Mae enghreifftiau o waith yr amryddawn Jonah Jones, y mae’n ganmlwyddiant ei eni eleni, i’w gweld ar hyd a lled Cymru a thu hwnt. Ei gerfluniau a’i gofebau cyhoeddus yw ei waith mwyaf cyfarwydd, ond fe’i cofir hefyd am ei waith llythrennu trawiadol a’i ffenestri lliw, ac roedd yn peintio’n ogystal.
Mae tua phedwar ugain o’i weithiau celf, neu ffotograffau ohonynt, i’w gweld mewn arddangosfa ganmlwyddiant yn Oriel Plas Glyn-y-Weddw, Llanbedrog. Mae’r gweithiau’n rhychwantu hanner canrif o oes artist cynhyrchiol a gredai’n angerddol mewn celfyddyd gyhoeddus. Ac mae llyfr newydd yn taflu goleuni ar y modd y penderfynodd Jonah ddod yn artist yn y lle cyntaf, sef cyfrol o lythyrau a ysgrifennodd, fel gŵr ifanc adeg yr Ail Ryfel Byd, at wraig o’r enw Mona Lovell. Yn annisgwyl y daeth y llythyrau dadlennol hyn, a gyhoeddir yn Dear Mona: Letters from a Conscientious Objector (Seren Books), i sylw mab Jonah, y newyddiadurwr Pedr Jones, sef golygydd y gyfrol.