Ebrill 2024 / Rhifyn 735

Cip ar weddill rhifyn Ebrill

Ymchwiliad Covid Cymru - y dall wedi arwain y dall?Catrin Elis Williams

Diwrnod Rhyngwladol y Merched yn Rwsia ac WcráinNed Thomas

Gwleidyddiaeth y terasauBethan Kilfoil

Bod yn atebolCatrin Evans

Y gwobrau Michelin CymreigLowri Haf Cooke

Brenhines lliw - lluniau Glenys CourAndrew Green

Cofio’r hanesydd Beverley SmithHuw Pryce

Albwm newydd Cowbois Rhos Botwnnog - Albwm y Flwyddyn?Alun Cob

Mwy
Ursula von der Leyen
O Ewrop

‘Cynllun Rwanda’ a’i efelychwyr Ewropeaidd

Mae’r ymgyrchu ar gyfer etholiadau Ewropeaidd mis Mehefin wedi cychwyn a’r pleidiau bellach wedi cyhoeddi eu maniffestos. Yn gyfforddus ar frig yr arolygon barn y mae’r blaid adain dde brif ffrwd, a’u hymgeisydd Ursula von der Leyen yn dra thebygol o fod wrth y llyw yn y Comisiwn Ewropeaidd am bum mlynedd arall. Ond mae maniffesto ei phlaid wedi codi gwrychyn.

Ymysg yr addewidion, y mae cynllun i fynd i’r afael â’r nifer uchel o fewnfudwyr sy’n cyrraedd Ewrop drwy anfon ceiswyr lloches i ‘wledydd tramor saff’. Byddai’r gwledydd hynny wedyn yn gyfrifol am brosesu eu ceisiadau, ac os byddant yn llwyddiannus, yn cynnig lloches iddynt. Ydi, mae asgell dde tir mawr Ewrop am efelychu ‘cynllun Rwanda’ llywodraeth y Deyrnas Unedig.

Mared Gwyn
Mwy
Merch mewn lifrau milwrol yn gafael mewn tusw mawr o flodau
Gwleidyddiaeth

Rhyw flodau rhyfel

I’r rhai ohonom sy’n cychwyn y dydd yn darllen y wasg Wcreinaidd a Rwsiaidd, roedd papurau 8 Mawrth, Diwrnod Rhyngwladol y Merched, yn cynnig amrywiad lliwgar. Ochr yn ochr â’r arlwy gwleidyddol a milwrol arferol, a’r lluniau o fagnelau’n tanio, wele dudalennau llawn lluniau o ferched o bob oedran yn cario tusw o rosod neu diwlipau, neu lond côl o fimosa melyn; hefyd lluniau o ddynion yn prynu blodau i fynd adref. Cyn hanner dydd roedd y farchnad flodau awyr agored yn Odesa wedi gwerthu allan. Yn ôl y sôn, fe ddigwyddodd yr un peth y noson cynt yn Ciif. Dros y ffin yn Rwsia gwelwyd yr un math o olygfeydd.

Ned Thomas
Mwy
Golygfa gyda char unig ar draeth Ynyslas
Celf

Pobol leol yn unig?

‘Locals Only’ yw enw prosiect diweddaraf Maxime Voidy a fu’n artist preswyl yn Aberystwyth yn ddiweddar. Y brîff a osododd y Llydäwr o Rennes iddo’i hun oedd ymchwilio i effaith twristiaeth ar gymunedau arfordirol a hynny a ddenodd Ganolfan y Celfyddydau i gynnig preswyliad iddo. Roedd yn awyddus i ymchwilio i effaith y diwydiant ymwelwyr ar gymdogaethau Ceredigion.

Daw teitl y prosiect o’r graffiti a welodd yn yr Algarve, Portiwgal, sy’n amlygu’r eithafion sy’n perthyn i dwristiaeth. ‘Dyma ardal fwya llwm y wlad,’ meddai’r artist, ‘lle mae ’na lawer o fewnfudwyr o ogledd Affrica a lle mae ’na dlodi enbyd yn bodoli ochr yn ochr â gwestai pum seren.’

‘Mae’n bwnc sensitif,’ meddai ynglŷn â’r prosiect sy’n cwmpasu cymunedau tu hwnt i Gymru hefyd. ‘Rwyf wedi dysgu peidio â dod i unrhyw gasgliadau. Yn sicr mae ’na broblemau sy’n gyffredin ond mae gan bob ardal ei nodweddion penodol, ei hunaniaeth a’i phoblogaeth ei hun.’

