Nos Galan, sleifiodd cysgod o anniddigrwydd drosta’i.
Roedd band y cymar yn chwarae yng Nghlwb Golff y Bala, a Joel a minnau adre.
‘Dwi wedi cael llond bol ar y mynd allan ar wahân ’ma o hyd,’ meddai’r cymar cyn gadael, gan adleisio fy nheimladau (mud) innau. Ond er bod Joel yn ddeunaw oed, dyna sy’n rhaid i ni ei wneud y rhan fwyaf o’r amser gan na fedrwn ei adael adre ar ei ben ei hun.
Chwefror 2015 / Rhifyn 625

Lledu adenydd

Alun ‘Sbardun’ Huws (1948–2014)
I aralleirio hen ddywediad: ‘Fe allwch chi dynnu’r bachgen allan o’r Penrhyn, ond wnewch chi fyth dynnu’r Penrhyn allan o’r bachgen’. Hogyn o Benrhyndeudraeth oedd Alun ‘Sbardun’ Huws a ddaeth i’r amlwg gyntaf gyda’r Tebot Piws yn niwedd y 1960au – cerddor a chyfansoddwr sy’n gadael rhai o ganeuon pop mwyaf adnabyddus a hyfrytaf y Gymraeg ar ei ôl.

Pobl yr ymylon
Mewn arddangosfa yn Arberth ar hyn o bryd mae modd gweld portreadau o aelodau’r gymuned Romani yn Hwngari, gwaith yr artistiaid Tina Carr ac Annemarie Schöne a dreuliodd flynyddoedd yn ymchwilio i fywydau’r sipsiwn a’u diwylliant. Daeth nifer fawr i’r agoriad lle y lansiwyd eu cyfrol swmpus From the Horse’s Mouth (sy’n cynnwys nifer fawr o’r ffotograffau), i weld y gwaith, ac i wrando ar y dihafal Osi Rhys Osmond yn annerch wrth agor y sioe.

Gwersi’r Alban
Rhagwelir yma y bydd undod y wladwriaeth Brydeinig yn dod dan ragor a rhagor o straen yn y blynyddoedd nesaf. Ac fe ddaw trigolion Lloegr i sylweddoli nad yr un peth yw Seisnigrwydd a Phrydeindod.
Mae dyn yn parhau i synnu pa mor gyflym y mae’r refferendwm a’r cynnwrf aruthrol a welwyd yn yr Alban wedi eu bwrw o’r neilltu ym meddyliau’r dosbarth gwleidyddol Prydeinig. O ddarllen, gwylio a gwrando ar y cyfryngau prif-lif Seisnigedig, byddai’n ddigon hawdd anghofio nad oes chwe mis ers i filiwn o hanner o’n cyd-ddinasyddion bleidleisio i adael yr hyn y mae ei chefnogwyr yn ei chlochdar-ddisgrifio fel yr ‘undeb wleidyddol fwyaf llwyddiannus mewn hanes’.

Pa beth yw alltud?
Mae darllen cyfrol newydd sy’n adrodd hanes capeli Cymraeg Llundain wedi peri i awdur yr erthygl hon fyfyrio am Gymry alltud yn gyffredinol.
Mae llyfr Huw Edwards, City Mission: The Story of London’s Welsh Chapels, yn gyfraniad nodedig i astudiaethau crefyddol ac ethnig yn Llundain. Ac am mai hanes Lloegr yw hanes y gymuned grefyddol Gymraeg yn Llundain, nid wyf yn gwarafun i Huw Edwards fod ei berorasiwn mewn Saesneg. O leiaf mae Saesneg Huw Edwards yn groyw.

Nid yn Fy Enw I!
Gallwn ddisgwyl ymosodiad terfysgol gwaedlyd rywle yng ngwledydd Prydain. Ac mae hynny’n ‘swyddogol’. Mae’r Jihadwyr yn Yemen a oedd yn gyfrifol am gyflafan Paris wedi datgan fod Prydain yn fwy o ‘flaenoriaeth’ na Ffrainc. Dyna barodd i bennaeth MI5 ddatgan yn glir ei fod yn disgwyl i rywbeth ddigwydd. Oes modd osgoi hynny? Oes yna ateb?
Oes, ac mae hanner yr ateb yn ymwneud â’n hagwedd ni tuag at Islam. Mae’r hanner arall yn ddibynnol ar agwedd Islam tuag at y Jihadwyr.