‘Y Prif Weinidog, Syr Keir Starmer’

Syr Keir Starmer
Darllen am ddim

Am y tro, gorfod bodloni ar fod yn farchog yn unig sy’n rhaid i arweinydd yr wrthblaid yn San Steffan ei wneud. Dyw’r swydd-ddisgrifiad uchod ddim wedi dod i’w ran. Ddim eto.

  ‘Cyhoeddodd y Prif Weinidog, Syr Keir Starmer…’
  ‘Gwadodd y Prif Weinidog, Syr Keir Starmer…’
  ‘Condemniodd y Prif Weinidog, Syr Keir Starmer…’

O ystyried yr holl droeon trwstan a welwyd yng ngwleidyddiaeth y wladwriaeth hon dros y degawd diwethaf, byddai’n annoeth diystyru’n llwyr y posibilrwydd y daw eto ryw groeswynt neu’i gilydd i fwrw popeth oddi ar ei echel. Ond oni ddigwydd hynny, yna mae bellach yn ymddangos yn debygol iawn y gwelwn, rywdro yn ystod y deunaw mis nesaf, arweinydd y Blaid Lafur a’i deulu yn codi eu pac ac yn symud i fyw y tu ôl i ddrws du enwog 10 Stryd Downing. Yna, o fewn dyddiau, bydd adroddiadau di-ri mewn bwletinau newyddion ynghyd ag erthyglau mewn papurau a chylchgronau rif y gwlith wedi peri ein bod yn dechrau cynefino ag ymadrodd sydd ar hyn o bryd yn parhau’n chwithig iawn i’r glust: ‘y Prif Weinidog, Syr Keir Starmer’.

Fel y digwyddodd yn 1945 a 1997 o’r blaen, ymddengys fod y Torïaid wedi trethu amynedd y pleidleiswyr i’r fath raddau fel nad oes dim y gallant ei wneud er mwyn osgoi chwalfa etholiadol. Fe gaiff Rishi Sunak ail-lansio ei arweinyddiaeth neu aildrefnu ei gabinet faint a fynno ond ‘mae’n amser am newid’, ac mewn system wleidyddol ddwy-blaid, canlyniad anorfod hynny fydd gorseddu Starmer yn bennaeth llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ei le. Yn wir, un o elfennau mwyaf trawiadol gwleidyddiaeth Prydain yn y dyddiau dreng yr ydym yn byw ynddynt yw bod trwch y Ceidwadwyr eu hunain fel petaent wedi derbyn eu ffawd. Hynny i’r graddau fod dyn yn synhwyro y bydd cael eu gorfodi i ildio’r awenau yn dipyn o ryddhad i’r rhan fwyaf ohonynt.

Rhaid cyfaddef ar ei ben nad dyna yr oeddwn i wedi ei ragweld pan ddyrchafwyd Starmer yn arweinydd y Blaid Lafur yn 2020. Ar y pryd roeddwn i wedi tybio mai’r mwyaf y gallai ei gyflawni fyddai sadio rhywfaint ar ei blaid ar ôl holl gythrwfl a gwrthdaro cyfnod Jeremy Corbyn wrth y llyw. Ei gwneud hi’n bosibl i Lafur ennill etholiad ymhen y rhawg fyddai ei briod waith yn hytrach nag arwain ei blaid at y fuddugoliaeth honno. Wel, mae’n amlwg nad ydw i’n llawer o broffwyd. Roeddwn i’n rhy barod i ddiystyru’r posibilrwydd y gallai obeithio am well.

A bod yn deg, roedd rhesymau da dros gredu na fyddai Starmer byth yn cael ei draed dan y bwrdd yn Stryd Downing. Pan enillodd Johnson ei fuddugoliaeth ysgubol yn etholiad cyffredinol 2019, cymaint oedd mantais y Ceidwadwyr fel ei bod yn anodd iawn rhagweld unrhyw ffordd y gallai’r blaid honno golli’r etholiad cyffredinol nesaf. Ond fel y gwyddom bellach, roedd hynny’n anwybyddu’r ffaith fod rhengoedd uchaf y Torïaid hyd yn oed yn fwy hesb o ran talent a gallu nag yr oedd unrhyw un ohonom wedi ei ddychmygu.

Yn wyneb yr heriau enfawr a grëwyd gan yr ymdrech i wireddu breuddwyd gwrach Brexit ynghyd â’r her o lywodraethu trwy gyfnod yr argyfwng iechyd cyhoeddus mwyaf ers canrif, dinoethwyd yn llwyr eu heilraddoldeb a’u diffyg difrifoldeb. Gydag enwau Boris Johnson a Liz Truss bellach yn gyfystyr â thraha di-ben-draw a Sunak druan yn bell allan o’i ddyfnder, prysuro mae’r awr pan gaiff y Ceidwadwyr eu dal yn atebol am eu methiannau. Pa ryfedd fod degau lawer o’u haelodau seneddol wrthi’n eu paratoi eu hunain yn emosiynol ac yn ariannol ar gyfer y profiad o golli eu seddau?

Sy’n dod â ni’n dwt at natur buddugoliaeth debygol Starmer pan elwir yr etholiad cyffredinol nesaf.

