IAITH
Gobaith i’r Gymraeg yn Sir Gâr – ond a fydd y Cyngor yn ymateb i’r her?
Mae’r Gymraeg yn Sir Gaerfyrddin wedi diflannu’n araf ‘fel tywod mân rhwng ein bysedd’, yn ôl adroddiad Gweithgor y Cyfrifiad, Y Gymraeg yn Sir Gâr, a gyhoeddwyd yn gynharach eleni, a rhaid gweithredu ar frys ‘i atal y dirywiad hwn ac atgyfnerthu’r iaith i’r dyfodol’. Bu BARN yn holi Cadeirydd y Gweithgor, Cefin Campbell, pa mor obeithiol ydyw y bydd y Cyngor Sir yn ymateb i’r her a chreu hanes wrth adfer y Gymraeg yn y sir, gan osod cynsail i siroedd eraill.
‘Daeth canlyniadau Cyfrifiad 2011 yn sioc i garedigion yr iaith yn Sir Gâr ac mewn rhannau eraill o Gymru. Collwyd 6,148 o siaradwyr Cymraeg mewn degawd, sef lleihad o 6.4%, ac am y tro cyntaf yn ein hanes mae canran siaradwyr Cymraeg Sir Gâr wedi cwympo dan yr hanner (43.9%). Dyma’r gostyngiad mwyaf a welwyd yn unrhyw ran o Gymru. Dros ganrif yn ôl, roedd dros 90% o boblogaeth y sir yn ddwyieithog, gyda chanran sylweddol ohonynt yn uniaith Gymraeg. Bellach mae’r siaradwyr Cymraeg yn y lleiafrif.’
Geiriau Cefin Campbell, Cadeirydd Gweithgor y Cyfrifiad, yn ei ragair i’r adroddiad Y Gymraeg yn Sir Gâr, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth eleni.
Un o straeon pennawd mwyaf digalon ffigurau cyfrifiad 2011 oedd y gostyngiad yng nghanran siaradwyr Cymraeg Sir Gaerfyrddin. Cymaint oedd y cwymp fel y penderfynodd y Cyngor Sir fod rhaid gwneud rhywbeth, a sefydlwyd gweithgor.
Bu’r cyfnod diweddar yn un digon tymhestlog yn hanes y Cyngor, ac mae modd gweld y gweithgaredd a ddilynodd y penderfyniad hwn yn ffordd i’r Cyngor uno o gwmpas ‘stori dda’. Ond roedd hefyd yn ymateb dilys i’r sioc a brofodd pawb wrth glywed canlyniadau Cyfrifiad 2011. Oedd, roedd rhyw newid yn y gwynt.
Ar ôl cyfarfod 17 o weithiau rhwng Ebrill 2013 ac Ebrill 2014 daeth y gweithgor trawsbleidiol i gasgliadau unfrydol, a chyflwynwyd adroddiad, Y Gymraeg yn Sir Gâr*, dogfen gynhwysfawr gyda 73 o argymhellion pellgyrhaeddol. Fe’i derbyniwyd yn ei chrynswth gan y Cyngor Sir ac fe’i cymeradwywyd gan Gymdeithas yr Iaith, ond nid heb addo cadw llygad manwl ar amserlen y gweithredu.
Wrth baratoi’r adroddiad aed ati i gomisiynu ymchwil allanol ac edrychwyd yn benodol ar wyth o feysydd arbennig:
- Cynllunio
- Addysg
- Iaith ac Economi
- Gweithleoedd cyfrwng Cymraeg a Gweinyddiaeth y Cyngor
- Effaith sefydliadau sy’n gweithio er budd y Gymraeg megis y Mentrau Iaith
- Cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg yng nghymunedau’r sir
- Trosglwyddo’r iaith yn y teulu
- Marchnata’r iaith
Cefin Campbell, cynghorydd sir ward Llanfihangel Aberbythych yn Nyffryn Tywi, Cyfarwyddwr cyntaf Menter Cwm Gwendraeth (y fenter iaith gyntaf), a gwr a chanddo CV helaeth ym myd cynllunio iaith, oedd Cadeirydd ‘Gweithgor y Cyfrifiad’. Wrth sôn am y gwaith mewn llaw a’i obeithion ar gyfer y dyfodol yn Sir Gaerfyrddin mae ei frwdfrydedd yn heintus. Mae hefyd yn barod ei ganmoliaeth i aelodau’r gweithgor, gan grybwyll yr aelodau Llafur wrth eu henwau, a’r berthynas dda rhyngddo ac un ohonynt, ei is-gadeirydd Calum Higgins o Dy-croes.
Rhoddwyd gwleidyddiaeth o’r neilltu,’ meddai Cefin, ‘ac roedd y ffocws yn gyfan gwbl ar yr iaith. Roedd consensws ar bob un o’r argymhellion – dim anghytuno o gwbl.’....
... Ydi hi felly’n bosib adfer yr iaith yng Nghymru?
‘Ydi,’ yw ateb Cefin. ‘Does dim rheswm pam na allai ddigwydd. Mae ’run peth ag adeiladu ty – rhaid deall ble ’ry’n ni eisiau gorffen a chynllunio ar gyfer hynny. A’r cam nesaf fydd gweithredu’r argymhellion. Mae gennym y strwythur. O’i weithredu’n llawn gallwn weld newid sylweddol yn y deng mlynedd nesaf. Dw i’n eithaf calonogol, yn hyderus y gallwn ei wneud.’
Ond mae cwestiynau’n codi. Sut y caiff yr argymhellion hyn eu gweithredu? Pwy sy’n gyfrifol am roi hyn ar waith? I bwy maen nhw’n atebol? Pwy sy’n monitro hyn? Mae amser yn brin, felly ymhen deuddeg mis ble fyddwn wedi cyrraedd a phwy fydd yn mesur y cynnydd? Er mor grefftus y gamp wleidyddol o sicrhau derbyniad i adroddiad radical a chynhwysfawr, nid yw’r gwaith ond megis dechrau.
Mae cwmwl ar y gorwel eisoes. Bwriad y Cyngor yw sefydlu Panel Iaith Ymgynghorol, a’r Panel hwnnw fydd yn arolygu’r gwaith, yn gyrru’r argymhellion yn eu blaenau. Neu – a man a man i ni wynebu’r perygl – yn arafu, yn glastwreiddio, yn rhwystro, neu’n oddefol yn y gwaith monitro. Mae cadeiryddiaeth y Panel newydd hwn yn gwbl allweddol, felly, ond wrth i Barn fynd i’r wasg daeth y newyddion syfrdanol nad Cefin Campbell fyddai’r cadeirydd hwnnw. Er ei lwyddiant digamsyniol fel Cadeirydd y Gweithgor, a’i holl brofiad ym maes cynllunio iaith, mae’n amlwg nad yw pawb am ei weld fel cadeirydd egnïol ar banel fyddai’n bwrw iddi ar frys, ac mae brys, i weithredu argymhellion yr Adroddiad yn eu holl gyflawnder.
Mae modd darllen y ddogfen Y Gymraeg yn Sir Gâr drwy ddilyn y ddolen: