Yr Etholiad Cyffredinol Prydeinig yng Nghymru

Map o Gymru yn dilyn etholiad 2019
Darllen am ddim

Fydd dim rhaid galw’r etholiad nesaf tan 17 Rhagfyr 2024, ond pryd bynnag y’i cynhelir caiff ei ymladd dan amgylchiadau newydd sbon yng Nghymru. Bydd y gostyngiad o 20% yn nifer ein hetholaethau yn cael cryn effaith ar y map gwleidyddol. Ond nid dyna’r ystyriaeth bennaf ym mhob etholaeth.

Wrth reswm, bydd y Torïaid mwyaf enwadol ac unllygeidiog – neu’r rheini sy’n cael eu gwahodd i eistedd ar soffa wyrddlas Y Byd yn ei Le – am geisio gwadu’r peth. Ond i bawb arall mae’n gwbl amlwg fod y llywodraeth Brydeinig bresennol wedi hen redeg allan o stêm. Oedd, roedd Rishi Sunak yn wynebu talcen caled wrth geisio olynu dau brif weinidog mor annigonol. Serch hynny, roedd gennym hawl i ddisgwyl gwell na’r hyn a gafwyd. Hyd yn oed o’i gymharu â llygredd a diffyg cyfeiriad cyfnod Boris Johnson a gwallgofrwydd ennyd fechan Liz Truss, mae Sunak wedi profi’n arweinydd rhyfeddol o ddi‑glem.

Y partïo gwyllt yn Downing Street tra oedd y gweddill ohonom yn ceisio ufuddhau i’r rheolau a grëwyd yn yr union adeilad hwnnw fydd, yn bendifaddau, yn diffinio teyrnasiad y cyntaf o’r drindod. Bob tro y byddwn yn dwyn i gof gwta fis a hanner yr ail wrth y llyw, dichon y cawn ein hatgoffa am y chwalfa a grëwyd gan y gyllideb fwyaf trychinebus yn hanes modern y wladwriaeth hon. Amser a ddengys beth fydd flaenaf yn y cof wrth ystyried cyfnod y prif weinidog presennol. Eto i gyd, mae’n anodd credu na fydd ei araith gerbron cynhadledd flynyddol ei blaid ym Manceinion ddechrau Hydref 2023 yn cael lle canolog.

Dyma’r araith lle cyhoeddodd Sunak na fydd rheilffordd gyflym newydd yn cael ei hadeiladu rhwng Birmingham a Manceinion wedi’r cyfan, penderfyniad sydd ynddo’i hun yn sicrhau bod yna bellach gannoedd o filiynau o bunnoedd o wariant wedi profi’n gwbl ofer. Ar y pryd, cyfiawnhad y Prif Weinidog dros wneud penderfyniad o’r fath oedd y byddai hyn yn rhyddhau adnoddau ar gyfer cynlluniau trafnidiaeth newydd cyffrous ar gyfer gogledd Lloegr a hyd yn oed – a’n gwaredo – gogledd Cymru. Ond o fewn ychydig oriau’n unig, fe ddaeth hi’n amlwg fod rhai o’r cynlluniau arfaethedig heb eu costio (gan gynnwys, wrth reswm, yr elfen Gymreig) a bod eraill wedi eu cwblhau’n barod.

Pe na bai hyn oll yn ddigon i arddangos i’r byd a’r betws nad oes gan Sunak na’r weledigaeth na’r gafael angenrheidiol ar fanylion polisi i fod yn brif weinidog llwyddiannus, yna roedd diffyg crebwyll gwleidyddol yr holl broses yn cadarnhau’r peth. Gan fod achlust o’i fwriad i ddileu’r cam pwysicaf o gynllun HS2 wedi cyrraedd y cyfryngau, collwyd y cyfle i ddefnyddio’r gynhadledd flynyddol i geisio cyflwyno gwedd newydd ar ei arweinyddiaeth. Dyfodol y cynllun oedd yr unig gwestiwn ar wefusau’r sylwebwyr o ddechrau hyd ddiwedd y gynhadledd. Yn wir, wrth i’r cynlluniau amgen ddadfeilio gerbron ein llygaid yn yr oriau a’r dyddiau ar ôl ei araith, fe gadarnhawyd y canfyddiad fod Sunak yn bell, bell allan o’i ddyfnder yn ei bwysig, arswydus swydd.

