Ymateb Gwion Lewis a Dafydd Glyn Jones i’r Strategaeth Iaith newydd… Ned Thomas a chadoediad ETA… John Pierce Jones ar ymweliad dirdynnol â Haiti, flwyddyn ar ôl y daeargryn… Ffion Dafis a’i hoff stafell… Angharad Tomos ac un o’i hoff gaffis… Hefin Wyn ar gyngerdd ffarwel Meic Stevens… Colofn chwaraeon newydd gan neb llai na Derec Llwyd Morgan a cholofn win gan Shôn Williams… Chris Cope yn datgelu pam y mae “yma o hyd”… A llawer iawn mwy mewn rhifyn gorlawn arall.
Sioned Williams
Beth sydd gan raglenni diweddar a chyfresi newydd i’w gynnig?
Fel sy’n arferol, mae ’na ryw naws newydd wedi troad y flwyddyn. Wedi cyfnod o amnesia ac argyfwng hunaniaeth mae S4C wedi datgan yn hyderus mai’r Sianel yw ‘Calon Cenedl’ wrth ein hannog i wylio cyfresi newydd 2011. Cawn edrych ymlaen hefyd at law newydd ar lyw Awdurdod S4C i sicrhau bod ymrwymiad ymddangosiadol Mark Thompson i annibyniaeth angenrheidiol y Sianel yn fwy na rhethreg ddi-sail. Er bod dechrau newydd yn beth iach, yn creu awyrgylch positif ac adeiladol, rhaid peidio â sgubo pob cysgod o’r golwg. Ceisio gwneud y gorau o’r gwaetha’ yw’r broses hon ac mae’r diffyg sicrwydd ynghylch dyfodol hirdymor S4C yn gwmwl uwchben y trafodaethau oll.