Y Wladwriaeth Brydeinig a Senedd Cymru

Darllen am ddim

I’r sawl yn ein plith nad yw yn ymglywed â swyn Prydeindod, mae yna rywbeth digon chwithig am y seremonïau a gynhelir i agor sesiynau newydd o’n Senedd genedlaethol. Prin mai gormodiaith yw dweud bod y rôl ganolog a chwaraeir yn y seremonïau hyn gan ddau o gonglfeini sefydliadol y wladwriaeth – y frenhiniaeth a’r lluoedd arfog Prydeinig – yn golygu fod y rhain yn ddiwrnodau lle mae modd teimlo nad yw’r Senedd yn perthyn i ni wedi’r cyfan.

O’m rhan fy hun, y filwriaeth sy’n peri’r prif rwystr. Nid wyf yn heddychwr ac rwy’n hapus i dderbyn nid yn unig bod elfen o rwysg yn rhan anhepgorol o unrhyw seremoni filwrol, ond ei bod yn briodol cynnwys y lluoedd arfog yn nefodaeth y wladwriaeth. Yn wir, rwy’n ddigon bodlon cyfaddef fy mod yn mwynhau ymweld ag amgueddfeydd milwrol pan gaf y cyfle i grwydro prifddinasoedd gwledydd eraill. Byddaf hefyd yn mynd i sbecian ar y milwyr hynny sy’n gwarchod senedd-dai a phalasau arlywyddol neu frenhinol yn eu lifrau seremonïol. Eto i gyd, pan fydd y fyddin Brydeinig yn ymgasglu y tu allan i’r Senedd gyda’u magnelau, eu cotiau cochion, eu hetiau croen arth a’u bidogau, ni allaf ond teimlo eu bod yn bresenoldeb anghydnaws os nad estron.

Am wn i, mae hyn yn adlewyrchu fy rhagdybiaethau a’m rhagfarnau i lawn cymaint â natur y lluoedd arfog eu hunain. Nid dyma’r lle i drafod y ffordd y mae prif ffrwd y mudiad cenedlaethol yng Nghymru (y tu mewn ac ymhell tu hwnt i rengoedd Plaid Cymru) wedi dyrchafu syniad penodol iawn o Gymreictod. Ond y gwir amdani yw bod y traddodiad sydd wedi fy ffurfio i yn anghysurus iawn hefo’r math o Gymreictod a welir ac a deimlir, er enghraifft, yng nghatrodau Cymreig y fyddin Brydeinig. Nid Cymreictod ‘go iawn’ mohono. Ochr arall y geiniog yw bod y lluoedd arfog eu hunain yn tueddu i fod yn anghysurus iawn hefo ffurfiau ar Gymreictod sydd (yn gynyddol) wedi eu dad-Brydeineiddio. Go brin fod yna unrhyw dir cyffredin rhwng y ddwy ochr.

Rhag ofn fod yna unrhyw un yn meddwl fod sefyllfa o’r fath yn anorfod, cyfeiriaf eich sylw at yr Alban ac at dudalennau’r Scots Independent, sef misolyn y mudiad cenedlaethol yno. Yn fynych ceir ynddynt ysgrifau coffa yn nodi cyfraniad rhyw gyn-swyddog cangen o’r SNP neu’i gilydd a fu unwaith yn gwasanaethu yn y lluoedd arfog Prydeinig. Nid wyf erioed yn cofio unrhyw awgrym fod yr unigolion yma yn ystyried eu bod nhw wedi cefnu ar eu cefndir milwrol wrth ymroi i waith Plaid Genedlaethol yr Alban. I’r gwrthwyneb, yr oeddynt oll yn eu hystyried eu hunain yn ddeiliaid traddodiad milwrol cynhenid Albanaidd, ac yn gweld ymgyrchu dros adsefydlu gwladwriaeth Albanaidd fel estyniad naturiol o hynny

Afraid dweud bod ysgrifau o’r fath yn eithriadol o brin mewn cyhoeddiadau tebyg yng Nghymru. Yn wir, nid wyf yn credu i mi weld unrhyw beth o’r fath erioed. Ond dyna ni, mae Cymru a’r Alban yn wledydd gwahanol iawn, a’u mudiadau cenedlaethol yn adlewyrchu hynny. Pa syndod, felly, fod y sefydliad sy’n cynrychioli penllanw llwyddiant y mudiad cenedlaethol Cymreig hyd yma, sef Senedd Cymru, a’r lluoedd arfog Prydeinig yn gyfuniad mor amlwg anghymarus?

