Darllenwch i gael barn John Rowlands a Beca Brown am ‘y busnes beirniadu’, i weld pam y mae Guto Bebb yn cyhuddo Llywodraeth y Cynulliad o ‘wleidyddiaeth undeb y myfyrwyr’ a pham y mae John Pierce Jones yn rhyfeddu at draha mewnfudwr ym Môn. Darllenwch i gael gwybod am oriel ar-lein newydd curadur o Gaerdydd, am straeon ysbrydion sy’n plesio Elin Llwyd Morgan ac am straeon doniol o’r 1930au sy’n dal i oglais Gareth Miles. Bachwch gopi a mwynhewch ysgrifennu gorau’r wasg Gymraeg.
Ron Jones
Cadeirydd gweithredol Tinopolis, un o’r cwmnïau cyfryngol mwyaf ym Mhrydain, sy’n ymateb i ffigyrau gwylio S4C. Ond nid y Sianel yn unig sydd ar brawf, meddai, ond Cymreictod. A phawb ohonom ni’r Cymry.
Cipiodd S4C y penawdau ym mis Mawrth – a hynny ar dudalen 3 papur y Sun, yn cysgodi islaw Stacey, 22, o Portsmouth. Efallai i Stacey lwyddo i ddenu sylw’r darllenwyr rhag canolbwyntio ar asesiad deallusol o S4C. Ond mae’r honiadau ar dudalen 3 nad yw llawer o raglenni’r Sianel yn cael eu gwylio gan neb yn porthi rhagfarnau hir-sefydledig yn erbyn S4C a’r iaith. Yn y cyfamser, mae’r Western Mail, Papur Cenedlaethol Caerdydd, yn parhau â’i ymgyrch newydd yn erbyn S4C.