Vaughan Hughes
Ysgrifennir y golofn hon ar benwythnos pan fo’r papurau i gyd, y rhai trwm a’r rhai ysgafn, yn neilltuo erwau lawer o ofod i Michael Jackson a fu farw ar nos Iau 25 Mehefin yn hanner cant oed. Dyma’r canwr, y dawnsiwr a’r enaid clwyfus a dreuliodd ei oes fer yn chwilio am y plentyndod yr amddifadwyd ef ohono gan ofynion creulon showbiz. Enillodd sioe dalent efo’i frodyr, y Jackson Five, pan oedd o’n ddim ond chwech oed. Bu yn llygaid y cyhoedd o’r eiliad honno.