Mae Iolo ap Dafydd yn trafod y tensiynau yn Wcráin, Andrew Misell yn edrych ar y cynnydd mewn gamblo, Vaughan Hughes yn amau doethineb penderfyniadau diweddar gan yr Urdd a'i Phrif Weithredwr, a Will Patterson yn sôn sut mae cynlluniau llywodraeth yr Alban i fynd i'r afael â phroblem goryfed wedi cythruddo gwerthwyr wisgi'r wlad. Un hoff o'i wisgi, ac un a bortreadir yn aml fel meddwyn anghyfrifol, oedd Dylan Thomas ond mae llyfr newydd gan Kate Crockett yn trafod ochr arall i'r dyn ac yn ailystyried ei Gymreictod hefyd.
Mae Barn bellach ar gael yn ddigidol yn ogystal ag mewn print, a hynny o fewn ap Cylchgronau Cymru. Ei bris yw £3.99, ond mae gostyngiad sylweddol wrth danysgrifio am flwyddyn am £39.99.
Mae pris Barn fel cylchgrawn print yn codi i £3.99 y mis hwn ond nid oes newid ym mhris tanysgrifiadau. Mae modd i chi danysgrifio yma neu drwy lenwi’r ffurflen sydd yng nghefn y cylchgrawn.
Bethan Kilfoil
Mae ymddiswyddiad Comisiynydd yr Iaith wedi bod yn sbardun i filoedd o bobl brotestio ar y strydoedd yn erbyn yr anghyfiawnderau dyddiol mae defnyddwyr y Wyddeleg yn eu dioddef wrth ymwneud â’r awdurdodau.
Rhyw chwe wythnos yn ôl ar bnawn Sadwrn yn Chwefror ymgasglodd pobl o bob oed ynghyd â’u plant a’u hwyrion yng nghanol Dulyn ar gyfer rali fawr o blaid y Wyddeleg. Roedd eu nod yn ddeublyg. Dathlu’r iaith – ‘Ry’m ni Yma o Hyd’. A phrotestio hefyd.
Roedd llawer ohonyn nhw’n gwisgo coch er mwyn dangos eu dicter eirias tuag at agwedd y llywodraeth a chyrff cyhoeddus – yn y Gogledd yn ogystal â’r Weriniaeth – tuag at yr iaith. Yn ôl y trefnwyr, Conradh na Gaeilge (corff annibynnol sy’n hyrwyddo’r Wyddeleg), roedd 10,000 o bobl yno. Teithiasant o bob rhan o’r ynys. Roedd y rali, medden nhw, yn gychwyn ar ymgyrch newydd egnïol i geisio sicrhau hawliau cyfartal i siaradwyr Gwyddeleg. Mae ’na gyfres o ralïau tebyg wedi eu trefnu – gan gynnwys un fawr ym Melffast ar 12 Ebrill. Bydd yr ymgyrchwyr hefyd yn targedu’r etholiadau lleol ac Ewropeaidd ym mis Mai.
Dyma i chi rai o’r anghyfiawnderau a oedd wedi ysgogi’r brotest: gwr ifanc yn ceisio dal pen rheswm yn y Wyddeleg gyda phlismon ar ôl cael ei stopio am drosedd fodurol. Cafodd ei gludo mewn cyffion i orsaf yr heddlu. A bu’n rhaid iddo aros am oriau nes y daethpwyd o hyd i rywun oedd yn medru’r iaith.
Protestiwyd hefyd yn erbyn sefyllfa lle mae’r sawl sy’n sgwennu mewn Gwyddeleg at y Gwasanaeth Iechyd yn cael ateb yn Saesneg.
Cythruddwyd eraill gan y ffaith bod cais gweddol rad a syml i osod labeli dwyieithog ar DVDs i ddynodi ar gyfer pa oedran y’u bwriadwyd wedi ei wrthod ar sail cwyn gan un person.
Protestiwyd yn erbyn sefyllfa lle mae nifer cynyddol o’r cynlluniau i sicrhau darpariaeth drwy’r Wyddeleg yn dibynnu ar ‘yr adnoddau sydd ar gael’. Hynny yw, bod y defnydd o’r iaith yn amodol, nid yn hawl diamwys..
Eto i gyd, y Wyddeleg yw iaith swyddogol Iwerddon. Os oes dadl gyfreithiol dros union ystyr neu ddehongliad geiriau’r Cyfansoddiad yn y Llys Uchaf, er enghraifft, y fersiwn Wyddeleg sy’n cael y flaenoriaeth. Er hynny, yn ymarferol, does gan ei siaradwyr ddim o’r un hawl i gyfathrebu gyda’r awdurdodau yn eu hiaith eu hunain ag sydd gan siaradwyr Saesneg. Hynny oherwydd agweddau rhai pobl mewn awdurdod a diffyg staff sy’n medru’r iaith mewn adrannau o’r llywodraeth. Mae hon yn broblem ddifrifol yn y Gaeltacht yn arbennig lle mae pobl yn ceisio byw eu bywydau trwy gyfrwng y Wyddeleg.
Ysywaeth, dydy hi ddim yn broblem newydd. Ond yn ôl yr ymgyrchwyr iaith mae’n gwaethygu. A hynny oedd wrth wraidd ymddiswyddiad Comisiynydd yr Iaith Wyddeleg ym mis Rhagfyr y llynedd.