yn bartneriaid posibl mewn ‘llywodraeth enfys’, fel y’i gelwid, neu mewn clymblaid arall hefo Llafur (mater arall yw beth a wnaeth y blaid hefo’r cyfleoedd hynny!). Yna, wedi ffurfio’r glymblaid hefo’r Ceidwadwyr yn Llundain yn 2010, chwaraeodd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig rôl greiddiol bwysig nid yn unig yn amddiffyn datganoli rhag agweddau gwrthnysig Ceidwadwyr megis David Jones; buont hefyd yn allweddol mewn sicrhau ehangu cwmpas hunanlywodraeth trwy sefydlu Comisiwn Silk.

Trwy’r cyfnod yma, nid grym ymylol oedd y Democratiaid Rhyddfrydol. Yn hytrach, er yn ddiau’n blaid fechan, yr oeddynt serch hynny’n gwneud cyfraniad arwyddocaol o ran holl gyfeiriad bywyd gwleidyddol ein gwlad. Hyd yn oed os daw cytundeb rhwng Dodds a Llafur, ni fydd yn cymharu o ran ei ardrawiad na’i arwyddocâd. Yn hytrach, fel yn achos cytundeb Kirsty Williams a’r llywodraeth Lafur rhwng 2016 a 2021, bydd yn fater o ffeirio pleidlais am friwsion polisi a/neu swydd yn y llywodraeth.

Ac fel pe na bai hynny’n ddigon o gwymp, mae’n anodd iawn gweld sut y gall y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig obeithio adennill eu perthnasedd blaenorol. Yn sicr, nid oes pwynt ceisio efelychu ei chwaer-blaid yn yr Alban sy’n rhan o glymblaid unoliaethol sy’n bodoli’n unig er mwyn gwrthwynebu popeth a ddaw o gyfeiriad yr SNP. Bellach, brawd bach y Blaid Geidwadol ydi’r Democratiaid Rhyddfrydol Albanaidd. Yn Lloegr wedyn, fe ymddengys mai strategaeth Ed Davey yw cynnig cartref i gyn-Dorïaid sydd wedi eu dadrithio â Brexit a stumiau poblyddol Johnson a’i griw. Go brin fod hynny’n fodel i’w efelychu chwaith os am lwyddo yng nghyd-destun yr amodau gwleidyddol gwahanol iawn sy’n bodoli yng Nghymru.

Ar ben hynny mae eu cryfderau traddodiadol yng Nghymru yn prysur gael eu tanseilio. Fel y dywedodd un hen law yn y blaid wrthyf yn ddiweddar, mae’r Seisnigo cyson a welwyd ym Mhowys eisoes wedi erydu’r diwylliant a arferai eu cynnal yn y cymunedau hynny. Yr oedd yn besimistaidd ynglŷn â’r posibiliad o ailadeiladu yno. Bydd y newidiadau i ffiniau etholiadol Cymru yn San Steffan a argymhellwyd gan y Comisiwn Ffiniau hefyd yn ergyd drom i blaid sy’n ddibynnol iawn ar rwydwaith gadarn o ymgyrchwyr lleol selog. Hyd yn oed o allu canfod neges wleidyddol sy’n tycio, bydd gwaith mawr ei angen i ailadeiladu’r isadeiledd ymgyrchu cyn y gellir gobeithio am lwyddiant etholiadol.

Mewn byr eiriau, mae’r rhagolygon yn wael i bob cyfeiriad.

Oedd, roedd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig yn arfer cyfrif. I’r sawl sy’n ymddiddori yn hanes gwleidyddiaeth Cymru, fe fyddant felly’n parhau i gyfrif. Ond go brin eu bod yn cyfrif yn y presennol. Ar hyn o bryd, o leiaf, mae hefyd yn anodd gweld sut y byddant yn cyfrif yn y dyfodol chwaith. Dichon, felly, nad y fi fydd yr olaf i orfod atgoffa glasfyfyrwyr o’u harwyddocâd blaenorol.

Richard Wyn Jones
Hydref 2021