– gwaith Stephen John Owen
Mae Stephen John Owen, y gwelir ei waith yn Oriel Plas Glyn-y-weddw ar hyn o bryd, yn artist sy’n tynnu’n gryf ar ei fagwraeth am ysbrydoliaeth. Mae’r rhan fwyaf o’r bobl sydd yn ei luniau yn perthyn i oes sydd wedi mynd heibio, ond maent yn parhau’n fyw iawn iddo ef. Chwarelwyr a thyddynwyr yn mynd o gwmpas eu pethau yw llawer ohonynt, pobl debyg i’r rhai y cofia’u gweld yn y 1960au a’r 1970au wrth iddo dyfu i fyny ym Môn ac Arfon.
‘Cofi dre go iawn o’dd mam. A ’nhad o Sir Fôn. O Borth Swtan,’ meddai. ‘Yn Sgubor Goch, C’narfon, ges i ’ngeni, a symud wedyn i Borth Swtan at Nain a Taid. Tyddyn bach o’dd ganddyn nhw, mewn llecyn braf uwchben y traeth. A fanno fues i nes o’n i’n chwech oed. Symud yn ôl i G’narfon wedyn am bod Nain Dre yn wael. O’n i’n nabod neb pan symudon ni’n ôl i’r dre.’