Robyn Tomos
Mwy
Hanan Issa
Llên

Pastynu yn Gymraeg, Saesneg ac Arabeg

A hithau hanner ffordd drwy ei chyfnod fel Bardd Cenedlaethol Cymru, mae Hanan Issa yn dal i deimlo ‘anrhydedd’ y swydd.

Fel rhan o ddathliadau Mis Hanes Merched adran Athroniaeth a Chrefydd Prifysgol Bangor a Chanolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol Cymru, cefais y cyfle i sgwrsio gyda Hanan, sef Cymrawd Anrhydeddus cyfredol y Ganolfan, mewn cyfweliad cyhoeddus a gynhaliwyd dros Zoom.

Wrth drafod ei swyddogaeth fel y Bardd Cenedlaethol, nododd Hanan sut mae barddoniaeth yn cynnig ‘ffyrdd prydferth o gysylltu gyda phobl’, a’i bod wedi profi hynny yn ystod ei blwyddyn a hanner. ‘Mae pobl wedi bod yn dod ata i ar ddiwedd sesiynau yn dweud nad oedd barddoniaeth yn golygu dim iddyn nhw’n flaenorol, ond eu bod bellach wedi canfod rhywbeth yn y cyfrwng,’ meddai. ‘Rwy’n teimlo’n wylaidd iawn wrth glywed hynny.’ Ac yn arwydd o’r fath werthfawrogiad o ba mor ysbrydoledig ydi Hanan ac o’i dawn farddonol, derbyniodd anrheg yn 2023 gan Ganolfan Astudiaethau Islamaidd Prifysgol Caerdydd: pastwn.

Gareth Evans-Jones
Mwy
Carwyn Graves a chlawr llyfr Tir
Llyfrau

Dyn a daear – holi Carwyn Graves

Mae’r rhan fwyaf ohonynt wedi mynd erbyn hyn. Y placardiau mawr hynny yn ardal Machynlleth oedd yn gwrthwynebu cynlluniau ‘ailwylltio’ yr elusen Rewilding Britain. Yn 2019, fe gefnodd yr elusen ar ei chynlluniau yn wyneb corwynt o brotest gan drigolion lleol.

Yn ei ragymadrodd i Tir: The Story of the Welsh Landscape mae Carwyn Graves yn cyfeirio at yr helynt. Roedd elfen drefedigaethol iddo wrth i estroniaid geisio gorfodi eu modelau cadwraethol ar y brodorion. Ac roedd hyrwyddwyr y cynllun yn cynnig dewisiadau ecolegol ffug – naill ai natur neu bobl, naill ai gwylltir neu amaethwyr. Neges ganolog yr awdur yw bod y tirlun Cymreig yn llawn cymaint o greadigaeth ddynol ag ydyw o greadigaeth natur. Mae’r llyfr hefyd yn adlewyrchu sylweddoliad newydd ymhlith amgylcheddwyr. Y ffordd orau o amddiffyn bioamrywiaeth mewn unrhyw gynefin yw trwy amddiffyn y bobloedd a’r cymunedau sydd wedi byw am ganrifoedd law yn llaw â’r amrywiaeth hwnnw.

Peredur Lynch
Mwy
Marshaliaid UDA yn casglu ac yn dinistrio poteli gwin Rudi Kurniawan, Creedmoor, Texas, Rhagfyr 2015
Gwin ac ati

Hardy a Rudy a thwyllwyr eraill

Ers i win ddechrau cael ei greu mae pobl hefyd wedi ei ffugio, neu o leiaf wedi ychwanegu cynhwysion ato. Gwnaethant hynny am sawl rheswm – er mwyn iddo gadw’n foddhaol ar fordeithiau pell, er enghraifft, neu er mwyn iddo flasu’n well pan oedd y deunydd crai’n debycach i finegr. Ond gadewch i ni ganolbwyntio y tro yma ar bobl sydd wedi ffugio gwin er budd ariannol.

