Efallai fod amser bwyta wyau Pasg drosodd ond mae yna lawer ichi gael eich dannedd ynddo rhwng cloriau’r rhifyn diweddaraf. Darllenwch farn y meddyg teulu Catrin Elis Williams am ad-drefnu gwasanaethau iechyd yng Nghymru. Mae Will Patterson yn trafod fel y mae’r Unoliaethwyr wedi bod yn codi bwganod am Alban annibynnol. Rhannu ei brofiad fel rhiant i blentyn dyslecsig y mae John Pierce Jones y tro hwn. Mae Esyllt Nest Roberts de Lewis, sy’n byw yn y Wladfa, yn trafod rhamant a realiti mewn delweddau o’r Batagonia Gymreig. Ym myd llên mae Tudur Hallam yn rhoi ei farn am gystadlaethau a pholau piniwn llenyddol tra mae Elin Llwyd Morgan yn galw am fwy o onestrwydd mewn adolygiadau o lyfrau Cymraeg. Trafod ein arferion siopa rhagrithiol ni fel Cymry y mae Chris Cope. Ac yn ei golofn wyddoniaeth mae Deri Tomos yn sôn am y profiad ysgytwol pan gredodd ei fod wedi gweld y dyfodol. Dim ond rhai o’r rhesymau i brynu Barn Ebrill.
Vaughan Hughes
Cymro o Gaerdydd, Ivor Novello, oedd cyfansoddwr Keep the Home Fires Burning (’Till the Boys Come Home), cân a fu’n gymaint o gysur i anwyliaid y bechgyn a frwydrai yn uffern y Rhyfel Mawr. Trosiadol, wrth reswm, yw’r tanau y cyfeirir atyn nhw. Ond rywsut rywfodd mi ydan ni hefyd wedi llwyddo’n llythrennol i gadw’r tanau ynghyn ar ein haelwydydd drwy’r can mlynedd, bron, a aeth heibio ers cyfansoddi’r gân yn 1914. Fu hynny ddim yn hawdd bob amser. I’r gwrthwyneb. Bu’n felltigedig o anodd. Sigwyd Cymru rhwng y ddau ryfel byd gan ddirwasgiad a gychwynnodd yn gynt ac a barodd yn hirach yma nag yn unman arall yng ngwledydd Prydain.