Os a phan gaiff Starmer ei orseddu’n Brif Weinidog, fe fydd hyn yn anad dim yn arwyddo teimladau negyddol yr etholwyr tuag at y Torïaid – negative partisanship yw’r term a arddelir gan ysgolheigion – yn hytrach nag unrhyw deimladau cadarnhaol ynglŷn â’r arweinydd newydd a’i blaid. Mewn gwrthgyferbyniad, yn etholiadau 1945 a 1997 fel ei gilydd roedd yr awydd i gael ’madael ar y Ceidwadwyr yn mynd law yn llaw â brwdfrydedd gwirioneddol dros yr hyn y gallai llywodraeth Lafur ei gyflawni. Adeiladu’r wladwriaeth les yn achos y cyntaf a chyflwyno cyfres o ddiwygiadau pellgyrhaeddol (gan gynnwys datganoli) yn achos yr ail. Hyd yn oed pan enillodd Harold Wilson ei fuddugoliaethau yn y 1960au a’r 70au, roedd teimlad (ymysg etholwyr Cymreig o leiaf) fod gwawr newydd ar dorri a gobaith fod Llafur yn ymgorffori rhywbeth sylfaenol newydd a gwell.

A oes unrhyw un mewn difrif yn credu bod teimladau tebyg yn cyniwair yn y tir ar hyn o bryd? Go brin. Yn wir, go brin fod Starmer yn cynrychioli unrhyw weledigaeth neilltuol heb sôn am weledigaeth sy’n cyffroi. Mae eisoes wedi troi ei gefn ar y rhan fwyaf o’r rhaglen a hyrwyddodd pan etholwyd ef yn arweinydd Llafur. Yn hytrach, mae’n amlwg ar ei fwyaf cyfforddus yn ei ddiffinio ei hun yn erbyn eraill. Sylwch, er enghraifft, ar faner Jac yr Undeb sydd wrth ei gefn ym mron pob llun; hyn er mwyn ein hatgoffa ei fod yn wahanol i Corbyn. Fel pe nad Corbyn oedd ei ragflaenydd. Ac nad Sunak mo Starmer. Nid y fo oedd Truss na Johnson chwaith. Caiff Starmer ei ddiffinio gan absenoldeb yn hytrach na phresenoldeb personoliaeth.

Dichon y bydd rhai o’r darllenwyr hynny sydd fwyaf cydymdeimladol tuag at Lafur yn darllen hyn o eiriau ac yn tybio fy mod ychydig yn llawdrwm. Onid yw’n berffaith ddealladwy fod Starmer yn ofalus-geidwadol yn ei ddatganiadau cyhoeddus rhag creu cyfleoedd i’r wasg geidwadol fynd ar ei ôl? Pwynt digon teg. Ond mae dwy broblem.

Yn gyntaf, os a phan fydd yn cyrraedd Stryd Downing, bydd Starmer yn etifeddu gwlad a gwladwriaeth sydd mewn dyfroedd dyfnion – gwlad ranedig, anniddig, gynyddol dlodaidd. Eto, mae’r darpar Brif Weinidog eisoes wedi ei gwneud yn glir na fydd ei lywodraeth yn cyflwyno rhai o’r newidiadau sylfaenol hynny a allai gynnig gobaith am newid gwirioneddol. Mae cynlluniau Llafur i greu economi a chymdeithas fwy cynaliadwy eisoes wedi eu glastwreiddio. Ar ben hynny mae’r blaid yn benderfynol o barhau â pholisi hunan-niweidiol y Torïaid o gadw hyd braich o’r farchnad sengl Ewropeaidd.

Heb allu cynnig gweledigaeth amgen na pholisïau sy’n addo gwell, buan iawn y bydd Llafur ei hun yn cael ei dal yn gyfrifol am y llanast a etifeddodd. Sylfaen simsan ar y naw ar gyfer llywodraethu ydi dadl i’r perwyl ‘o leiaf ’dan ni ddim mor ddrwg â’r rapsgaliwns diwethaf’, yn enwedig felly i blaid sy’n ymhonni bod yn flaengar.

Ond yn ail, o leiaf o ran rhai o’r materion hynny sydd o ddiddordeb i ddarllenwyr BARN, megis dyfodol datganoli, ymddengys nad rhethreg Starmer yn unig sy’n geidwadol – dyna yw ei reddf hefyd. Ar ôl addo cefnogi ‘ffederaliaeth radicalaidd’ yn ystod ei ymgyrch ar gyfer yr arweinyddiaeth, mae Starmer bellach fel petai wedi cefnu ar y syniad o gyflwyno unrhyw ddiwygiadau y tu hwnt i’r rhai mwyaf ymylol a diuchelgais. Mae’n arwyddocaol yn hyn o beth, rwy’n tybio, mai un o’i gyfeillion gwleidyddol agosaf yw’r Aelod Seneddol Cymreig, Carolyn Harris, gwleidydd y mae ei dirmyg tuag at Lywodraeth Cymru yn amlwg i bawb sydd â llygaid i weld.

Gall, fe allai prifweinidogaeth Syr Keir Starmer yn hawdd brofi’n gyfnod heriol dros ben – yn ymestyniad ar y blynyddoedd tymhestlog diwethaf yn hytrach na’r llechen lân y mae llawer yn ei deisyfu. Serch hynny, mae’n hwyr glas ein bod yn dechrau paratoi ar ei gyfer. Os yw’r Ceidwadwyr wedi chwythu eu plwc, yna Starmer fydd yn etifeddu’r Deyrnas.

Richard Wyn Jones
Gorffennaf 2023 i Awst 2023