Cymeriad. Cardi. Cyfathrebwr. Cocni. Dyna Dai Llanilar. Ond, yn bennaf, cyfathrebwr cynhenid. Roedd ffraethineb yr arweinydd Noson Lawen a’i ddiddordeb brwd mewn pobl o bob cefndir yn allweddol i’w lwyddiant fel seren deledu – seléb go iawn. Lle bynnag fyddai Dai, boed hynny mewn neuadd bentref, sioe, marchnad, mart neu dafarn, roedd e’n siarad â phobl, ac roedden nhw isie siarad â fe. Ond yn fwy na dim roedd Dai yn arbennig am gofio pobl a’u straeon.
Fe ddechreuodd ei yrfa yn y cyfryngau ar ddechrau’r 1970au pan gafodd ei ddewis i gyflwyno Sôn a Siân. Gyda dyfodiad Dai codwyd y sioe i lefel arall. Roedd ganddo ef a’i gyd-gyflwynydd Jenny Ogwen berthynas wych, a phenderfynwyd y dylai Dai fel cantor o fri ganu cân ar ddiwedd pob rhaglen.
Yna yn y 1980au, pan ddechreuodd S4C, roedd cynhyrchydd yn HTV, Geraint Rees, yn awyddus i gychwyn cyfres Cefn Gwlad. Cafwyd comisiwn, a Dai oedd y dewis annisgwyl ar y pryd i gyflwyno.