Ysywaeth, er bod yr ysgrifen ar y mur i’r llywodraeth y mae’n ceisio ei harwain – a’r ysgrifen honno wedi ei pheintio mewn print bras a llachar – fe fydd yn rhygnu byw am beth amser eto. O graffu ar yr amserlen ddefnyddiol a gyhoeddwyd gan yr Institute for Government, bydd yn rhaid galw’r etholiad erbyn 17 Rhagfyr 2024, sef pumed pen‑blwydd buddugoliaeth fawr Johnson yn 2019. Mae hyn yn ei dro yn golygu mai’r diwrnod olaf ar gyfer cynnal yr etholiad cyffredinol nesaf ydi 28 Ionawr 2025 (gyda’r dydd Iau blaenorol, 23 Ionawr, yn opsiwn mwy tebygol).

Y gred gyffredinol yw bod Sunak yn annhebygol o’n gorfodi ni i gyd i dreulio Nadolig 2024 dan gysgod ymgyrch etholiadol. Dwn i ddim am hynny, a bod yn onest. Mae yna hen draddodiad o lywodraethau Prydeinig sy’n wynebu crasfa etholiadol yn disgwyl tan yr eiliad olaf un cyn galw etholiad, a hynny yn y gobaith y bydd rhywbeth (unrhyw beth!) yn codi a all gynnig achubiaeth. Ond ta waeth am hynny, gadewch i ni gymryd bod y rheini sy’n darogan etholiad yn hydref 2024 yn gywir. Os felly, oes bobl, mae blwyddyn arall o hyn yn ein disgwyl…

Pryd bynnag y daw, bydd gwedd Gymreig yr etholiad nesaf yn wahanol iawn i’r hyn yr ydym wedi arfer ag o, a hynny yn sgil gostyngiad sylweddol iawn o 40 i 32 yn nifer yr etholaethau Cymreig fel rhan o broses o gysoni maint etholaethau ar draws y wladwriaeth. Wrth reswm, mae gostyngiad o 20% yn nifer yr etholaethau Cymreig yn golygu yn ei dro newid radical iawn yn eu ffiniau – o leiaf ym mhob man y tu hwnt i lannau Ynys Môn. Cyhoeddwyd y ffiniau terfynol gan y Comisiwn Ffiniau ddiwedd Mehefin. Byth ers hynny bu’r pleidiau gwleidyddol yn ceisio eu gorau glas i ddadansoddi’r goblygiadau.

Nid y pleidiau gwleidyddol yn unig sydd wrthi, wrth gwrs. Felly hefyd ni’r ysgolheigion! Er mwyn ein cynorthwyo i ddeall y tirlun etholiadol cwbl newydd sy’n ein hwynebu mae fy nghyd‑weithiwr galluog Jac Larner wedi llunio model MRP o’r etholaethau newydd. Maddeuwch i mi am beidio â cheisio egluro’r model yma – efallai y byddwch yn deall pam pan glywch fod MRP yn dalfyriad o Multi‑level regression with post‑stratification. Mae croeso i unrhyw un sydd am wybod mwy fynd i chwilota. Yr hyn sy’n bwysig i’r perwyl presennol yw bod gan fodelau o’r fath record arbennig o dda o ddarogan canlyniadau etholiadau diweddar ym Mhrydain.

Dyma atgynhyrchu dau fap sy’n dangos canlyniadau’r gwaith modelu. Mae’r cyntaf yn dangos amcangyfrif Jac o ganlyniad etholiad cyffredinol 2019 petai wedi cael ei gynnal ar y ffiniau newydd. Er mai Llafur oedd y blaid fwyaf, os oedd angen cadarnhad pellach o ba mor eithriadol o dda oedd perfformiad y Ceidwadwyr yng Nghymru gwta bedair blynedd yn ôl, yna dyma fo. Noder yn arbennig yr amcangyfrif y byddai’r Ceidwadwyr wedi cipio’r Gaerfyrddin newydd gan olygu mai dwy etholaeth yn unig a fyddai ym meddiant Plaid Cymru.

