Does yna ddim drwg nad yw’n dda i rywun. Mae hynny’n wir hyd yn oed am bla dieflig Covid-19. Wrth gwrs mae marwolaeth 5,500 yn drychineb ac mi gymer flynyddoedd i greithiau’r pandemig a’r cyfnod clo gilio. Ond o safbwynt y wasg, codwyd proffil Cymru yn Brydeinig a daeth mwy yn ymwybodol o’n bodolaeth ac o fodolaeth y Senedd. Yn ogystal â hynny cynyddodd y diddordeb mewn newyddion a daeth dau wasanaeth newydd sbon danlli i fodolaeth yng Nghymru.
Adeg Gŵyl Dewi y ganwyd The National a Herald.Wales. Gwasanaeth newyddion ar-lein ydi’r ddau er bod The National wedi cyhoeddi papur print fel swfenîr efo’r rhifyn cyntaf. Mae’r Herald yn dweud ei fod o blaid annibyniaeth i Gymru a’r National yn amhleidiol. Yn ddiddorol, mae chwaer bapur y National yn yr Alban o blaid annibyniaeth yno.