Ebrill 2012

Prif ddigwyddiad gwleidyddol Cymreig y mis diwethaf fu ethol arweinydd newydd Plaid Cymru ac yn y rhifyn hwn cewch ddarllen ymateb rhai o’n colofnwyr i fuddugoliaeth Leanne Wood. ‘Cam beiddgar’ fu ei hethol, meddai Richard Wyn Jones ond yn ôl Chris Cope mae’r Blaid, drwy ddewis y ferch o Gwm Rhondda, wedi ‘dewis y llwybr i ddinodedd’. Mae Angharad Tomos yn ateb sylwadau Richard Wyn Jones am Gymdeithas yr Iaith yn y rhifyn diwethaf a Bethan Kilfoil yn cymharu sefyllfa’r iaith Wyddeleg â chyflwr y Gymraeg. Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru, sydd ar y soffa ar gyfer Cyfweliad Barn y mis hwn, yn trafod sut mae mynd â llenyddiaeth i’r priffyrdd a’r caeau – ar gyllideb sydd wedi’i rhewi. Ceir ysgrifau coffa i Emlyn Hooson a Mervyn Davies, erthygl yn ailgloriannu’r bardd a’r newyddiadurwr John Eilian, golwg ar wasg yr Alban, adolygiad o 'Gair ar Gnawd', oratorio newydd Pwyll ap Siôn a Menna Elfyn, a llawer iawn mwy.

I Wigan Mr Strangle efo’r Elyrch

Derec Llwyd Morgan

Wel, am fis Mawrth o chwaraeon! Cymru’n cyflawni’r Gamp Lawn ar y cae rygbi am y trydydd tro mewn wyth tymor, a hynny gydag artistri ac argyhoeddiad; Rory McIlroy o Ogledd Iwerddon yn dod yn Rhif 1 ym myd y golff; rhai o nofwyr Cymru’n ennill eu lle yn y Gemau Olympaidd; a thîm pêl-droed Abertawe (nad oes neb ynddo’n ennill un rhan o ddeg o gyflog Carlos Tevez) yn curo miliynyddion Manchester City.

Derec Llwyd Morgan
Mwy

Ar Ddu a Gwyn

Andrew Misell

Ddeugain mlynedd yn ôl aeth America a Rwsia benben â’i gilydd yn un o frwydrau rhyfeddaf y Rhyfel Oer – dros fwrdd gwyddbwyll yng Ngwlad yr Iâ.

Andrew Misell
Mwy

Mici Mows + Mistar Urdd = Anifail Annhebygol...

Beca Brown

Feddyliais i erioed y byddai gofyn imi fynd i brifddinas Ffrainc ac i sefydliad Americanaidd er mwyn gweld Cymreictod yn cael sbloets a sioe. A feddyliais i chwaith y byddai parc gwyliau sy’n moli diddordeb y mwyafrif ac yn pedlera adloniant poblogaidd yn rhoi’r fath fri i ddiwylliant lleiafrifol, gan roi llwyfan ar yr un pryd i gongol lai fyth o’r lleiafrif hwnnw, sef aelodau’r Urdd.

Beca Brown
Mwy

Ethol Leanne – Cam Beiddgar

Richard Wyn Jones

Cafodd Leanne Wood fuddugoliaeth ysgubol ond mae sawl her aruthrol yn ei hwynebu fel arweinydd newydd Plaid Cymru.

‘If you really want to get on in the Blaid [noder, byth “Plaid”] you need to be a perpetual learner. That way, as long as you’re making the effort to learn, Welsh speakers will want to do all they can to encourage and support you. And so long as you haven’t quite mastered it yet then English speakers won’t think that you’ve abandoned them either!’

Richard Wyn Jones
Mwy

Ymgyrchwn o Hyd!

Angharad Tomos

 Gofynnodd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg am y cyfle i ymateb i sylwadau Richard Wyn Jones am y mudiad yn ein rhifyn diwethaf. Un o’i hymgyrchwyr mwyaf hirhoedlog sy’n cyfiawnhau gweithredoedd y Gymdeithas.

Llun gan Rhys Llwyd

Angharad Tomos
Mwy