Mae murlun ac arno’r geiriau ‘The Future is Europe’ yn sefyll ger fy nghartref ym Mrwsel. Heddiw, i mi, mae eironi brathog i’r geiriau. Nid yr Undeb Ewropeaidd mo dyfodol Cymru bellach wrth inni gefnu ar y sefydliad sydd wedi cyfoethogi ein bywydau ers bron i hanner canrif.
Daeth Ewrop yn ail gartref diwylliannol ac ysbrydol i’r Gymraes hon. Fe’m croesawyd â breichiau agored gan ddinasoedd Madrid, Lwcsembwrg a Brwsel lle bûm yn byw, a bydd darnau ohonof yn perthyn am byth i’r cilfachau hynny. Yr UE, a’r rhyddid llwyr i symud, astudio a gweithio yn ei gwledydd godidog, a hwylusodd y profiad. Yn naturiol, mae Brexit a’i rwystrau yn brifo.
Nid canu mawl yr UE na lambastio Brexit yw fy mwriad yma. Yn wir, er y darogan gwae, cafwyd cytundeb masnach mewn pryd gan ddod â’r cyfnod pontio i ben yn ddigon di-gythrwfl, ac mae Covid-19 yn llawer mwy o gysgod dros ein ffordd o fyw ar hyn o bryd. Ond, waeth beth oedd ein safiad ar Brexit, annoeth fyddai colli cyfle i fyfyrio ar ddiwedd cyfnod sydd wedi agor briw eger ar feinwe gwleidyddol a chymdeithasol ein cenedl, ac sy’n bygwth gadael craith barhaol ar ein democratiaeth a’n bri rhyngwladol.
Cafwyd cytundeb noswyl Nadolig a chonsensws ar y materion sydd wedi hollti barn ers misoedd, yn cynnwys trafnidiaeth, cyfraith a threfn, egni a physgodfeydd. Gall masnachu di-gwota a di-dariff barhau, gan esmwytho pryderon busnesau Cymru sy’n anfon 61% o’u hallforion i wledydd Ewrop. Ond does dim osgoi’r gwirionedd mai codi rhwystrau newydd a wna’r cytundeb ar ffurf datganiadau tollau dyrys a gwiriadau ar darddiad a diogelwch nwyddau ar y ffin. Gallai’r rhwystrau fod yn hoelen olaf yn arch rhai busnesau sydd eisoes yn gwegian dan effeithiau’r pandemig.