Mae’r haf yma. Ac mae’r rhifyn dwbl yma, yn eich gwahodd ar daith. I ardal Wrecsam yn ein hatodiad Eisteddfodol lliwgar, yng nghwmni Gareth Miles, Aled Lewis Evans, Elin Llwyd Morgan ac eraill. I’r Alban gyda Richard Wyn Jones a Will Patterson, i Iwerddon gyda Bethan Kilfoil ac i Fenis i ganlyn Iwan Bala. Neu, yn nes adref, i fyd Jarman a’i ganeuon, ar drywydd Slutwalk gyda Beca Brown, neu i bori mewn llyfrau gyda Gerwyn Wiliams sy’n craffu ar gystadleuaeth ‘Cyfaddawd y Flwyddyn’. Dros gan tudalen o’r ysgrifennu gorau – bachwch gopi.
Vaughan Hughes
Yn Chwefror eleni cofnodais yn y golofn hon mai cestyll Cymru, 641 ohonyn nhw, oedd hoff atyniad 10,000 o ymwelwyr tramor â’r ynysoedd hyn. Dyna ganlyniad arolwg a drefnwyd gan Awdurdod Twristiaeth Prydain.Wrth ein hannog i feddiannu ein cestyll a meddiannu ein diwydiant twristiaeth, dyfynnais ymateb cyn-Gyfarwyddwr Amgueddfa Cymru, Michael Houlihan. Nid lleoliad deniadol yng ngorllewin Prydain efo cestyll a mynyddoedd yw Cymru, medda fo. Mae Cymru’n genedl. Ac mae gan y genedl honno ei stori.