Ychydig cyn Nadolig 2021 cynigiodd darganfyddiadau DNA ateb newydd i’r cwestiwn uchod, un sydd wedi peri cryn benbleth i haneswyr, ieithyddion, ac archaeolegwyr fel ei gilydd.
Mae’n gwestiwn pwysig am fod yr iaith Gymraeg yn greiddiol i hunaniaeth y Cymry Cymraeg ers yr Oesoedd Canol. Y gred bryd hynny oedd mai hi oedd iaith gysefin Prydain, iaith a ddaethai i’r ynys wag hon gyda ffoaduriaid o Gaerdroea yn Nhwrci. Darfu am y myth hwnnw yn y 18g. pan welodd Edward Lhwyd fod y Gymraeg, y Gernyweg a’r Llydaweg yn perthyn i’r Wyddeleg ac i hen ieithoedd y Celtiaid cyfandirol. Yna, sylweddolodd Syr William Jones fod mamiaith Geltaidd y rheini’n disgyn o nainiaith goll, sef yr Indo-Ewropeg.
Cytuna pawb fod y gangen Geltaidd wedi ymwahanu oddi wrth yr Indo-Ewropeg wrth i’r nainiaith honno symud tua’r gorllewin a disodli ieithoedd hŷn. Ond pa mor bell yr aeth cyn i’r gangen Geltaidd ymwahanu? Mae tair damcaniaeth.