Chwefror 2016 / Rhifyn 637

Cofi Mac

Un o’r pethau sy’n llonni fy nghalon ydi mynd i McDonald’s Caernarfon i nôl coffi. Nid ei fod o’n goffi arbennig o wych – i’r gwrthwyneb a dweud y gwir – ond naw gwaith allan o bob deg mi ga’i ’nghyfarch efo ‘Ga’i gymyd ordor chi plîs?’. Hynny yw, mae’r rhai sy’n gweini yn McDonald’s Caernarfon yn dechrau pob sgwrs yn Gymraeg.

Beca Brown
Mwy
Cwrs y byd

Beth nesaf i Bort Talbot?

Chawn ddim canu ‘Draw draw yn Tsieina’ erbyn hyn. Penderfynwyd bod y geiriau’n ansensitif. Ansensitif hefyd yw’r hyn mae Tsieina’n ei wneud i ddiwydiant dur Ewrop drwy foddi’r farchnad efo dur rhad. Rydan ni’n barod i gwyno mai Cymru sy’n dioddef gyntaf bob tro y bydd cwmni mawr yn gorfod cau gweithfeydd. Ond yn achos gwaith dur yr Abbey ym Mhort Talbot, nid dyna’r sefyllfa.

Vaughan Hughes
Mwy

Gwrthryfel y Pasg

Wrth i ganmlwyddiant Pasg 1916 agosáu cafwyd deuoliaeth yn y modd yr aed ati i gofio gwrthryfel a ddigwyddodd pan oedd y Rhyfel Mawr ar ei fwyaf gwaedlyd.
Mewn gwlad lle mae cofio’r gorffennol yn bwysig bydd 2016 yn ddiddorol. Mae gennym ganmlwyddiant digwyddiad mwyaf symbolaidd hanes annibyniaeth Iwerddon, sef Gwrthryfel y Pasg 1916, a bron ar yr un pryd mae gennym etholiad cyffredinol.

Bethan Kilfoil
Mwy
Dei Fôn sy’n dweud

Yr ifanc unllygeidiog

Efallai mai cywirdeb gwleidyddol wedi mynd yn rhy bell sydd y tu ôl i anoddefgarwch rhai myfyrwyr o safbwyntiau pobl eraill, ond mae’n duedd beryglus, meddai ein colofnydd.
‘Yr hen a ŵyr, yr ifanc a dybia.’ Dyna ichi hen air sy’n chwalu’n chwilfriw y goel mai gwir pob dihareb.
... Dydi nifer o fyfyrwyr ifainc heddiw ddim yn ein siomi gyda’u hunllygeidrwydd. Y pryder yw eu bod hwy am nacáu i eraill weld y byd trwy’r llygad arall, ac, yn sicr, am wrthod iddynt feiddio mynegi beth a welant drwyddi.

Dafydd Fôn Williams
Mwy

Y brwsh dannedd dieflig

Y noson cyn i fywyd ddychwelyd i ryw fath o normalrwydd ar ôl gwyliau’r Nadolig, mi ges i ffeit efo brwsh dannedd trydan. Noson, meddwn i, ond mewn gwirionedd roedd hi’n tynnu am dri o’r gloch y bore a minnau ond wedi bod ynghwsg am ryw hanner awr. Dyna batrwm pethau yr adeg yna o’r flwyddyn i mi – codi’n hwyr a mynd i gysgu’n hwyr.

Elin Llwyd Morgan
Mwy
Cyfweliad Barn

Dal i herio’r drefn: Holi Gareth Miles

Mae’r awdur o Bontypridd newydd gyhoeddi ei nawfed nofel a bydd ei waith diweddaraf, Chwalfa, i’w weld ym Mangor y mis hwn. Bu’n sôn wrth Barn am yr hyn sy’n ei ysbrydoli.
Efallai nad caffi John Lewis yw’r lle y byddech yn disgwyl i Gomiwnydd fel Gareth Miles eich cyfarfod am gyfweliad. Mentraf awgrymu hynny wrtho ac mae’n esgus ffromi: ‘Be oeddach chi’n ddisgwyl, imi gynnig cyfarfod mewn rhyw dwll o dafarn?’

Menna Baines
Mwy
Materion y mis

Ewro 2016 – Allez les Gallois!

I ffans pêl-droed Cymru, roedd hi’n Ddolig o sticeri Panini a mapiau o Ffrainc. Amseroedd fferis a llwybrau’r TGV. Campyrfans a hynt hosteli ac ymholiadau Airbnb. Ac o’r naill ben o Gymru i’r llall, ceisiadau rif y gwlith am fis Mehefin i ffwrdd o’r gwaith. Oherwydd ar 12 Rhagfyr daeth presenoldeb tîm Chris Coleman yn Ewro 2016 yn realiti byw.

Rhys Iorwerth
Mwy