Rwy’n ysgrifennu’r llith hwn ar 17 Ionawr, diwrnod ymgynnull a sefydlu Senedd newydd Catalwnia a etholwyd ar 21 Rhagfyr 2017. Dros y pedwar mis diwethaf gwelwyd ar strydoedd y wlad honno ymgyrchu torfol ac arwrol dros ddemocratiaeth, y drefn amherffaith ond anhepgor honno y mae gweddill Ewrop heddiw yn ei chymryd yn ganiataol. Nid arwriaeth mudiadau chwyldroadol yr 20g. a gafwyd, gyda’u gobeithion iwtopaidd a’u haberth gwaedlyd, y math a brofodd George Orwell ar strydoedd Barcelona yn 1937, eithr arwriaeth gadarn ond heddychlon, fodern, ddyfeisgar a llawn asbri. Chwyldro a gwên ar ei wyneb. Dynion tân, cynghorwyr bro a thref, dinasyddion da o bob cefndir yn amddiffyn y bythau pleidleisio yn ddi-drais yn erbyn ymosodiadau treisgar y Guardia Civil.
Ond o heddiw ymlaen mae llwyfan a chywair y ddrama’n newid. Os dilynir y drefn arferol gallwn ddisgwyl gweld urddo arlywydd newydd erbyn i’r rhifyn hwn o Barn weld golau dydd a’r person hwnnw’n barod i arwain llywodraeth glymblaid ac iddi raglen waith benodol. Dyna’r adeg hefyd y bydd y pwerau a atafaelwyd gan Madrid fis Hydref diwethaf yn dychwelyd i Barcelona. Ond os methir cytuno ar y trefniadau mewn pryd, bydd y cloc yn tician ar gyfer etholiad arall.
Prif Weinidog Sbaen, Mariano Rajoy, a ddefnyddiodd ei bwerau dros dro i orfodi etholiad. Ei obaith oedd ailsefydlu ‘normalrwydd’, sef y drefn flaenorol o senedd ranbarthol, ond gyda mwyafrif unoliaethol. Mae yn agos i hanner yr aelodau seneddol yn gorfod credu mai corff rhanbarthol o’r fath sydd heddiw’n ymgynnull, ond maen nhw yn y lleiafrif o ryw ychydig. Fel y gwyddom, cryfhau mandad y pleidiau sydd o blaid annibyniaeth (tair ohonynt i gyd) a wnaeth yr etholiad. Iddyn nhw, dyma Senedd y Weriniaeth annibynnol a gyhoeddwyd gyntaf yn syth wedi refferendwm 1 Hydref. Nhw sydd yn y mwyafrif a’u bwriad fydd dangos parhad y weriniaeth honno drwy ethol yr union Arlywydd a gyhoeddodd annibyniaeth, sef Carles Puigdemont.