Yma mae’r awdur yn craffu ymhellach ar y modd y llwyddodd Iwerddon i’w gweddnewid ei hun yn economaidd dros y degawdau diwethaf mewn modd nad yw Cymru wedi dod yn agos at ei efelychu.
Yn fy nghyfraniad i rifyn mis Ebrill, achubais ar y cyfle i rannu fy argraffiadau yn dilyn taith ddiweddar i Iwerddon. Byrdwn fy neges oedd bod y gymhariaeth ag Iwerddon yn tanlinellu mor bell ar ei hôl hi y mae Cymru wedi llithro: o ran incwm y pen; o ran safon ac ansawdd yr isadeiledd, boed breifat neu gyhoeddus; ac yn bendifaddau o ran uchelgais. Tra mae Cymru’n troi yn yr un hen ferddwr mae’r Gwyddelod yn camu yn eu blaenau, a hynny er gwaethaf problemau dyrys na fynnwn am eiliad eu diystyru na’u bychanu.
Yr hyn sy’n gwneud y gymhariaeth hon yn un mor drawiadol a sobreiddiol yw’r ffaith ein bod ni’r Cymry wedi arfer meddwl am ein cymydog i’r gorllewin fel gwlad sylweddol dlotach. Erbyn hyn, nid felly y mae. Ar ben hynny, mae’r Gwyddelod wedi trawsnewid eu gwlad heb fanteision naturiol amlwg. Yn wahanol i Norwy, dyweder, nid olew yn y moroedd o gylch yr ‘ynys werdd’ fu’n rhagamod llwyddiant. O’i gymharu â Denmarc, wedyn, mae’n fater cymhleth a chostus i Iwerddon gael mynediad i brif farchnadoedd a chanolfannau twf tir mawr Ewrop. Eto i gyd, mae hi wedi llwyddo’n rhyfeddol, a’r llwyddiant hwnnw’n deillio o’i pharodrwydd i roi ar waith yr unig adnodd naturiol o bwys sydd yn ei meddiant – ei phobl – mewn modd sy’n codi’r genedl gyfan.
Mae hynny, wrth gwrs, yn codi’r cwestiwn: os ydi’r Gwyddelod wedi sicrhau’r fath gynnydd dan amgylchiadau sy’n ymddangos hyd yn oed yn llai ffafriol na rhai Cymru, yna pam ein bod ni wedi methu â gwneud yr un fath? Go brin ein bod yn dwpach pobl. Felly beth sy’n ein rhwystro rhag rhoi ein galluoedd ninnau ar waith mewn ffordd a fyddai’n cynnig gobaith o allu dianc o’n cyflwr truenus presennol? I’m tyb i, mae’r ateb yn amlwg os yn anghysurus: ein diffyg difrifoldeb ynglŷn â mynd i’r afael â’r sefyllfa.
Fe ddylai fod yn amlwg i bawb ac eithrio’r mwyaf hygoelus na ddaw achubiaeth i Gymru o gyfeiriad y wladwriaeth Brydeinig. Mae stiwardiaeth San Steffan a Whitehall o Gymru yn esgeulus ar y gorau, ond yn aml mae’r agwedd tuag atom yn agored ddirmygus.
Os am enghraifft gyfredol o’r ail bwynt, nid oes ond angen ystyried y modd mae’r llywodraeth Geidwadol yn Llundain wedi penderfynu ymdrin â Chymru yng nghyd-destun cynllun rheilffordd HS2. Ymdriniaeth sydd mor warthus ac mor amlwg niweidiol i les Cymru nes bod embaras a diffyg arddeliad yr Ysgrifennydd Gwladol, David TC Davies, wrth iddo geisio ei gyfiawnhau yn gwbl amlwg i bawb sydd â llygaid i weld.
Dagrau pethau yw na allwn ddisgwyl gwell os a phan etholir llywodraeth Lafur. Yn hytrach, bydd Jo Stevens, neu bwy bynnag arall a benodir i gynrychioli Syr Kier Starmer yng Nghymru [sic], yn canfod eu hunain yn rhaffu’r un hen esgusodion dros beidio â thrin Cymru’n deg. Hynny gan y byddai nodi’r gwir reswm – ’dach chi jyst ddim yn cyfrif, bois – yn ormod hyd yn oed i Gymru ddof ei stumogi.
Ond wedi rhoi’r swadan haeddiannol, angenrheidiol i Lundain, mae’n bwysig hefyd ein bod yn ystyried ein diffygion ein hunain.
Ers dau ddegawd a mwy, bellach, bu gennym lun ar lywodraeth ddatganoledig yng Nghymru. Bydd y sawl sydd wedi darllen y golofn hon yn gyson dros y cyfnod yma’n gwybod yn dda pa mor ddiffygiol a methedig y bu’r gyfundrefn honno. Er y diwygio a welwyd, mae llawer iawn o broblemau sylfaenol yn parhau – yn aml oherwydd amharodrwydd Llundain i drosglwyddo pwerau i Gymru sydd eisoes gan yr Alban. Serch hynny, ni all unrhyw un wadu nad oes grymoedd a chyllideb sylweddol ym meddiant ein sefydliadau gwleidyddol cenedlaethol Cymreig, a theg yw gofyn beth y maent yn ei wneud â’r grymoedd hynny i geisio ein llusgo o’r rhigol bresennol?
