…a dyma ragflas bach. Darllenwch sylwadau Prys Morgan am gyfnod ei frawd Rhodri y Brif Weinidog ac ysgrif Ioan Roberts am ddeffro Cymreig annisgwyl yn y gogledd-ddwyrain. Beca Brown sy’n gofyn beth yw ‘Cymry Go Iawn’ a chawn golofn deledu newydd gan Sioned Williams. Gofid yw gorfod coffáu rhai a gyfrannodd gymaint i’n diwylliant, gan gynnwys Hywel Teifi Edwards, Dafydd Whittall ac Angharad Jones. Am fersiwn lawn o’r deyrnged i Angharad sydd yn y cylchgrawn, ewch i’r ddewislen uchod, dewis ‘O’r Cylchgrawn Cyfredol’, a chlicio ‘Erthyglau’.
Dot Davies
Dair blynedd ar ôl rhoi’r gorau iddi, mi fydd Michael Schumacher yn dychwelyd fel rhan o dîm Mercedes Grand Prix, ac yntau’n 41 erbyn i’r tymor gychwyn. Mae’r ffaith fod y newyddion yma wedi creu cymaint o gyffro yn dweud cyfrolau am gyflwr presennol Fformiwla Un a’r angen am ychydig o gyffro. Ynghanol yr holl ddathlu mae pawb wedi anghofio’r cyfnod pan oedd Schumacher yn ennill y bencampwriaeth bob blwyddyn. Ras. Ennill. Ras. Ennill. Pencampwriaeth arall. Saith i gyd. Diflas, diflas, diflas. Yn enwedig yn 2002 a 2004, pan enillodd Schumacher a Rubens Barrichello 30 o’r 35 ras dros dîm Ferrari. Mi fyddai wedi bod dipyn haws, ac yn well i’r amgylchedd, rhoi’r tlysau i Schumacher ar ddechrau’r tymor a pheidio trafferthu rasio. Ond dyna ni, dair blynedd yn ddiweddarach, ac yn bwysicach, un dirwasgiad bydeang yn ddiweddarach, yn sydyn reit Schumacher yw’r arwr. Oni bai amdano fe mi fyddai tymor 2010 yn un arall i’w anghofio. Toyota, BMW a Honda wedi mynd, diolch i’r economi a’r ffaith fod Fformiwla Un wedi gwrthod cwtogi ar y costau, ac mai mewn enw yn unig y bydd Renault yno. Mae ’na dîmau newydd yn cymryd eu lle ond go brin y byddan nhw’n dod yn agos at gystadlu gyda Ferrari, McLaren a Mercedes.