Datganiad Preifatrwydd: Diweddariad Mai 2018
Mae Cyhoeddiadau Barn Cyf wedi'i gofrestru o dan y Ddeddf Gwarchod Data ac rydym yn ymrwymo i gydymffurfio â Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol yr UE er mwyn gwarchod eich preifatrwydd a chadw unrhyw wybodaeth a dderbyniwn gennych yn ddiogel.
Mae Barn yn cadw gwybodaeth am ein tanysgrifwyr. Cadwn y manylion canlynol:
- Enw a Chyfeiriad
- E-bost (ar gyfer y rhai sy’n dymuno cael mynediad llawn i wefan www.barn.cymru) a chyfrinair cysylltiedig
- Rhif ffôn (dewisol)
- Manylion banc. Os ydych yn dewis tanysgrifio drwy daliad banc uniongyrchol neu archeb sefydlog mae cofnod gennym o enw’r banc, cyfeiriad y gangen, enw’r cyfrif, rhif didoli a rhif y cyfrif.
Os ydych yn tanysgrifio trwy Paypal bydd polisi preifatrwydd y corff hwnnw yn berthnasol.
Mae Barn hefyd yn cadw cyfeiriadau cartref cyfranwyr i’r cylchgrawn er mwyn anfon rhifynnau atynt. Gallant ddewis darparu eu rhifau ffôn, cyfeiriad e-bost a manylion banc ar gyfer tâl.
Y defnydd a wnawn o’r wybodaeth:
Defnyddir y wybodaeth am danysgrifwyr er mwyn sefydlu a chynnal tanysgrifiad yr unigolion hynny ac er mwyn postio'r cylchgrawn atynt a/neu roi mynediad llawn iddynt i'r wefan.
Byddwn yn defnyddio cyfeiriadau i ddadansoddi dosbarthiad daearyddol ein tanysgrifwyr er mwyn dod i adnabod ein cynulleidfa yn well ac i hyrwyddo’r cylchgrawn.
Nid ydym yn gwerthu nac yn rhannu nac yn cyfnewid ein data am danysgrifwyr gyda neb arall.
Gwirio
Mae croeso i chi gysylltu â ni ar unrhyw adeg i wirio’r wybodaeth a gedwir gennym amdanoch ac i ofyn i ni gywiro neu ddiwygio yn ôl yr angen.
Ein defnydd o gwcis
Ffeiliau testun bychain a gedwir ar eich cyfrifiadur wrth i chi ymweld â rhai gwefannau yw 'cwcis'. Defnyddiwn gwcis er cymorth i adnabod eich cyfrifiadur er mwyn gwella eich profiad fel defnyddiwr, cadw llygad ar gynnwys eich basged siopa a chofio ble yr ydych arni yn y broses archebu. Mae modd i chi analluogi cwcis and gallai hyn amharu ar allu ein gwefan i weithredu'n llawn.
Bydd y wefan hon:
- yn cofio beth sydd yn eich basged siopa
- ble yr ych chi arni yn y broses archebu
- yn cofio eich bod wedi logio i mewn a bod eich sesiwn yn ddiogel. Mae gofyn eich bod wedi logio i mewn er mwyn cwblhau archeb.