Y mis hwn ymatebais i gyhoeddiad yng nghylchlythyr fy nghyngor lleol yn dweud ei bod yn ofynnol i mi a ’nhebyg, deiliaid trwyddedau gyrru Prydeinig, eu cyfnewid am drwyddedau Gwlad Belg. Pethau bychain cymharol ddibwys o’r fath sy’n ein hatgoffa o’r hyn y bydd Brexit heb gytundeb yn ei olygu o ddifrif. Yn sydyn fydd fy hen drwydded yn ddim ond dogfen ddiwerth, annilys. Yn groes i’r gred sydd gan yr Ymadaelyddion, dyw Brwsel i gyd ddim yn gaeth i fiwrocratiaeth ymgordeddog. Mae’r broses o ildio un drwydded yrru a derbyn un arall yn hynod o gyflym a didrafferth. Chymerodd y cyfan ddim mwy nag ugain munud i’w gwblhau. Ar derfyn y broses, dywedodd y swyddog, gan hanner gwenu: ‘Sori syr, ond fydd hi ddim yn bosib cadw’r categorïau ar eich hen drwydded Brydeinig oedd yn eich galluogi i yrru lorïau, bysys a thractorau.’
Onid yw Brexit yn beth melltigedig! Fy amddifadu o’r hawl i yrru lori, bws a thractor! A bod o ddifrif, y ffaith amdani yw nad oes ots gen i o gwbl am hynny. A dweud y gwir nid wyf wedi gyrru cerbyd o fath yn y byd ers imi basio fy mhrawf gyrru dros 30 mlynedd yn ôl. A does gen i ddim bwriad dechrau nawr. Ond pwy a ŵyr am y dyfodol? Ar hyn o bryd rwy’n beicio i bobman, yn aml ar feic sy’n defnyddio injan fach drydan i ysgafnhau’r gwaith pedalu. (Cofiwch, rhag imi ymddangos yn hunangyfiawn, mae gyda ni gar. Ond fy ngwraig sy’n ei yrru.)
Mae dogn go lew o ansicrwydd ynghlwm â bod yn newyddiadurwr llawrydd fel myfi. A fydd Brexit yn ychwanegu at yr ansicrwydd? Mae’n anodd dweud. Rhoddodd helyntion trofaus Brexit fywoliaeth dda i lawer ohonom ym Mrwsel, yn newyddiadurwyr, cyfreithwyr, lobïwyr, a phawb sy’n ymhél mewn sawl dull a modd â gwleidyddiaeth. Ond a fydd fy nghwsmer gorau – o safbwynt ffioedd, nid BARN, yn anffodus! – yn wynebu cyfnod anodd pan ddaw’r holl drafod a checru i ben? Fyddan nhw fy angen i o hyd? Os hynny, och fi, ni allaf bellach arallgyfeirio i yrru lori, bws neu dractor.