Gorffennaf 2015 i Awst 2015 / Rhifyn 630-631

Beth wyt ti... a phwy wyf fi?

Gyda’r holl sôn am ‘Better Together’ yr etholiad, ac yna ‘Stronger Together’ tîm pêl-droed Cymru, mae’r cwestiwn o hunaniaeth yn dysan boeth unwaith eto, a hynny mewn sawl maes... Mae’r busnes hunaniaeth wastad wedi achosi bod gen i ’chydig o sglodyn ar fy ysgwydd i hefyd, a siarad yn bersonol. Teimlaf weithau ’mod i’n ormod o Saesnes o ran tras i blesio rhai Cymry, a ’mod i wedi mynd i ormod o eithafon efo’r ‘go native’ i fedru perthyn byth i unrhyw beth Seisnig.

Beca Brown
Mwy
Dei Fôn sy’n dweud

Talu chwech i’r doctor

Mae’r Gwasanaeth Iechyd yn cael ei feirniadu o bob cyfeiriad, ond pa mor deg yw’r holl feirniadu? A beth yw’r ateb i’w broblemau?
Rydw i’n un o blant y Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Gwarchodaeth y Gwasanaeth Iechyd sy’n bennaf cyfrifol mai fy nghenedlaeth i yw’r gyntaf i oroesi peryglon plentyndod bron yn ei chrynswth, y gyntaf lle mae’r mwyafrif yn cyrraedd canol oed diweddar yn weddol iach ac, yr un mor bwysig, y gyntaf i beidio bod angen dannedd gosod. Cyn fy ngeni, roedd ’na bennill poblogaidd ym Môn:

‘Doctor, Doctor, Doctor,
Mae gen i boen yn f’ochor,
Ond gwell gen i ollwng pwmp o rech
Na thalu chwech i’r doctor.’

Dyna oedd dagrau pethau cyn Aneurin Bevan a’i weledigaeth fawr. Os nad oedd gennych chwech yr unig feddyginiaeth oedd dioddef, neu weddi ac eli dail.

Dafydd Williams
Mwy
Cyfweliad Barn

Llywio’r llong drwy’r dymestl – Holi Ian Jones, S4C

Nid y cyfnod presennol yw’r cyfnod hawsaf na sicraf yn hanes S4C. Ond mae dyn bythol optimistaidd, sy’n mynnu ei fod yn edrych ar bob her fel cyfle, wrth y llyw.
‘Defnyddies i bump gair yr adeg hynny,’ meddai Ian Jones, gan gyfeirio at Ionawr 2012 pan gymerodd awenau S4C, ‘i grynhoi be o’n i eisiau ei wneud wrth symud ymlaen a sut o’n i eisiau gweld pethe’n newid, a’r geirie hynny oedd cydweithio, cyfathrebu, hyder, uchelgais a bod yn feiddgar. A dwi’n dal i feddwl bod y geirie hynny’n ddilys heddi, achos does dim ots faint o gyllid s’gennoch chi gallwch chi fod yn hyderus, gallwch chi fod yn feiddgar a gallwch chi fod yn bositif o edrych ar bopeth fel cyfle.’

Elain Price
Mwy

Cip ar Faldwyn a’r Gororau: Sir artistiaid – Holi Christine Mills ac Eleri Mills

Mae dwy gyfnither o fro’r Eisteddfod ei hun wedi cyfrannu at arddangosfa Y Lle Celf eleni, a hynny mewn ffyrdd tra gwahanol i’w gilydd – y naill fel artist a’r llall fel Cadeirydd y Pwyllgor Celf.
Mae gwaith y ddwy gyfnither yn ddyledus iawn i’r tir o’u cwmpas a’r gymdeithas y cawsant eu magu ynddi. Uwchben coffi yng ngweithdy Christine Mills mae cyfle i drafod y gwaith fydd ganddi yn y Lle Celf yn yr Eisteddfod ym Meifod eleni gyda’i deitl eironig ‘Y Carped Coch’, sydd yn cael ei wneud o wlân wedi’i gribo a’i liwio’n wahanol fathau o wyrdd.
Rownd y gornel i weithdy Christine mae gweithdy ei chyfnither Eleri Mills, ac mae hithau’n brysur heddiw yn ceisio gorffen gwaith ar gyfer yr Eisteddfod. Bydd ei chyfres o baentiadau yn seiliedig ar Fathrafal a’r ardal gyfagos yn cael eu harddangos yn stondin ‘...A chrefft’. Ond mae prysurdeb gwahanol i’r creu wedi dod i’w rhan dros y ddwy flynedd diwethaf gan mai hi yw Cadeirydd y Pwyllgor Celf.

Menna Baines
Mwy

Ydi Cymru’n cael ei chymhathu i wleidyddiaeth Lloegr? (Un i’r anoraciaid!)

Asesiad mewn cyhoeddiad Llundeinig o etholiad cyffredinol Mai dan y pennawd ‘Llafur yn marw eto’ sydd wedi ysgogi’r ysgrif hon.
Gan amlaf, nid wyf yn gweld diben mewn gwastraffu amser yn poeni am sylwadau anwybodus am Gymru a’r Cymry yn y cyfryngau Saesneg.
Serch hynny, mae ’na eithriadau.
Mae pobl ddifrif yn cymryd y London Review of Books o ddifrif. A dyna pam ei fod yn werth pwyllo dros eiriau Ross McKibbin yn ei asesiad awdurdodol o etholiad cyffredinol mis Mai a gyhoeddwyd gan yr LRB dan y pennawd ‘Labour dies again’.
Yn ôl McKibbin:
‘The Tories did well in Wales, taking two seats from Labour and one from the LibDems – part of a process by which Wales is being assimilated into English politics.’

Richard Wyn Jones, Roger Scully
Mwy
Materion y mis

Cyflafan Tiwnisia

Beth, yn sgil ymosodiad gwaedlyd Tiwnisia, yw’r ateb i derfysgaeth y Jihadwyr? Yn ôl y disgwyl, fe gafodd mesurau diogelwch eu cryfhau mewn ambell i le ar draws y byd... Ond dwi ddim yn teimlo’n fwy diogel – ac mae lle i gredu mai cynyddu wnaiff y perygl i bob un ohonom.
Codi ofn wrth gwrs, yw pwrpas creulondeb cynyddol y dulliau o ladd. A chodi ofn ar dwristiaid y gorllewin oedd lladdfa Tiwnisia... Mae ar IS ofn Tiwnisia. Dyma fan cychwyn y Gwanwyn Arabaidd, a’r unig wlad sydd wedi arddel democratiaeth yn ei sgil, wrth i’r gweddill – Libya, yr Aifft, Syria, ac Yemen – ddioddef ymladd ac anrhefn. Mae democratiaeth Tiwnisia’n parchu crefyddau heblaw Islam, a’r ddemocratiaeth honno yw’r bygythiad mwyaf i’r terfysgwyr.

Tweli Griffiths
Mwy