Ydi, mae rhifyn Chwefror wedi cyrraedd ac yn llawn o'r amrywiaeth flasus arferol. Ym myd y cyfryngau, mae Dyfrig Jones a Gwilym Morus yn rhoi dwy ochr i stori brwydr chwerw Eos yn erbyn y BBC, Sioned Wiliam yn croesawu doniolwch ar S4C (gan gynnwys ebychiadau'r ddihafal Ffion Carlton-Lewis), Elin Llwyd Morgan yn dweud fod Y Gwyll yn well yn Saesneg, a Beca Brown yn amddiffyn rhaglen ddadleuol Channel Four, Benefits Street; heb anghofio atgofion am Wyn Roberts y darlledwr gan Euryn Ogwen Williams yn ein coffâd i'r Arglwydd Roberts o Gonwy. Y tywydd mawr yw pwnc Mike Parker, neu'n hytrach ein hymateb diweledigaeth i'w effeithiau, tra mae Dafydd Fôn Williams yn edrych ar safle isel Cymru yn nhablau PISA. Trafod bygythiad o du Ewrop i gig Cymru y mae Dafydd ab Iago, ac mae Will Patterson, yn ei golofn gyntaf 'O'r Alban' ym mlwyddyn y refferendwm ar annibyniaeth, yn gweld pethau'n dechrau poethi yno. Am hyn oll a mwy, mynnwch gopi.
Vaughan Hughes
Dwi ddim yn credu y byddai neb yn disgwyl i ganmlwyddiant cychwyn y Rhyfel Byd Cyntaf gael ei anwybyddu. Yn wir cytunai’r militarydd a’r heddychwr ei bod yn ddyletswydd arnom i gofio’r fath gyflafan a’r fath aberth. A chofio ydi’r gair allweddol. Yn sicr nid dathlu. Dyna a ddywedai ambell ohebydd a darllenydd newyddion Cymraeg anystyriol pan ddechreuodd llywodraethau’r ynysoedd hyn drafod sut y dylid mynd ati drwy gydol 2014 i nodi cychwyn y Rhyfel Mawr. Anweddus – na, gwaeth na hynny, annynol – fyddai peidio cofio rhyfel melltigedig a hawliodd, yn ôl yr Encyclopedia Britannica, 9,750,103 o fywydau. (Sut ar wyneb y ddaear y gallai neb fentro bod mor gysáct â hynny sy’n ddirgelwch.)