Wel, sut brofiad oedd o? Dyna’n fras y cwestiwn gan y golygyddion; cwestiwn tipyn yn wahanol i’r un cyson ers cyn y Dolig sef ‘Wyt ti’n gweld ei golli fo?’. Mewn gair mae ‘Na’ yn ateb yr ail gwestiwn yn ddigon taclus a chryno. Ond anoddach o’r hanner yw ymateb i gwestiwn y golygyddion. Sut brofiad oedd bod yn AS? Ydw i wedi dysgu unrhyw beth ar ôl treulio bron i ddegawd yn Aelod Seneddol Aberconwy?
Er pan oeddwn yn ddim o beth dwi wedi ymddiddori mewn gwleidyddiaeth – o’r darlun a grëwyd gennyf yn chwech oed yn ystod etholiad Hydref 1974 o Aelodau Seneddol yn eistedd mewn seddi crand ar hyd a lled Cymru i’m harddegau a’m hugeiniau cynnar pan oedd canfasio dros eraill yn fwynhad llwyr. Yn wir, roedd y bwlch rhwng etholiadau’n llawer rhy hir, ac roeddwn yn gwbl hyderus fod Aelodau Seneddol yn gallu gwneud gwahaniaeth a bod gwleidyddiaeth yn bwysig.