Os mai’r lluoedd arfog sydd amlycaf yn weledol ac yn glywedol y tu allan i’r Senedd, unwaith mae’r royals yn croesi rhiniog yr adeilad mae pethau’n dechrau newid. Dyma’r fan lle mae arferion a thraddodiadau newydd y Senedd yn dod i’r blaen – os nad ydw i’n camgymryd yn fawr – dyma’r fan hefyd lle mae’r cydbwysedd grym yn symud. O leiaf rhyw ychydig.

Clodfori pennaeth y wladwriaeth ydi nod amgen y milwyr hynny sy’n bresennol wrth lannau Bae Caerdydd ar gyfer agoriad swyddogol Senedd Cymru. Mae’r Senedd ei hun yn amherthnasol y tu hwnt i’r ffaith ei fod yn darparu cefnlen ar gyfer yr achlysur. Ond oddi mewn i’r adeilad, serch fod y Frenhines a’i mab hynaf yn westeion parchus, mae’r berthynas rhwng y frenhiniaeth a’n sefydliadau democrataidd Cymreig yn fwy cymhleth o’r hanner. Beth bynnag yw agwedd y lluoedd, ni all y frenhiniaeth fforddio bod mor ddi-hid.

Y man cychwyn, wrth gwrs, yw bod perthynas y frenhiniaeth â Chymru’n wahanol iawn i’w pherthynas â’r Alban neu Loegr. Er i Charles gael ei urddo’n Dywysog arnom, a gyda phob dyledus barch i Grahame Davies a’i ragflaenwyr, prin iawn yw’r cysylltiad ymarferol rhyngddo ef a’r wlad hon. Mae’r ffaith y gallai unrhyw un ohonom logi rhannau o’i stad ym Myddfai pe bai gennym yr awydd a’r arian i wneud hynny yn dweud y cyfan (cyn i chi ofyn, £3,150 am wythnos mewn un tŷ yno yr haf nesaf). Nid palas brenhinol na chartref chwaith mohono. Eto i gyd, mae perthynas Charles Windsor â Chymru yn llawer iawn, iawn agosach na pherthynas unrhyw aelod arall o’i deulu â’n gwlad. Brau iawn fu’r cysylltiadau rhwng y frenhiniaeth a Chymru ers canrifoedd lawer.

Yn fwy pryderus fyth, o’u safbwynt hwy, mae hen ddigon o dystiolaeth fod hyd yn oed y cysylltiadau sy’n bodoli yn breuo ymhellach. Profodd yr ymdrechion i ddathlu hannercanmlwyddiant yr Arwisgo yn 2019 yn fethiant alaethus. Wrth holi’n dawel, daeth hi’n amlwg na fyddai croeso i seremoni fawr yng Nghaernarfon, felly yn Lloegr y cynhaliwyd y prif ddathliad yn y diwedd. A go brin fod yn rhaid atgoffa unrhyw un o’r gwawd a’r dirmyg a ddilynodd y penderfyniad annoeth i roi enw’r Tywysog ar yr ail bont dros Hafren. Heb os fe fydd Alun Cairns yn cofio hynny am byth; ond hefyd Charles a’i ystlyswyr.

Y ffaith amdani yw bod datblygiad egin-wladwriaeth Gymreig yn cynnig her sylweddol i’r frenhiniaeth. Ers dau ddegawd maent wedi gorfod ceisio canfod safle newydd iddynt eu hunain mewn gwlad sy’n brin o’r cysylltiadau brenhinol traddodiadol. Wrth reswm, mae yna waddol o gefnogaeth gyhoeddus i adeiladu arno, yn enwedig ymysg y to hŷn. Ond dyma hefyd y to sydd â’r lleiaf o ddiddordeb mewn datganoli ac esblygiad Cymru wahanol. Gyda golwg ar ddyfodol hirdymor y Goron fel sefydliad yng Nghymru, y gamp ydi codi pontydd at y to iau. Byddai’n hynny grym gamp hyd yn oed pe na bai’r Frenhines a’i hetifedd yn heneiddio a’r aflan Andrew yn heintio’r holl sefydliad. Ond dan yr amgylchiadau sydd ohoni, fe ymddengys yn amhosibl.

Camgymeriad felly yw credu mai dim ond y fi a’m tebyg sy’n cael y seremonïau i ddynodi agoriad swyddogol Senedd Cymru yn chwithig. Yn hytrach, pan ddaw cynrychiolwyr pwysicaf y wladwriaeth i ymweld â’r Senedd, dichon fod y profiad yr un mor chwithig iddynt hwy ag ydyw i rai o gefnogwyr selocaf ymreolaeth Gymreig. Yn wir, hyd y gwelaf, mae’r ddwy ochr yn delio â’r chwithdod yn yr un modd hefyd. Trwy fod yn wengar a diplomataidd-ddoeth gydol y seremoni cyn anghofio am ei gilydd i raddau helaeth iawn tan y tro nesaf.

Richard Wyn Jones
Tachwedd 2021