Wrthi'n pacio'r cês? Gofalwch roi copi o rifyn dwbl yr haf o Barn i mewn. Os ydych yn mynd i'r Eisteddfod, bydd ein hatodiad swmpus ar Fro'r Brifwyl yn ddarllen anhepgor i chi. Prynwch y rhifyn hefyd i gael ymateb Anna Brychan i ymddiswyddiad Leighton Andrews, i weld pa un yw hoff lun Swyddog Celf yr Eisteddfod, a pham y mae awdur Cwrs y Byd yn canmol y Sun. Mae Bethan Kilfoil yn disgrifio ymweliad hanesyddol John F. Kennedy ag Iwerddon hanner canrif yn ôl, a chan aros yn y 1960au mae Derec Llwyd Morgan, mewn pennod o'i gofiant newydd i Syr Thomas Parry, yn datgelu sut y trefnwyd i'r Tywysog Charles ddod yn fyfyriwr i Aberystwyth. Darllenwch sylwadau Beca Brown am agweddau cymdeithas at anabledd corfforol, barn ein colofnydd teledu am y 'canon o anhapusrwydd Cymreig', a sawl barn arall ddi-flewyn ar dafod. A darllenwch yn ofalus – er mwyn rhoi cynnig ar ein Cwis a chael siawns i ennill pecyn o lyfrau a chrynoddisgiau newydd gwerth £80.
Helen Williams-Ellis
Bro’r Brifwyl: Sir Ddinbych a’r Cyffiniau
Catrin o Ferain - Mam Cymru
Priododd Catrin o Ferain bedair gwaith er mwyn diogelu dyfodol ei stad, ac fe ysbrydolodd gerddi – ac ambell stori ofnadwy.
Llun: Amgueddfa Cymru
Peidiwch da chi â throi at lyfrau hanes os am wybod hynt a helynt un o ferched hynotaf Dinbych a’r cylch, Catrin o Ferain. Cwta baragraff sydd amdani yn Hanes Cymru, clasur Dr John Davies.
Yn hytrach ewch ar sgowt. Ewch i Eglwys Llannefydd lle claddwyd Catrin ar 1 Medi 1591, ond gair o rybudd rhag ofn i chi gael eich siomi: does yr un dim yno i’w choffáu. Ewch i chwilio am blasty bychan Berain, neu Lywenni neu Blas-y-ward, neu’n well fyth, ewch gam ymhellach i Gastell Gwydir ger Llanrwst i glywed gwich y drysau derw ac i deimlo ias yr awyrgylch yn y neuaddau ysblennydd. Ewch am dro i Eglwys Llanfarchell ar gyrion Dinbych i ryfeddu at feddrod mam yng nghyfraith gyntaf Catrin, Dâm Salsbri, peiriant o ddynes os bu un erioed. Yn well fyth, darllenwch nofelau gwych R. Cyril Hughes, Catrin o Ferain, Dinas Ddihenydd a Castell Cyfaddawd, os am drwytho’ch hun yn hanes ardal a thrigolion Dinbych a’r cylch yn yr 16g.