Bu dau achos tebyg iawn yn ystod y degawdau diwethaf, yn ymwneud â dau ddyn a welodd fod ffŵl cyfoethog a’i arian yn bethau hawdd eu gwahanu o roi abwyd iddo o win drud, prin. Yn y 1980au syfrdanwyd y byd gwin gan gasglwr o’r Almaen, a honnodd iddo ddod ar draws poteli o eiddo’r Arlywydd Thomas Jefferson. Roedd y ffugiwr, Hardy Rodenstock, wedi gwneud ei waith cartref – wedi cynnal ciniawau a swperau drudfawr i fyddigion y byd gwin ers blynyddoedd, a gweini’r peth go iawn yn amlach na pheidio i ennill ymddiriedaeth a pheri dryswch yn fwriadol.

Shôn Williams
Mwy
Gwilym Tudur
Ysgrif Goffa

Cofio Gwilym Tudur

Roedd Gwilym Tudur yn ffigwr allweddol yn neffroad ieithyddol y 1960au a’r 1970au yng Nghymru. Fe, yn fy nghof i, arweiniodd y criw o brotestwyr rhwystredig o’r Home Cafe i Bont Trefechan ym mis Chwefror 1963. Roedd rhwystro’r traffig yn syniad gwallgo ond fe lansiodd Gymdeithas yr Iaith ar lwybr hir a llwyddiannus o weithredu anghyfreithlon. Yn nes ymlaen, wrth sefydlu Siop y Pethe yn 1968, roedd Gwilym ar flaen y don o genedlaetholwyr ifanc a sefydlodd fusnesau Cymraeg yn y gorllewin. Gwilym, hefyd, yn un o gyfarfodydd y Gymdeithas, oedd y cyntaf i wyntyllu’r syniad o sianel deledu uniaith Gymraeg.

Roedd gan Gwilym ddylanwad gwleidyddol ond hefyd swyn personol. Roedd ei natur foneddigaidd a’i hiwmor yn cuddio argyhoeddiadau dyfnion, a etifeddodd trwy ei fagwraeth ddiwylliedig ar fferm Bryn Dewin yn Chwilog, Eifionydd.

Robat Gruffudd
Mwy
Vaughan Gething, Prif Weinidog newydd Cymru
Darllen am ddim

Buddugoliaeth niweidiol

O gofio’r cwmwl sy’n hofran drosto yn sgil rhai agweddau ar ei ymgyrch arweinyddol, mae ein colofnydd o’r farn fod amser anodd iawn o flaen Vaughan Gething, arweinydd newydd y Blaid Lafur yng Nghymru.

Ychydig dros bedair awr ar hugain wedi i’r Blaid Lafur Gymreig gyhoeddi mai Vaughan Gething fydd yn olynu Mark Drakeford fel ei harweinydd, derbyniais neges o anobaith gan gyfaill o Lafurwr yn gofyn ‘Sut yn y byd y gallwn ni gael gwared arno?’ Tybiaeth fy nghyfaill yw bod y modd yr enillodd Gething ei fwyafrif trwch-blewyn dros Jeremy Miles mor niweidiol i’w hygrededd – ac i enw da ei blaid – fel nad oes unrhyw fodd o adfer y sefyllfa. Mewn byr eiriau, mae’r llong wedi ei dryllio hyd yn oed cyn iddi geisio gadael y porthladd.

Rhag ofn fod yna unrhyw amheuaeth, mae fy nghyfaill yn berson sad sydd wedi rhoi degawdau o wasanaeth ffyddlon i’r blaid. O’m profiad i, o leiaf, nid yw’n un sy’n gorliwio nac yn gor-ddweud. Gwn o sgyrsiau a negeseuon eraill fod yna nifer dda o’i gyd-Lafurwyr yn teimlo’r un fath.

Pam y fath anobaith ar ran yr aelodau hyn ynglŷn â’r rhagolygon ar gyfer yr arweinydd newydd? Yn syml, oherwydd nad oes ganddynt unrhyw ffydd y bydd ymgeisydd (a thîm) a oedd yn fodlon ymddwyn fel y gwnaethant i sicrhau’r fuddugoliaeth fyth yn gallu deall a derbyn y niwed a wnaethpwyd ganddynt i’w plaid eu hunain yn eu hawydd i ennill costied a chostio. A hyd yn oed petai ganddynt lygaid i weld, nid oes ganddynt, yn ôl y beirniaid mewnol hyn yn y Blaid Lafur, y sgiliau angenrheidiol i gymodi’n llwyddiannus. O ganlyniad, y gorau y gellir gobeithio amdano yw na fydd Vaughan Gething yn gwneud gormod o niwed i’w blaid cyn iddo gael ei ddiorseddu.

Richard Wyn Jones