Yn ôl at ein coed

Gwyneth Glyn
Darllen am ddim

Pan symudodd fy rhieni a’m chwiorydd i’r Hen Reithordy, Llanarmon, tua chanol y 1970au, mi holodd fy mam un o’r cymdogion pwy oedd yn byw yn y ffarm dros y ffordd. ‘’Dwn ’im’ oedd yr ateb; ‘tydan ni ddim yn g’neud rhyw lawar efo pobol Llŷn!’ A dyma ddysgu eu bod wedi ymgartrefu dafliad carreg o’r ffin rhwng Llŷn ac Eifionydd.

Mi fyddwn i’n croesi’r ffin honno, sef afon Erch, bob dydd i fynd i’r ysgol. A ’nhad (yr actor Grey Evans) i ffwrdd yn bur aml ar daith neu yn ffilmio, callach oedd i mi ganlyn fy mam i’r ysgol lle’r oedd hi’n dysgu, yn hytrach na mynd i’r ysgol leol yn Chwilog neu Langybi. I ffwrdd â ni ein dwy bob dydd yn y Beetle bach glas drwy’r Ffôr a Rhos-fawr, heibio Fron, Pant-yr-hwch, Tan-y-graig a Bryncynan, nes cyrraedd tre’r penwaig arian – Nefyn.

Byddem yn troedio ffin arall ar y siwrnai honno; ffin gyfrin, annelwig byd dychymyg. Byddai’r daith ddyddiol yn troi’n antur wrth ddychmygu mai Bwthyn y Tair Arth oedd y bwthyn-llwyni-rhosod ar ymyl y lôn, ac mai hen wrach oedd yn byw yn yr adfail tywyll yng nghysgod y coed.

Tydi’r ffin honno byth ymhell pan ydach chi’n cael eich magu ym mro Eifionydd, lle mae ‘blas y cynfyd yn aros fel hen win’. Mae ddoe a heddiw yn gwau trwy’i gilydd yma. I mi, mae Ffynnon Gybi yn dal i iacháu cleifion â’i dyfroedd sanctaidd. Mae Gwrach y Widdan yn dal i lechu mewn rhyw hafn fwsoglyd ar lan afon Dwyfor. Ac onid ydi carreg Grasi yn dal i sefyll yn un o gaeau Glasfryn? Grasi – y ferch a esgeulusodd ei dyletswydd o warchod y ffynnon ger Pencaenewydd, ac a welodd ei chartref a’i chymdogaeth yn cael eu boddi o flaen ei llygaid.

Llif o fath gwahanol welwn ni’n codi drwy bentrefi Eifionydd bellach, a ninnau heb fawr o rym i’w atal, fwy nag oedd gan Grasi. Ond mi allwn ni – mae’n rhaid inni – warchod y trysorau sy’n weddill: ein hanes, ein hanian, ein chwedloniaeth a’n caneuon. Dyna wyrth y bwrlwm o ddiwylliant cynhenid sy’n dal i ffynnu yn yr ardal hon hyd heddiw, yn gorau a chymdeithasau a chlybiau Ffermwyr Ifanc, yn gylchoedd hanes a llenyddiaeth ac eisteddfodau lleol, yn wyliau a gigs gorlawn mewn tafarndai cymunedol fel Tafarn y Plu, Llanystumdwy a’r Madryn, Chwilog (enillydd gwobr Tafarn Wledig y Flwyddyn, cofiwch!).

Os ydi Eifionydd wedi bod yn grud i feirdd a dramodwyr, mae Llŷn wedi meithrin llenorion tan gamp hefyd. Gormod o lawer i’w henwi yma. Rydw i’n sicr na fyddwn innau’n gwneud fy mywoliaeth o ysgrifennu a chanu heddiw oni bai am yr athrawon ysbrydoledig a’m tywysodd i, o Ysgol Sul Pencaenewydd i Ysgol Nefyn, Ysgol Glan y Môr Pwllheli a Choleg Meirion Dwyfor. Dyma’r bobol a roddodd yr anogaeth a’r hyder imi; rhoddion amhrisiadwy i unrhyw egin awdur (ynghyd â llonydd gorffenedig!).

Onid y cyfuniad yma o bobol, diwylliant a thirwedd ydi gwead ein Cymru ni? Ac onid dyna, yn ei hanfod, ydi’r Eisteddfod? Cyfle i ddathlu ein hunaniaeth, yn ein mamiaith, ar lecyn o dir y gallwn ni i gyd ei alw’n ‘adra’ am wythnos. Cyfle i roi ffiniau bob dydd – de a gogledd, gwlad a thref, (Llŷn ac Eifionydd!) – o’r neilltu, a bodoli fel un genedl gytûn am ysbaid euraid, ogoneddus, a ddaw â ni i gyd yn ôl at ein coed:

  Mi af oddi yma i Lanarmon
  Lle mae fy myd mor grwn ag erioed,
  Lle nad oes galar yn y galon,
  Dim ond yr adar mân a’u cân yn y coed.

Gwyneth Glyn
Gorffennaf 2023 i Awst 2023