Mae’r ail fap yn dangos amcangyfrif y model o’r canlyniad petai etholiad yn cael ei gynnal yn awr, a hynny ar sail canlyniadau’r arolwg barn diweddaraf i gael ei wneud ar ran ITV Cymru a Chanolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd.

Mae’r newid ers 2019 yn ddramatig gyda’r glas wedi diflannu bron yn gyfan gwbl. Dim ond etholaeth Brycheiniog, Maesyfed a Chwm Tawe sy’n parhau yng nghorlan y Torïaid a hynny, noder, o ychydig gannoedd o bleidleisiau yn unig. Mae’n parhau’n bosib y gwelwn ailadrodd canlyniadau etholiadau cyffredinol 1997 a 2001 pan fethodd y Ceidwadwyr â chipio unrhyw sedd yng Nghymru.

Mae dau bwynt pellach i’w nodi cyn cloi, un cyffredinol ac un penodol iawn.

A siarad yn gyffredinol, os oes unrhyw obaith o gwbl i’r Ceidwadwyr, yna’r dryswch a all gael ei greu gan y ffiniau newydd yw hwnnw. Yn y seddau (prin) hynny lle gellir dadlau bod tair plaid yn gystadleuol – Brycheiniog, Maesyfed a Chwm Tawe yn un ohonynt, ond hefyd Ynys Môn a Threfaldwyn a Glyndŵr – mae posibiliad real y gall y bleidlais wrth‑Dorïaidd hollti oherwydd nad yw’n eglur i ba ymgeisydd arall y dylid pleidleisio yng nghyd‑destun y ddaearyddiaeth etholiadol newydd.

Mae’r amgylchiadau yng Nghaerfyrddin yn dra gwahanol. Fel y gwelwch, mae’r model yn awgrymu mai Plaid Cymru ddylai ennill yno. Ond yn amlwg, pa mor soffistigedig bynnag y bo, nid yw model mathemategol yn gallu cymryd i ystyriaeth drafferthion mewnol y Blaid yn yr etholaeth honno.

Erbyn hyn, mae darogan cyffredinol y bydd Aelod Seneddol presennol Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, Jonathan Edwards, yn sefyll fel ymgeisydd annibynnol. Canlyniad anorfod hynny, wrth gwrs, yw na fydd gobaith gan Blaid Cymru o ennill y sedd. Yn wir, gan ei bod yn ymddangos bod nifer o gynghorwyr lleol Plaid Cymru yn benderfynol o gefnogi ei ymgeisyddiaeth, mae’n debygol y gwelwn nifer ohonynt yn cael eu diarddel o’r Blaid. Bydd hynny yn ei dro yn peryglu ei rheolaeth ar y cyngor sir.

Wrth gwrs, gobaith Jonathan Edwards a’i gefnogwyr yw y gall efelychu camp S.O. Davies ym Merthyr Tudful yn etholiad cyffredinol 1970 ac ennill hyd yn oed yn nannedd gwrthwynebiad ei gyn‑blaid. Ond â phob dyledus barch mae hynny’n annhebygol iawn. Mae enghraifft S.O. Davies yn nodedig oherwydd ei fod mor eithriadol. Y gwir amdani yw bod anhrefn mewnol Plaid Cymru yng Nghaerfyrddin yn newyddion rhagorol i’r Blaid Lafur. Wrth gwrs, gyda blwyddyn a mwy (o bosib) cyn yr etholiad, mae digon o amser i ganfod datrysiad. Ond er bod cymaint yn y fantol, gydag agweddau ar y ddwy ochr wedi ymgaregu, ymddengys na fydd cymodi. Byddwch yn barod i ychwanegu hyd yn oed mwy o goch at y map.

Richard Wyn Jones
Tachwedd 2023