Fel mae’n digwydd, mae yna enghraifft ddiweddar yn ei chynnig ei hun sy’n ein galluogi i gymharu’n uniongyrchol y modd mae llywodraethau Iwerddon a Chymru’n ceisio adeiladu eu heconomïau, a chryfhau’r gymdeithas yn sgil hynny.
Ddiwedd Chwefror eleni fe gyhoeddodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, ddogfen strategaeth newydd Cymru’n Arloesi: Creu Cymru gryfach, decach, a gwyrddach, hynny lai na blwyddyn ers i Lywodraeth Iwerddon gyhoeddi Impact 2023: Ireland’s Research and Innovation Strategy. Fe fyddwch chi’n falch o wybod, efallai, nad wyf yn bwriadu trafod y ddwy ddogfen mewn manylder yma (maent i’w canfod yn rhwydd ar y we trwy roi’r teitlau yn y porwr). Serch hynny, mae eu cyfosod yn ddadlennol, yn enwedig gan fod Llywodraeth Cymru yn honni bod ei strategaeth hi wedi dwyn ysbrydoliaeth uniongyrchol o’r strategaeth Wyddelig.
Afraid dweud bod ymchwil ac arloesedd yn allweddol ar gyfer dyfodol unrhyw wlad ddatblygedig, eto gwaetha’r modd, go brin fod y strategaeth arloesedd Cymreig yn haeddu’r enw strategaeth o gwbl. Yn hytrach na diffiniad croyw o’r nod a gyrchir, dadansoddiad o’r heriau sy’n sefyll yn y ffordd, ynghyd â chynllun pendant i’w goresgyn – hynny yw, yr hyn y byddai unrhyw un rhesymol yn ei ddisgwyl mewn dogfen o’r fath – ceir cyfres o ystrydebau ynglŷn â chreu ‘diwylliant arloesedd’, ‘pwysigrwydd partneriaethau’, ac yn y blaen.
Nid oes targedau penodol ynghlwm wrth y ddogfen; dim sy’n ddiriaethol heb sôn am fod yn fesuradwy. O ganlyniad, nid oes modd barnu llwyddiant neu aflwyddiant y ‘strategaeth’. Ond wedi dweud hynny, o’i darllen mae’n anodd credu bod y rhai a fu’n cynhyrchu Cymru’n Arloesi yn poeni rhyw lawer ynglyn â’i hardrawiad yn y byd go iawn. Yn hytrach na sicrhau bod mwy a gwell ymchwil ac arloesi yn digwydd yng Nghymru, ymddengys mai’r pwynt yw gallu brolio bod gan Lywodraeth Cymru ddogfen swyddogol sy’n nodi mai dyna y mae am ei weld yn digwydd. Hynny yw, fe ystyriwyd llunio’r ddogfen yn nod ynddi ei hun yn hytrach nag yn fodd o gyrraedd nod amgen.
Casgliad sinigaidd iawn, fe wn. Eto, mae’r gymhariaeth â’r ddogfen Wyddelig yn gwbl ddamniol. Yn yr achos hwnnw ceir targedau eglur ac uchelgeisiol ynghyd â chynllun gweithredu, y cyfan oddi mewn i gloriau’r un ddogfen. Yn ogystal, mae’n strategaeth hir-dymor – Impact 2030 – sy’n rhan o linach estynedig o gynlluniau i hybu ymchwil ac arloesedd ym mhrifysgolion a cholegau Iwerddon. Cynlluniau sy’n ernes o’r ffaith fod y wladwriaeth Wyddelig wedi hen gydnabod rôl ganolog y gyfundrefn addysg yn y broses o drawsffurfio Iwerddon. Gan mai’r bobl ydi’r unig adnodd naturiol o bwys, mae dyfodol y wlad yn dibynnu ar boblogaeth addysgedig.
Heb ramantu’n ormodol – ac yn sicr ddigon heb geisio gwadu problemau’r gyfundrefn wleidyddol Wyddelig – mae strategaeth ymchwil ac arloesi Iwerddon yn darllen fel dogfen y bwriedir gweithredu arni. Mewn byr eiriau, mae’n strategaeth ddifrif ar gyfer gwlad sydd o ddifrif. A chan na ellir dweud yr un fath am y fersiwn Cymreig, o weithredu’r strategaeth Wyddelig yn llwyddiannus bydd yn help i sicrhau bod Iwerddon hyd yn oed ymhellach ar y blaen i Gymru nag ydyw eisoes.
Nid oes un polisi, un weithred neu un diwygiad a fydd yn ddigon ynddo ei hun i lusgo Cymru o’r merddwr presennol. Mae’r problemau’n rhy ddwys a’r llesgedd economaidd a chymdeithasol yn rhy hollgynhwysol i ganiatáu hynny. Serch hynny, mae un cam a fyddai o’i gymryd yn altro popeth. A hynny yn syml iawn fyddai ymddifrifoli. Dyna a wnaeth Iwerddon dros hanner canrif a mwy yn ôl pan benderfynodd fynd ati i drawsnewid ei rhagolygon economaidd a chymdeithasol. Mae cymharu Cymru’n Arloesi hefo Impact 2030 yn tanlinellu’r ffaith nad ydym ni hyd yn oed wedi dechrau gwneud hynny eto.
Ceir trafodaeth fwy estynedig ar y strategaeth arloesedd Gymreig yn Richard Wyn Jones, ‘Does the Welsh Government really care about university research and innovation?’ WonkHE, 11 Ebrill 2023.